Lwfans Ceisio Gwaith: sut i gadw eich taliad budd-dal
Diweddarwyd 26 Hydref 2021
Mae鈥檙 canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am sancsiynau. Gall pa mor hir y mae sancsiwn yn para a sut mae鈥檆h taliad yn cael ei effeithio newid yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os cewch sancsiwn, dywedir wrthych beth mae hyn yn golygu i chi.
1. Sut mae Lwfans Ceisio Gwaith yn gweithio
Mae Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn fudd-dal i鈥檆h helpu chi pan fyddwch yn ddi-waith ac yn chwilio am waith.
Pan fyddwch yn hawlio JSA, byddwch yn cyfarfod ag un o鈥檔 anogwyr gwaith yn y Ganolfan Gwaith a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith. Byddant yn cael gwybod am eich sefyllfa a:
- helpu i nodi beth sy鈥檔 rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith a chadarnhau hynny yn eich Ymrwymiad Hawlydd - weithiau gelwir hyn yn Cytundeb Ceisio Gwaith
- eich cyfarfod yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd
Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth. Mae cynlluniau cyflogaeth yn cael eu darparu gan sefydliadau arbenigol i鈥檆h helpu i ddod o hyd i ac aros mewn gwaith. Efallai y bydd eich darparwr cynllun hefyd yn nodi pethau y mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich taliad budd-dal a鈥檔 cefnogaeth. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal neu gallai eich cais gael ei gau. Gelwir hyn yn 鈥榮ancsiwn鈥�.
2. Beth sydd rhaid i chi ei wneud i gadw鈥檆h taliad budd-dal
Bydd y rheswm pam wnaeth eich swydd ddiwethaf ddod i ben bob amser yn cael ei wirio, a gall budd-dal gael ei atal os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn, neu eich bod wedi gadael heb reswm da. Unwaith y byddwch yn dechrau cael taliad budd-dal, bydd hyn yn parhau cyn belled eich bod:
- ar gael i weithio ac yn cytuno i wneud y pethau yn eich Ymrwymiad Hawlydd (Cytundeb Ceisio Gwaith)
- mynd i gyfarfodydd ar amser gyda鈥檆h anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau
- gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych amdanynt
- gwneud popeth mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i鈥檞 wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV
- cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny - bydd angen i chi:
- gyfarfod 芒鈥檆h darparwr cynllun cyflogaeth ar amser a gwneud y pethau y maent yn dweud wrthych ei wneud i ddod o hyd i waith
- parhau i gyfarfod 芒鈥檆h anogwr gwaith a gwneud yr hyn y maent yn dweud wrthych i鈥檞 wneud
- gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith
Os nad ydych yn gallu gwneud, neu heb wneud y pethau hyn, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth pam ar unwaith.
Byddwch yn cael eich taliad budd-dal os gallwch ddangos bod gennych reswm da dros beidio 芒 gwneud yr hyn y dywedwyd wrthych i鈥檞 wneud. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, ffoniwch eich anogwr gwaith cyn gynted 芒 phosibl cyn cyfweliad os nad ydych yn gallu bod yn bresennol. Dywedwch wrthynt pam. Gall eich anogwr gwaith ddefnyddio鈥檙 amser hwn i helpu eraill i ddod o hyd i waith, a byddwch yn dal i gael eich taliad budd-dal os byddwn yn penderfynu bod gennych reswm da dros beidio 芒 mynd.
Os na wnewch y pethau hyn, ac nid oes gennych reswm da, gellid stopio neu leihau鈥檆h taliad budd-dal neu gellid dod 芒鈥檆h hawl i ben.
Mae鈥檔 bwysig eich bod yn deall popeth y mae angen i chi ei wneud i gael eich taliad budd-dal a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ei wneud. Gofynnwch i鈥檆h anogwr gwaith i egluro os nad ydych yn siwr.
Mae鈥檙 rheswm y gallai eich taliad budd-dal gael ei atal neu ei leihau yn dibynnu a ydych chi鈥檔 cael JSA Dull Newydd neu JSA yn seiliedig ar incwm.
Byddwch yn cael JSA Dull Newydd os gwnaethoch gais ar neu ar 么l 27 Ionawr 2021.
Byddwch yn cael JSA yn seiliedig ar incwm os gwnaethoch gais cyn 27 Ionawr 2021 ac wedi bod yn cael JSA ers hynny heb seibiant.
3. Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Gellid stopio neu leihau鈥檆h Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd gan ddibynnu ar sut daeth eich swydd ddiwethaf i ben. Gellid ei stopio neu ei leihau os na wnewch rywbeth mae eich anogwr gwaith wedi dweud wrthych am ei wneud neu鈥檙 hyn rydych wedi ei gytuno arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd, heb fod gennych reswm da. Gelwir hyn yn sancsiwn.
Mae 3 gwahanol lefel o sancsiynau a phenderfynir arnynt yn seiliedig ar beth a wnaethoch a pha mor aml.
Sancsiynau lefel isel i Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Efallai cewch sancsiwn lefel isel os:
- nad ydych yn cymryd rhan mewn cyfarfod 芒鈥檆h anogwr gwaith
- nad ydych yn cymryd rhan mewn rhaglen cyflogaeth
- nad ydych yn gwneud rhywbeth gwnaethoch ei gytuno 芒鈥檆h anogwr gwaith i鈥檆h helpu i symud i neu鈥檔 nes at waith
- nad ydych yn gwneud rhywbeth i edrych am waith gwnaethoch ei gytuno 芒鈥檆h anogwr gwaith
Gellir stopio neu leihau鈥檆h taliad budd-dal am gyhyd 芒 nad ydych yn gwneud yr hyn mae eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei wneud. Felly cyn cynted y gwnewch hyn, cyn lleied o arian y collwch. Ar 么l hyn, caiff ei stopio am 7 diwrnod ychwanegol, neu am hyd at 28 diwnrod os ydych wedi cael sancsiwn lefel isel arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na鈥檌 leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio 芒 gwneud unrhyw rai o鈥檙 pethau hyn.
Sancsiynau lefel canol am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Efallai cewch sancsiwn lefel canol os:
- nad ydych yn gwneud popeth a allwch i chwilio am waith
- nad ydych ar gael i ddechrau gwaith yn syth
Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na鈥檌 leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio 芒 gwneud unrhyw rai o鈥檙 pethau hyn.
Sancsiwn | Am faint caiff eich taliad budd-dal ei stopio |
---|---|
1. Sancsiwn lefel canol cyntaf | 28 diwrnod |
2. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel canol arall yn y flwyddyn ddiwethaf | 91 diwrnod |
Sancsiynau lefel uchel am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Efallai cewch sancsiwn lefel uchel os:
- ydych yn gadael swydd heb reswm da
- ydych yn colli swydd oherwydd eich ymddygiad
- ydych yn colli t芒l heb reswm da
- ydych yn colli t芒l oherwydd eich ymddygiad
- nad ydych yn gwneud gaid cais am swydd
- nad ydych yn cymryd swydd
Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na鈥檌 leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio 芒 gwneud unrhyw rai o鈥檙 pethau hyn.
Sancsiwn | Am faint caiff eich taliad budd-dal ei stopio |
---|---|
1. Sancsiwn lefel uchel cyntaf | Hyd at 91 diwrnod |
2. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel uchel arall yn y flwyddyn ddiwethaf | Hyd at 182 diwrnod |
4. Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Efallai y gall atal eich taliad budd-dal am rhwng 4 wythnos a 26 wythnos (tua 6 mis). Gelwir hyn yn sancsiwn. Mae 3 lefel o sancsiwn; lefel is, canolradd neu uwch. Mae lefel a hyd eich cosb yn dibynnu ar:
- y rheswm rydych yn hawlio JSA - er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o鈥檆h swydd ddiwethaf, neu ei adael heb reswm da
- beth nad ydych wedi鈥檌 wneud i ddod o hyd i waith
- p鈥檜n a ydych wedi derbyn sancsiwn cynharach yn y flwyddyn ddiwethaf, neu bod eich cais wedi cael ei gau, a鈥檙 rheswm(rhesymau) dros hynny
Sancsiynau lefel isel a chanol ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel isel (4 neu 13 wythnos) os:
- nad ydych yn mynd i gyfarfodydd ar amser gyda鈥檆h anogwr gwaith neu gymryd rhan mewn cyfweliadau
- nad ydych yn gwneud yr hyn mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i鈥檞 wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddi neu ddiweddaru eich CV
- nad ydych yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny
- nad ydych yn cyfarfod eich darparwr cynllun cyflogaeth ar amser neu gymryd y camau maent yn dweud wrthych i鈥檞 cymryd
- rydych yn colli lle ar gynllun cyflogaeth trwy camymddygiad neu roi鈥檙 gorau i lle ar gynllun yn wirfoddol.
