Taflen 01- Cyflwyniad i RAIB
Published 1 October 2012
1. Beth yw RAIB?
Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yw鈥檙 corff annibynnol i ymchwilio i ddamweiniau rheilffordd ar gyfer y DU.
Mae RAIB yn ymwneud ag ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau ar:
- rwydweithiau rheilffordd cenedlaethol ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon
- twnnel y Sianel (ar y cyd 芒鈥檙 corff cyfatebol yn Ffrainc)
- systemau tanddaearol Llundain a Glasgow a systemau metro eraill
- tramffyrdd
- rheilffyrdd treftadaeth (gan gynnwys systemau leiniau bach cul sydd dros 350mm o led)
- systemau sy鈥檔 cael eu gyrru ar geblau o 1km neu fwy
Diben ymchwiliad RAIB yw gwella diogelwch ar reilffyrdd, ac atal damweiniau eraill rhag digwydd.
Mae RAIB yn cyflawni hyn trwy ddynodi achos damweiniau ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill a wnaeth gyfrannu at y digwyddiad neu a wnaeth y canlyniadau鈥檔 waeth, fel ffactorau technegol neu weithredol neu rai鈥檔 deillio o systemau rheoli.
Mae ymchwiliadau RAIB yn hollol annibynnol ac maent yn canolbwyntio鈥檔 unig ar wella diogelwch. Nid yw RAIB yn rhannu bai neu atebolrwydd nac yn gorfodi鈥檙 gyfraith nac yn erlyn.
2. Pam y ffurfiwyd RAIB?
Argymhellwyd ffurfio corff i ymchwilio鈥檔 annibynnol i ddamweiniau rheilffordd gyda鈥檙 nod o wella diogelwch yn adroddiad ymchwiliad yr Arglwydd Cullen ar ddamwain rheilffordd Ladbroke Grove ym 1999.
Sefydlwyd RAIB gan Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003. Rhoddodd y Ddeddf yr hawl i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddarparu鈥檔 fanwl mewn rheoliadau - Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005 - am bwerau a dyletswyddau RAIB, cwmpas ei waith a鈥檌 ymwneud 芒 phobl eraill a chyrff sy鈥檔 ymwneud 芒 damweiniau rheilffyrdd. Y Rheoliadau oedd yn galluogi RAIB i ddod yn weithredol.
Trwy sefydlu RAIB mae鈥檙 DU hefyd yn cyflawni ei dyletswydd i ddarparu corff ymchwilio annibynnol i ddamweiniau rheilffyrdd dan Gyfarwyddeb Diogelwch Rheilffyrdd Ewrop (2004/49/EC).
3. Sut mae RAIB wedi ei drefnu?
Mae RAIB yn annibynnol ar y diwydiant rheilffyrdd, rheoleiddwyr diogelwch a chyrff erlyn. Yn yr un modd 芒鈥檙 Canghennau Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr a Morol (AAIB a MAlB) mae RAIB yn rhan o鈥檙 Adran Drafnidiaeth, ond mae鈥檔 swyddogaeth annibynnol: mae鈥檙 Prif Arolygydd yn rhoi adroddiadau ar ymchwiliadau i ddamweiniau yn uniongyrchol i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
4. Ble mae canolfannau RAIB?
Mae gan RAIB ganolfannau gweithredol yn Derby a Woking. Mae鈥檙 lleoliadau hyn yn galluogi Ymchwilwyr RAIB i ymateb mor gyflym 芒 phosibl i ddamweiniau sy鈥檔 digwydd yn unrhyw ran o鈥檙 DU.
5. Pa ddamweiniau y mae RAIB yn ymchwilio iddynt?
Yn 么l y gyfraith mae鈥檔 rhaid i RAIB ymchwilio i bob damwain rheilffordd sy鈥檔 ymwneud 芒 direilio neu wrthdrawiad sy鈥檔 arwain, neu a all arwain at:
- farwolaeth un unigolyn o leiaf
- anaf difrifol i bump neu ragor o bob
- ddifrod sylweddol i gerbydau, yr isadeiledd neu鈥檙 amgylchedd
Gall RAIB hefyd ymchwilio i ddigwyddiadau eraill sydd ag oblygiadau i ddiogelwch ar y rheilffyrdd, gan gynnwys y rhai a allai, mewn amgylchiadau ychydig yn wahanol, fod wedi arwain at ddamwain.
