Adroddiad corfforaethol

Mae CThEM yn gwneud cynnydd sylweddol yn ei weddnewidiad 10 mlynedd i fod yn awdurdod treth sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol

Diweddarwyd 8 Ionawr 2019

Gweddnewidiad Cyllid a Thollau EM (CThEM) yw鈥檙 rhaglen foderneiddio fwyaf y mae system dreth y DU wedi鈥檌 dilyn mewn cenhedlaeth. Mae鈥檔 cynnwys gwneud newidiadau sylfaenol i sut y mae鈥檙 adran yn gweithio a鈥檙 gwasanaethau y mae鈥檔 eu darparu.

Mae ein Rhaglen Leoliadau yn allweddol i weddnewidiad ehangach CThEM. Drwy newid amgylchedd gwaith pobl, mae CThEM yn helpu i newid sut y maent yn gweithio.

Yn 2015, gwnaethom gyhoeddi bod CThEM yn ceisio dod 芒鈥檌 gyflogeion at ei gilydd mewn 13 swyddfa fawr, fodern, gan ei gwneud hi鈥檔 haws cydweithio a gweithio鈥檔 hyblyg.

Mae safon uwch yr adeilad, a gynlluniwyd i gynorthwyo 芒 ffyrdd digidol, hyblyg o weithio, yn elfen annatod o鈥檔 cynlluniau ehangach i roi gwell gwasanaethau i鈥檙 trethdalwr am gost is. Drwy wneud defnydd gwell o dechnoleg, a gweithio鈥檔 wahanol, gallwn fod yn sefydliad mwy tra medrus sy鈥檔 cynyddu refeniw i鈥檙 eithaf, gan gynyddu cydymffurfiad a chau鈥檙 bwlch treth.

Mae鈥檙 br卯ff hwn yn crynhoi鈥檙 cynnydd y mae CThEM wedi鈥檌 wneud wrth ddilyn ei Raglen Leoliadau, a sut y mae鈥檔 helpu i roi gwell gwasanaethau i gwsmeriaid CThEM.

Erbyn hyn rydym wedi sicrhau safleoedd ar gyfer pob un o鈥檙 13 o ganolfannau rhanbarthol CThEM, ac mae gwaith adeiladu ar y gweill mewn 10 lleoliad.

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol. Ers 2015, rydym wedi agor ein canolfan ranbarthol gyntaf yn Croydon ac wedi symud i鈥檔 safle trosiannol yn Canary Wharf.

Rydym hefyd wedi sicrhau adeiladau ar gyfer ein canolfannau rhanbarthol ym Mryste, Caeredin, Glasgow, Belfast, Manceinion, Leeds, Lerpwl, Birmingham, Caerdydd a Stratford ac, yn fwyaf diweddar, ein canolfan ranbarthol yn Nottingham. Bydd ein canolfan ranbarthol yn Newcastle yn ein lleoliad presennol, sef Benton Park View. Mae hyn ar ben ein 5 safle arbenigol, 8 safle trosiannol a鈥檔 pencadlys yn Westminster.

Rhaglen Leoliadau CThEM yw鈥檙 rhaglen gweddnewid swyddfeydd fwyaf yn y DU, ac mae鈥檔 cynnwys datblygu mwy na 429,000 metr sgw芒r o ofod swyddfa newydd. Mae ei ganolfannau rhanbarthol yn ffurfio cam un o Raglen Hybiau鈥檙 Llywodraeth. Mae CThEM yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i gyflwyno鈥檙 rhaglen, ac mae鈥檔 rhannu gwersi gydag Asiantaeth Eiddo鈥檙 Llywodraeth.

Drwy ddilyn y Rhaglen Leoliadau, mae CThEM ar y trywydd iawn i sicrhau cynilion o tua 拢300 miliwn hyd at 2025. Bydd yn sicrhau cynilion blynyddol o 拢74 miliwn ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026, gan godi i tua 拢90 miliwn o 2028 ymlaen, gan foderneiddio sut y mae CThEM yn gweithio a helpu i wella鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid.

