Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd: beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym os ydych yn gwneud unrhyw waith
Diweddarwyd 15 Medi 2023
Rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn gwneud unrhyw waith tra eich bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd.
Gall eich budd-dal gael ei leihau neu ei atal os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn syth.
Fel arfer, ni allwch gael JSA Dull Newydd os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, oni bai eich bod yn gweithio swyddi penodol.
Os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, efallai y gallwch gael JSA Dull Newydd, ond gallai faint y byddwch yn ei dderbyn yn lleihau.
Beth i鈥檞 wneud os ydych yn gwneud unrhyw waith
Os ydych yn mynychu apwyntiadau yn rheolaidd yn y ganolfan gwaith
Bydd angen i chi:
-
ddod 芒鈥檆h slipiau cyflog i鈥檙 apwyntiad
-
llenwi ffurflen gyda鈥檆h anogwr gwaith yn ystod eich apwyntiad i鈥檔n hysbysu am unrhyw waith rydych wedi鈥檌 wneud yn ystod y pythefnos diwethaf
Os nad ydych yn mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith
Bydd angen i chi ofyn i鈥檆h anogwr gwaith i anfon ffurflen 鈥榙atganiad gwaith鈥� a ffurflen B7 i chi am bob swydd rydych yn ei wneud. Llenwch y ffurflenni a鈥檜 hanfon yn 么l i鈥檙 ganolfan byd gwaith gyda鈥檆h slipiau cyflog.
Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym
Wrth i chi lenwi鈥檙 ffurflenni am y gwaith rydych wedi鈥檌 wneud, bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
enw, cyfeiriad a rhif ff么n eich cyflogwr
-
y dyddiadau rydych wedi gweithio
-
y nifer o oriau a munudau rydych wedi gweithio bob wythnos
-
y dyddiad neu鈥檙 dyddiadau y cawsoch eich talu
-
faint oedd eich enillion cyn unrhyw ddidyniadau
-
swm y didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn, tanysgrifiadau undeb a thaliadau cynhaliaeth plant
-
os rhoddodd eich cyflogwr fwy o arian i chi am unrhyw beth arall, ac os wnaethant, faint ac am beth oedd yr arian (er enghraifft, ffioedd bws neu dr锚n neu dreuliau gwaith)
Gallech gael eich dwyn i鈥檙 llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi鈥檙 wybodaeth anghywir neu heb roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.
Os ydych yn gweithio鈥檔 rheolaidd
Os ydych yn gweithio鈥檔 rheolaidd, bydd eich anogwr gwaith yn rhoi gwybod i chi a ydy hi鈥檔 bosibl i chi leihau faint o wybodaeth y mae angen i chi ei darparu bob tro.
Sut mae enillion yn effeithio ar JSA Dull Newydd
Fel arfer, gallwch ennill hyd at 拢5 yr wythnos cyn i鈥檆h enillion effeithio ar eich JSA Dull Newydd. Bydd unrhyw enillion dros 拢5, ar 么l didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn gostwng eich taliad JSA Dull Newydd.
Er enghraifft, os ydych yn ennill 拢50.25 yr wythnos, ar 么l didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, caiff eich JSA Dull Newydd ei ostwng gan 拢45.25.
Os ydych yn gweithio mewn swyddi penodol
Gallwch ennill hyd at 拢20 yr wythnos cyn i鈥檆h enillion effeithio ar eich JSA Dull Newydd os ydych yn:
-
ddiffoddwr t芒n rhan amser
-
gwyliwr y glannau cynorthwyol sy鈥檔 gweithio i wasanaethau achub y glannau
-
aelod o griw bad achub rhan amser neu鈥檔 ymwneud 芒 lansio bad achub
-
aelod o鈥檙 lluoedd arfog neu鈥檙 lluoedd arfog wrth gefn
-
pysgotwr cyfran
Bydd enillion dros 拢20, ar 么l didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn gostwng eich JSA Dull Newydd.
Er enghraifft, os ydych yn ennill 拢50.25 yr wythnos, ar 么l didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, caiff eich JSA Dull Newydd ei ostwng gan 拢30.25.
Pryd y gallwch weithio 16 awr neu fwy
Efallai y gallwch gael JSA Dull Newydd o hyd os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd a bod unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn gweithio i elusen neu sefydliad gwirfoddol neu rydych yn wirfoddolwr a鈥檙 unig daliad rydych yn ei gael yw treuliau
-
rydych ar gynllun hyfforddiant ac yn cael lwfans hyfforddi
-
rydych yn ddiffoddwr t芒n rhan amser
-
rydych yn wyliwr y glannau cynorthwyol sy鈥檔 gweithio i wasanaethau achub y glannau
-
rydych yn aelod o griw bad achub rhan amser neu鈥檔 ymwneud 芒 lansio bad achub
-
rydych yn aelod o鈥檙 lluoedd arfog neu鈥檙 lluoedd arfog wrth gefn
-
rydych yn gynghorydd lleol
-
rydych yn cael eich talu i fod yn rhiant maeth
-
rydych yn cael eich talu i ddarparu gofal seibiant
-
rydych yn cael eich cyllido i gymryd rhan mewn chwaraeon
-
rydych ar raglen profiad gwaith