Adroddiad corfforaethol

Br卯ff gwybodaeth: lwfans priodasol

Cyhoeddwyd 20 Chwefror 2015

Gallai parau priod a phartneriaid sifil dalu hyd at 拢212 yn llai o dreth bob blwyddyn, o ganlyniad i lwfans priodasol newydd sy鈥檔 dod i rym yn ystod y flwyddyn dreth 2015 i 2016. Gall parau cymwys gofrestru i fynegi diddordeb ar wefan 188体育 nawr, ac fe鈥檜 gwahoddir i wneud cais ffurfiol ar-lein ar 么l 6 Ebrill. Mae鈥檙 br卯ff hwn yn esbonio pwy allai dderbyn y lwfans, a sut i鈥檞 gael.

1. Beth yw鈥檙 lwfans priodasol?

Bydd y lwfans priodasol yn caniat谩u priod neu bartner sifil sydd ag incwm o lai na 拢10,600 i drosglwyddo 拢1,060 o鈥檌 lwfans personol, sy鈥檔 rhydd o dreth, i鈥檞 briod neu bartner sifil sydd ag incwm uwch nag ef neu hi. Ar yr amod nad yw鈥檙 person y trosglwyddir y lwfans iddo yn talu treth ar y gyfradd uwch na鈥檙 gyfradd ychwanegol (i鈥檙 rhan fwyaf o bobl golyga hyn incwm o hyd at 拢42,385) gallai parau dalu hyd at 拢212 yn llai o dreth bob blwyddyn, neu tua 拢17.66 yn llai bob mis.

Cafodd y lwfans ei grybwyll gyntaf yn ystod 2013, a chyhoeddwyd manylion llawn fel rhan o Gyllideb 2014.

2. Pwy sy鈥檔 gymwys?

Mae tua 4 miliwn o barau priod a phartneriaid sifil, a aned ar 么l 6 Ebrill 1935, yn gymwys i dderbyn y lwfans priodasol. Gall parau a aned cyn 1935 dderbyn y Lwfans P芒r Priod, sy鈥檔 wahanol.

3. Cofrestru i fynegi diddordeb yn y lwfans

Gall parau cymwys gofrestru i fynegi diddordeb yn y lwfans priodasol nawr yn gov.uk/marriageallowance.

Mae鈥檔 syml i gofrestru: mae鈥檙 priod neu鈥檙 partner sy鈥檔 derbyn yr incwm isaf yn cofrestru i fynegi diddordeb i drosglwyddo鈥檌 lwfans personol drwy nodi manylion sylfaenol (enw a chyfeiriad e-bost) ar wefan 188体育. Yna bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cadarnhau, drwy gyfrwng e-bost, bod y cwsmer wedi cofrestru i fynegi diddordeb, ac yn esbonio pryd fydd parau yn derbyn gwahoddiad i wneud cais.

Ni fydd y rheiny sydd ddim yn cofrestru ar eu colled; gallant wneud cais yn ystod y flwyddyn dreth 2015 i 2016 a dal i dderbyn y lwfans llawn.

Mae鈥檙 broses o gofrestru yn cael ei chynnal gan fod ymchwil yn dangos bod rhai cwsmeriaid am gael gwybod yn gynnar yngl欧n ag unrhyw newidiadau i鈥檞 materion ariannol personol. Yn ogystal, bydd o gymorth i CThEM wrth gyflwyno newid sylweddol i lwfansau treth personol. O fis Ebrill ymlaen byddwn yn gwahodd cwsmeriaid sydd wedi cofrestru, i wneud cais ffurfiol am y lwfans. Gwneir hyn mewn sypiau. Golyga hyn y gallwn gadw gwell rheolaeth ar y galw disgwyliedig wrth i bobl wneud cais am y lwfans newydd.

Gellir ond cofrestru ar-lein ar gyfer y lwfans priodasol. Mae鈥檔 syml, a dylai ond gymryd tua 3 munud. Nid yw鈥檔 bosib cofrestru ar gyfer y lwfans priodasol drwy alw CThEM.

4. Gwneud cais

O fis Ebrill 2015 ymlaen bydd CThEM yn gwahodd pobl sydd wedi cofrestru gyda ni, i wneud cais am y lwfans. Yna, byddwn yn dweud wrthynt am y newid i鈥檞 cod treth Talu Wrth Ennill (TWE) neu鈥檔 dangos y newidiadau yn eu cyfrifiadau Hunanasesiad. Gwneir ceisiadau drwy gyfrwng 188体育. Bydd CThEM yn rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd ei angen.

Bydd parau sy鈥檔 dewis peidio 芒 chofrestru yn gallu gwneud cais uniongyrchol am y lwfans nes ymlaen yn ystod 2015.

5. I gael mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, ac i gofrestru i fynegi diddordeb, ewch i gov.uk/marriageallowance.