Efallai y byddwch yn cael cosb lefel canolradd (4 neu 13 wythnos), ac efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, os:
- nad ydych ar gael i weithio ac wrthi鈥檔 chwilio am waith
Sancsiwn | Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal |
---|---|
1. Y sancsiwn lefel is neu ganolradd cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos | 4 wythnos |
2. Pob sancsiwn ar yr un lefel yn y 2 wythnos nesaf | 4 wythnos |
3. Unrhyw sancsiwn pellach ar yr un lefel o fewn 52 wythnos o鈥檙 un olaf | 13 wythnos (tua 3 mis) |
Sancsiynau lefel uchel ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Byddwch yn cael sancsiwn lefel uwch (13 i 26 wythnos) os:
- cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o鈥檆h swydd ddiwethaf
- gadawsoch eich swydd ddiwethaf heb reswm da
- nad ydych yn gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth yn dweud wrthych amdanynt
- nad ydych yn cymryd swydd y mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth wedi dweud wrthych amdano os caiff ei gynnig i chi
Sancsiwn | Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal |
---|---|
1. Sancsiwn lefel uwch cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos | 13 wythnos (tua 3 mis) |
2. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf | 13 wythnos (tua 3 mis) |
3. Sancsiwn lefel uwch arall yn y 52 wythnos nesaf | 26 wythnos (tua 6 mis) |
4. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf | 26 wythnos (tua 6 mis) |
5. Sancsiwn lefel uwch arall o fewn 52 wythnos o鈥檆h un olaf | 26 wythnos (tua 6 mis) |
Beth i鈥檞 wneud os caiff eich Lwfans Ceisio Gwaith ei stopio neu ddaw eich hawl i ben
Gwnewch popeth y gallwch i ddod o hyd i waith
Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, dylech barhau i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith, gan gynnwys mynychu cyfweliadau gyda鈥檆h anogwr gwaith. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal am gyfnod hirach neu gallai eich cais gael ei gau.
Os daw eich hawl i ben
Ni allwch wneud cais eto am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Budd-dal Tai a threth cyngor
Efallai y bydd eich cyngor lleol angen gwybodaeth gennych er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gostyngiad Budd-dal Tai a threth y cyngor. Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu bod eich cais yn cael ei gau, dylech gysylltu 芒 hwy ar unwaith.
Taliadau caledi
Os yw eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei stopio, ac nid oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai gallwch gael taliad caledi. Mae hwn yn swm gostyngedig o Lwfans Ceisio Gwaith.
Ffoniwch 0800 328 1744 os ydych eisiau deall mwy am daliadau caledi a ph鈥檜n a allwch chi wneud cais. Byddwch ond yn gallu cael taliad caledi os nad yw eich cais wedi鈥檌 gau ac rydych chi鈥檔 gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith.
5. Beth i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad i stopio鈥檆h taliad budd-dal neu i ddod 芒鈥檆h hawl i ben
Cam 1: Rhowch y wybodaeth llawn i ni
Os dywedir wrthych efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, dylech ddarparu gwybodaeth newydd ar unwaith am pam nad ydych wedi gwneud y pethau y dywedwyd wrthych i鈥檞 gwneud.
Bydd swyddog penderfyniadau o鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau, yn hytrach na鈥檆h anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth, yn penderfynnu os oes gennych reswm da. Os byddant yn penderfynu nad oes gennych reswm da, byddant yn penderfynu am faint o amser i atal eich taliad budd-dal, neu i gau eich cais.
Gallwch gysylltu 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith i ofyn pam mae penderfyniad wedi ei wneud.
Cam 2: Gofyn i ni ailystyried y penderfyniad
Os ydych yn credu bod penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni edrych arno eto o fewn 1 mis iddo gael ei wneud.
Os ydych wedi gofyn i ni am ddatganiad ysgrifenedig o resymau bydd gennych 14 diwrnod ychwanegol i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto.
Eglurwch pam fod y penderfyniad yn anghywir a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Pan fyddwn wedi edrych ar yr hyn rydych wedi鈥檌 ddweud wrthym, byddwn yn anfon llythyr i ddweud wrthych yr hyn sydd wedi鈥檌 benderfynu a pham.
Rydym yn galw鈥檙 llythyr hwn yn 鈥楬ysbysiad Ailystyriaeth Orfodol鈥�.
Cam 3: Ap锚l
Os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, gallwch apelio i dribiwnlysv. Mae鈥檔 rhaid i chi aros am yr Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol cyn i chi ddechrau ap锚l.