Corporate report

Br卯ff Gwybodaeth: Crynodebau Treth

Updated 3 November 2014

Bydd tua 24 miliwn o bobl yn cael eu Crynodeb Treth Blynyddol cyntaf, sy鈥檔 esbonio sut y cyfrifwyd eu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a鈥檜 treth incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014, a sut y gwariwyd yr arian gan y Llywodraeth. Mae鈥檙 br卯ff hwn yn esbonio pam y鈥檜 cyflwynwyd a phwy fydd yn eu derbyn.

1. Beth sy鈥檔 rhaid i drethdalwyr wneud?

Mae鈥檙 crynodebau treth er gwybodaeth yn unig. Nid oes raid i dderbynwyr gysylltu 芒 Chyllid a Thollau EM yngl欧n 芒 hwy; gall y rhai hynny sydd am wneud sylwadau ar y grynodeb treth, cyfraddau treth neu sut y gwariwyd eu trethi, wneud hynny ar-lein:

2. Pam fod crynodebau treth yn bwysig?

Mae鈥檙 Llywodraeth am ei wneud yn haws i drethdalwyr weld a deall faint o dreth maent wedi talu, beth yw eu cyfradd gyffredinol o dreth incwm, a sut y鈥檌 cyfrifwyd.

Bydd pob crynodeb treth unigol yn dangos yn glir beth mae鈥檙 Llywodraeth wedi ei gasglu gan drethdalwyr, ac yn dangos sut y gwariwyd eu harian.

Mae鈥檙 Llywodraeth yn credu taw鈥檙 ffordd orau o sicrhau bod y cyhoedd yn fwy hysbys a bod y Llywodraeth yn fwy atebol am ei phenderfyniadau ar wariant cyhoeddus a threth, yw drwy dynnu鈥檙 wybodaeth hon at ei gilydd mewn un man a鈥檌 hanfon at drethdalwyr. Fel awdurdod treth y DU, CThEM sydd yn y lle gorau i anfon y datganiadau hyn ar ran y Llywodraeth.

3. Pwy fydd yn cael un?

Bydd tua 24 miliwn o drethdalwyr unigol yn derbyn crynodeb treth personol yn y flwyddyn gyntaf hon. Anfonir yr 16 miliwn o grynodebau cyntaf drwy鈥檙 post i bobl y diweddarwyd eu cofnodion treth yn ddiweddar gan CThEM. Dyma鈥檙 trethdalwyr a dderbyniodd cod treth neu gyfrifiad wedi鈥檌 ddiweddaru yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Ni fydd unigolion yn y gr诺p hwn yn derbyn crynodeb treth os na dalwyd unrhyw dreth incwm ganddynt yn y flwyddyn a aeth heibio, neu pan nad yw CThEM wedi cwblhau eu sefyllfa dreth ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014. Er enghraifft, pan rydym yn aros am wybodaeth gan y cyflogwr, megis newid cyfeiriad, neu wybodaeth TWE wedi鈥檌 diweddaru.

Bydd wyth miliwn o drethdalwyr pellach sy鈥檔 cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad yn gallu edrych ar eu crynodeb yn ddigidol, os ydynt wedi ymrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEM. Yn y dyfodol, bydd CThEM yn rhoi cyfrif treth digidol personol i bawb, a fydd yn cynnwys eu crynodeb treth unigol.

Gall y rhai hynny nad ydynt yn derbyn crynodeb treth ddefnyddio ein ar unrhyw adeg i weld sut y cyfrifwyd eu trethi a sut mae hyn yn cyfrannu tuag at wariant cyhoeddus. Mae fersiwn app symudol o鈥檙 gyfrifiannell eisoes wedi鈥檌 lawrlwytho dros 300,000 o weithiau.

4. Beth sydd yn y grynodeb treth?

Bydd pob crynodeb treth yn dangos sut y cyfrifwyd treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol unigolyn ar gyfer y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf. Felly, mae鈥檙 crynodebau ar gyfer y flwyddyn hon yn dangos ffigurau ar gyfer y flwyddyn dreth 2013 i 2014.

Mae鈥檙 crynodebau treth yn dangos ffynonellau trethadwy o incwm, gan gynnwys incwm o gyflogaeth, incwm pensiwn a budd-daliadau trethadwy鈥檙 wladwriaeth pan fod yr wybodaeth honno wedi鈥檌 rhoi i CThEM. Nid ydynt yn cynnwys ffigurau ar gyfer unrhyw fudd-daliadau a dderbyniwyd, sydd yn cael eu cyfrifo fesul cartref yn hytrach nag ar sail unigol.

Mae tu cefn y grynodeb treth wedi鈥檌 gynllunio er mwyn dangos yn fras sut y gwariwyd trethi personol unigolyn, gyda ffigurau blynyddol ar wariant cyhoeddus wedi鈥檜 cynhyrchu gan Drysorlys EM. Mae鈥檙 ffigurau hyn yn cynnwys holl wariant y sector cyhoeddus, sy鈥檔 cwmpasu鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig yn ogystal 芒 gwariant gan awdurdodau lleol a chorfforaethau cyhoeddus.