6. Pwy sy鈥檔 hysbysu RAIB am ddamwain?
Pan fydd damwain yn digwydd, mae鈥檙 ddyletswydd i hysbysu RAIB ar gyrff y diwydiant rheilffyrdd (rheolwyr isadeiledd rheilffordd, gweithredwyr rheilffyrdd neu鈥檙 rhai sy鈥檔 cynnal a chadw) y mae eu staff neu eu heiddo yn rhan o鈥檙 ddamwain neu ddigwyddiad.
7. Sut mae RAIB yn ymateb i鈥檙 hysbysiad?
Os bydd damwain neu ddigwyddiad yn digwydd, bydd RAIB yn penderfynu ar ei ymateb, a bydd y canlynol yn dylanwadu arno:
- a yw鈥檙 ymchwiliad yn orfodol dan y gyfraith
- a oes tystiolaeth bwysig yn y fan a鈥檙 lle
- a yw鈥檔 rhan o duedd
- y problemau diogelwch dan sylw
Bydd yr ymateb yn amrywio o anfon Arolygwyr i鈥檙 safle ar unwaith, presenoldeb a dilyn wedi i鈥檙 isadeiledd gael ei glirio (ee depot cynnal a chadw), hyd at oruchwylio cyfarwyddo eraill wrth iddynt gynnal ymchwiliad.
Gall RAIB benodi eraill i鈥檞 cynorthwyo i ymchwilio, gan gynnwys Asiantau Achrededig, a all gynorthwyo i gofnodi tystiolaeth ar safle鈥檙 ddamwain, a gwasanaethau arbenigol.
Ceir gwybodaeth fanylach am Asiantau Achrededig yn Nhaflen 03 - An introduction to Accredited Agents. Lawrlwythwch o
8. Pwy sy鈥檔 cynnal ymchwiliadau RAIB?
Er mwyn cynnal ei ymchwiliadau mae RAIB wedi penodi a hyfforddi Arolygwyr a recriwtiwyd o鈥檙 diwydiant rheilffyrdd a chyrff ymchwilio eraill. Maent yn brofiadol,mae ganddynt gymysgedd eang o sgiliau ar draws y diwydiant rheilffyrdd ac maent wedi eu hyfforddi mewn technegau ymchwilio. Mae gan holl arolygwyr RAIB gerdyn gwarant.
9. Beth sy鈥檔 digwydd ar leoliad y ddamwain?
Apr猫s un accident, plusieurs enqu锚tes peuvent 锚tre Yn dilyn damwain, efallai y bydd nifer o ymchwiliadau yn cael eu cychwyn gan gyrff gwahanol. Mae amcanion yr ymchwiliadau hyn yn wahanol.
Mae RAIB yn cynnig ffocws ac arweiniad i鈥檙 ymchwiliad technegol i achosion a chanlyniadau鈥檙 ddamwain. Ond nid yw r么l yr heddlu, Swyddfa鈥檙 Goron a鈥檙 Gwasanaeth Procuradur Ariannol (COFPS) yn yr Alban, na鈥檙 Awdurdod Diogelwch [footnote 1] yn cael ei newid gan fodolaeth RAIB. Gall yr asiantaethau hyn ymchwilio i ddarganfod os torrwyd y gyfraith.
Mae ymchwiliadau RAIB fel arfer yn golygu bod Arolygwyr yn ymweld 芒 lleoliad y ddamwain, yn asesu beth a ddigwyddodd ac yn casglu鈥檙 dystiolaeth sy鈥檔 angenrheidiol i ddarganfod achos y ddamwain.
Fel rhan o鈥檙 gwaith o gasglu tystiolaeth o鈥檙 lleoliad, gall Arolygwyr RAIB gymryd datganiadau gan bobl oedd yn dystion i鈥檙 ddamwain.
10. Pa dystiolaeth y mae RAIB yn chwilio amdani?
Gall tystiolaeth am achos y ddamwain ddeillio o nifer o wahanol ffynonellau gan gynnwys y trenau, y traciau, y system signalau a rhannau eraill o鈥檙 isadeiledd, neu ddogfennau cynnal a chadw, dylunio a hyfforddi.
