Corporate report

Briff Gwybodaeth CThEM: Adnewyddu credydau treth

Updated 24 July 2014

Mae CThEM yn talu credydau treth i 4.6* miliwn o gartrefi ar draws y DU. Caiff yr arian ar gyfer pob cartref ei seilio ar yr wybodaeth maent yn ei rhoi i ni. Mae hawlwyr yn rhoi manylion i ni ynghylch amgylchiadau ac incwm y cartref ar ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth a rhaid iddynt roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau allweddol yn ystod y flwyddyn. Mae鈥檙 briff hwn yn rhoi gwybodaeth ar sut y dylai pobl roi gwybod i ni am newidiadau yn eu hamgylchiadau a鈥檙 pwysigrwydd o adnewyddu eu credydau treth.

1. Credydau treth

Mae dau fath o gredydau treth a gall pobl hawlio鈥檙 naill neu鈥檙 llall, neu鈥檙 ddau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Mae Credyd Treth Plant yn cynnal teuluoedd sydd 芒 phlant, pa un a ydynt mewn gwaith neu beidio.

Mae Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio ac ar incwm isel, pa un a ydynt yn gyflogedig neu鈥檔 hunangyflogedig. Gall y rheiny sydd 芒 phlant dderbyn, o bosib, help gyda chostau gofal plant.

2. Hysbysu ynghylch newidiadau

Y newidiadau mwyaf cyffredin sy鈥檔 effeithio ar daliadau credydau treth yw鈥檙 rheiny sy鈥檔 ymwneud ag incwm, gofal plant, oriau gwaith a鈥檙 nifer o bobl yn y cartref - yn arbennig os yw鈥檙 hawliwr yn dechrau byw gyda phartner. Mae gan hawlwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i roi gwybod am rai newidiadau o fewn mis o鈥檙 dyddiad pan ddigwyddodd y newid. Mae鈥檙 mathau o newid y dylent eu datgan, a pha bryd a sut i鈥檞 datgan, ar gael ar y dudalen 鈥�changes that affect your tax credits鈥�.

3. Adnewyddu credydau treth

Byddwn, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn, yn anfon pecyn adnewyddu blynyddol sy鈥檔 cynnwys manylion ynghylch incwm ac amgylchiadau鈥檙 cartref, a鈥檙 taliadau am y flwyddyn dreth flaenorol. Mae pob pecyn adnewyddu yn dweud yn union beth sydd angen i鈥檙 hawliwr ei wneud. Bydd hawlwyr yn derbyn un ai:

Amlen wen A4 - rhaid iddynt wirio eu hysbysiad adolygu blynyddol yn ofalus ac adnewyddu eu datganiad blynyddol erbyn 31 Gorffennaf. Wrth adnewyddu rhaid i hawlwyr roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau. Eleni, gall cwsmeriaid lenwi eu datganiad blynyddol a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau un ai ar dudalennau gwe credydau treth yn 188体育 neu drwy鈥檙 app CThEM ar ff么n symudol (rhaid i gwsmeriaid sydd yn derbyn datganiad blynyddol gyda鈥檙 cod 鈥楾C 603 D 2鈥� neu sydd am newid manylion eu banc adnewyddu dros y ff么n neu drwy鈥檙 post).

Amlen frown A5 - rhaid iddynt wirio eu hysbysiad adolygu blynyddol yn ofalus a chysylltu 芒 ni dim ond os oes unrhyw gywiriadau neu newidiadau i amgylchiadau鈥檙 cartref. Fel arall, nid oes angen iddynt gysylltu 芒 ni gan y caiff eu cais ei adnewyddu鈥檔 awtomatig.

Mae llawer o hawlwyr yn ei gadael tan y funud olaf cyn adnewyddu eu credydau treth a gall ein llinellau ff么n fod yn hynod o brysur. Yn 2013, bu bron i dair miliwn o alwadau ff么n i Linell Gymorth Credydau Treth yn y ddau ddiwrnod cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf. Mae鈥檙 gofyn uchel yn rhoi mwy o bwysau ar ein llinellau ff么n. Rydym, eleni, yn anfon negeseuon testun SMS at hawlwyr i鈥檞 hatgoffa i adnewyddu eu cais cyn y dyddiad cau. Rydym yn cynghori hawlwyr i adnewyddu鈥檔 gynnar er mwyn osgoi鈥檙 rhwystredigaeth o orfod aros ar y ff么n, neu i ddefnyddio dull arall fel postio鈥檙 cais neu ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein - sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

4. Gwirio ceisiadau

Mae hawlwyr a鈥檜 partner (os oes un) yn gyfrifol am wirio a sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch eu hamgylchiadau yn ein meddiant. Os na wn芒nt roi gwybod i ni, o fewn yr amser penodol, am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau mae yna risg sylweddol y bydd tandaliad neu ordaliad yn dilyn.

Rydym yn gwirio鈥檙 wybodaeth a roddir gan hawlwyr. Mae鈥檔 bosib y caiff hawlwyr 30 diwrnod i ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais. Caiff eu taliadau eu hatal os na fyddant yn darparu鈥檙 dystiolaeth sydd ei hangen.

5. Gordaliadau

Os nad yw鈥檙 wybodaeth sydd yn ein meddiant yn gywir neu鈥檙 un ddiweddaraf, gall hawlwyr dderbyn gormod o arian a fydd yn golygu gordaliad y bydd yn rhaid iddynt ei dalu鈥檔 么l i CThEM. Gall hawlwyr gymryd camau i osgoi dyled o ganlyniad i ordaliadau drwy: rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i鈥檞 hamgylchiadau neu gywiriadau i鈥檞 gwybodaeth gwirio鈥檔 fanwl unrhyw wybodaeth ynghylch eu cais a anfonwn atynt
rhoi gwybod i ni am unrhyw daliadau a dderbyniant nad ydynt yn cyd-fynd 芒鈥檜 hysbysiad o ddyfarniad o gredydau treth. adnewyddu eu cais am gredydau treth cyn 31 Gorffennaf, os bydd angen iddynt wneud hynny.

Rydym yn casglu gordaliadau credydau treth drwy wneud didyniadau o geisiadau cyfredol neu, os nad yw hynny鈥檔 bosib, yn uniongyrchol oddi ar yr hawliwr. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen 鈥榯ax credits overpayments鈥�.

6. Twyll

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn onest ac ond yn hawlio鈥檙 hyn y mae ganddynt yr hawl iddo, mae yna leiafrif bach sy鈥檔 ceisio twyllo鈥檙 system fudd-daliadau鈥檔 fwriadol. Rydym yn ymroddedig i dargedu twyll ym mhob cais am gredydau treth ac mae rheolau caeth mewn grym i amddiffyn y taliadau hyn. Gall y rheiny a wnaiff geisiadau ffug wynebu ymchwiliad, erlyniad a hanes o droseddu.

7. I gael mwy o wybodaeth

Ceir mwy o wybodaeth ar dudalenau 鈥榯ax credits鈥� 188体育.

*Ffynhonnell: Child and Working Tax Credits Statistics, Finalised Annual Awards 2012-13