Gwasanaethau Cyfreithiol: Helpu defnyddwyr i ddewis cyfreithiwr
Cyhoeddwyd 15 Rhagfyr 2016
Mae ein hargymhellion wedi eu cynllunio i sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus ynghylch y pris neu wasanaeth y gallant ddisgwyl wrth gyflogi cyfreithiwr.
Rydym wedi gofyn i reolyddion gyflwyno safonau uwch
Bydd gofyn i gyfreithwyr gyhoeddi prisiau ar eu gwefan fel bod prisiau yn dryloyw.
Bydd cyfreithwyr yn cael eu hannog i ymgysylltu gydag adolygiadau a graddiadau fel bod cwsmeriaid yn gwybod o flaen llaw pa mor dda yw eu cyfreithiwr.
Am y tro cyntaf bydd cwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod ganddynt yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.
Rydym wedi gofyn i reolyddion ddarparu eu data i drydydd part茂on
Bydd data yn cael ei gyhoeddi gan reolyddion cyfreithiol i hwyluso offer cymharu i helpu cwsmeriaid i ganfod y cyfreithiwr cywir.
Marchnad sy鈥檔 well i bawb
Bydd yr argymhellion yn gwneud y farchnad yn fwy cystadleuol, a fydd yn annog cyfreithwyr i wneud eu gwasanaethau a busnesau yn fwy effeithiol ac i gynnig gwell ansawdd.
Rydym eisiau i gwsmeriaid gael y diogelwch priodol
Rydym wedi argymell bod y llywodraeth yn adolygu os oes gan gwsmeriaid i ddarparwyr heb awdurdod fynediad digonol at unioniad.
Rydym eisiau sicrhau bod rheoleiddio yn annog cystadlu ac arloesi
Rydym wedi argymell fod y llywodraeth yn adolygu鈥檙 fframwaith rheoleiddio ar gyfer y tymor hwy.
Dylai cyfreithwyr fod mor hawdd i鈥檞 cymharu ag unrhyw beth arall a brynwch. Cofiwch chwilio am y fargen orau.
Rydym yn newid y farchnad gyfreithiol i wneud cyflogi cyfreithiwr yn haws ac yn fwy teg.
Cyflawnodd y CMA ymchwiliad i鈥檙 farchnad sy鈥檔 cwmpasu gwaith pob proffesiwn cyfreithiol.
Fe ganfu bod yna broblemau o ran tryloywder prisiau ac ansawdd ac nad oedd gan gwsmeriaid yr wybodaeth ofynnol cyn cyflogi cyfreithiwr.