Gall hefyd fod ar ffurfiau gwahanol, gan gynnwys offer wedi鈥檌 ddifrodi, data o offer monitro ar drenau ac yn y system signalau, neu gofnodion parthed gweithgareddau a chynnal a chadw.
11. Pwy sy鈥檔 gyfrifol am dystiolaeth?
Bydd RAIB yn rhannu tystiolaeth ddiriaethol a dogfennol parthed yr ymchwiliad 芒 chyrff eraill 鈥� gan gynnwys yr heddlu, COPFS a鈥檙 Awdurdod Diogelwch [footnote 1]. Ond, ni fydd yn datgelu tystiolaeth a gafwyd gan bobl sydd wedi rhoi datganiadau tystion i鈥檙 arolygwyr i unrhyw un.
Gellir cael gwybodaeth fanylach am y modd y mae RAIB yn gwarchod manylion am dystion a鈥檜 datganiadau yn Nhaflen 02 - Eich Datganiad Tyst. Lawrlwythwch o
12. Beth yw pwerau RAIB?
Mae pwerau RAIB a鈥檌 Arolygwyr 鈥� a鈥檙 fframwaith ar gyfer rhoi adroddiadau ar ddamweiniau ac ymchwilio iddynt 鈥� yn cael eu nodi yn y Ddeddf Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003 ac yn y Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005.
Mae gan Arolygwyr RAIB y p诺er i:
- gael mynediad i eiddo, tir neu gerbydau鈥檙 rheilffyrdd
- atafaelu unrhyw beth sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 ddamwain a gwneud cofnodion
- gofyn am fynediad at gofnodion a gwybodaeth a鈥檜 datgelu
- ei gwneud yn ofynnol i bobl ateb cwestiynau a rhoi gwybodaeth am unrhyw beth sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 ymchwiliad
13. Sut mae RAIB yn gadael i bobl wybod am fanylion eu hymchwiliadau?
Mae RAIB yn cyhoeddi adroddiadau ar bob damwain y mae鈥檔 ymchwilio iddi. Gallant fod yn adroddiadau ffurfiol ar yr union ddamwain neu ddigwyddiad, neu mewn cyhoeddiadau cyfnodol pan nad oes materion diogelwch sy鈥檔 gofyn am sylw ar frys.
Gall RAIB gynhyrchu adroddiad interim yn ystod ymchwiliad pan fydd am gyfleu gwybodaeth yn gynnar a all fod yn ddefnyddiol i eraill. Bydd y cyhoeddiadau hyn ar gael i bawb ar wefan RAIB.
Yn ychwanegol, gall RAIB gyhoeddi cyngor diogelwch yn fuan ar 么l y ddamwain neu ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad os bydd yn darganfod, yn ystod yr ymchwiliad, bod rhaid gwneud rhywbeth ar frys i wneud y rheilffyrdd yn ddiogelach.
14. Sut y mae鈥檙 adroddiadau鈥檔 effeithio ar y diwydiant rheilffyrdd?
Fel arfer, mae adroddiadau RAIB yn gwneud argymhellion ar y camau y maent yn credu sy鈥檔 angenrheidiol i wella diogelwch ar y rheilffyrdd. Rhaid cyfeirio鈥檙 argymhellion hyn, yn 么l y gyfraith, at yr awdurdodau diogelwch perthnasol a chyrff cyhoeddus eraill fel sy鈥檔 briodol er nad nhw efallai, fydd yn gweithredu arnynt yn y pen draw.
Cyfrifoldeb yr awdurdodau diogelwch yw sicrhau bod argymhellion RAIB yn cael eu hystyried gan yr un a fydd yn gweithredu yn y pen draw a鈥檜 bod yn gweithredu鈥檔 briodol. Gall argymhellion RAIB gael eu cyfeirio at gwmn茂au rheilffyrdd, cyrff y llywodraeth ac unrhyw un arall sydd 芒 r么l sy鈥檔 effeithio ar y ffordd y mae rheilffyrdd yn cael eu rhedeg.
15. Sut gallaf gysylltu 芒 RAIB?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am RAIB neu ei ymchwiliadau, cysylltwch 芒 RAIB gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth isod.
Gellir dod o hyd i Gyfarwyddyd ar y Rheoliadau Rheilffyrdd (Ymchwilio a Chyflwyno Adroddiadau am Ddamweiniau) 2005 ar www.gov.uk/raib