Rydym yn anelu at greu lle gwych i weithio drwy gyfrwng amgylcheddau sy鈥檔 wirioneddol gynhwysol mewn gweithleoedd agored a modern, gyda鈥檙 dechnoleg iawn i wneud y gwaith, yn unol 芒 gweledigaeth Gwasanaeth Sifil y dyfodol. Rydym hefyd yn cyflwyno 4 elfen arall a fydd yn helpu i greu Gwasanaeth Sifil gwych. Gwneir hyn drwy hoelio ein sylw ar ein cwsmeriaid, drwy rymuso ein harweinwyr i fod yn hyderus ac ysbrydoledig, ac ar yr un pryd sicrhau bod ein pobl yn datblygu llwybrau gyrfa gwell yn y lleoliadau y byddwn yn eu meddiannu.

Creu awdurdod treth modern

Er mwyn gweddnewid y gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer y DU, rydym yn moderneiddio bron pob elfen o鈥檙 hyn a wnawn. Mae hynny鈥檔 golygu popeth, o鈥檙 systemau a鈥檙 dechnoleg a ddefnyddiwn, i ble a sut rydym yn gweithio, i鈥檙 sgiliau sydd gennym, a鈥檙 hyn a ofynnwn gan ein harweinwyr a鈥檔 rheolwyr.

Drwy newid amgylchedd gwaith pobl, rydym yn helpu i newid sut y maent yn gweithio. Bydd canolfannau rhanbarthol CThEM yn adeiladau modern o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 helpu pobl i gydweithio a gweithio鈥檔 hyblyg, a bydd ganddynt seilwaith digidol cyflym a chyfleusterau dysgu a datblygu cyfoes.

Yn y canolfannau rhanbarthol, bydd gennym amrywiaeth o fannau gwaith. Bydd dyluniad a thechnoleg ein swyddfeydd yn y dyfodol yn newid ein ffordd o weithio. Bydd y mannau gwaith hyn wrth wraidd ein hamgylcheddau gwaith newydd, gan roi鈥檙 cyfle i ni fod yn wirioneddol hyblyg a galluogi pawb i roi gwell gwerth am ei arian i鈥檙 trethdalwr.

Drwy ddod 芒 gweithgareddau o dan yr un to, bydd timau aml-fedrus yn gallu newid rhwng sianeli cyfathrebu a mathau o waith i ateb y galw gan gwsmeriaid a gwella鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd dod 芒鈥檙 gwahanol fathau o waith cydymffurfio gweithredol y mae CThEM yn ei wneud at ei gilydd yn helpu i gynyddu ein heffeithiolrwydd o ran gorfodi a chydymffurfio. Mae hyn yn ei gwneud hi鈥檔 haws i鈥檔 pobl weithio ar draws segmentau cwsmeriaid ac ar draws trethi er mwyn dod o hyd i gysylltiadau. Bydd seilwaith digidol cyflym yn cynorthwyo鈥檙 systemau dadansoddi data a鈥檙 systemau asesu risg sydd o鈥檙 radd flaenaf i helpu CThEM i dargedu gweithgarwch cydymffurfio.

Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod gwell TG a band eang/WiFi cyflym yn ein Canolfan Ranbarthol yn Croydon eisoes yn hwyluso dulliau gweithio mwy hyblyg. Mae dyluniad gwahanol fathau o fannau gwaith wedi gwella cydweithrediad, ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith, gwella llif gwybodaeth a gwella sut y darperir hyfforddiant. Mae gwell mynediad ar gyfer pobl anabl hefyd, a mwy o foddhad ymhlith staff yngl欧n 芒 gwasanaethau鈥檙 adran ystadau, diogelwch a diogelwch personol.

Rydym yn helpu ein pobl i baratoi ar gyfer eu mannau gwaith newydd drwy agor cyfleusterau 鈥榩rofi a dysgu鈥� yn ein swyddfeydd presennol sydd yng nghanol dinasoedd. Maent yn debyg iawn i鈥檙 canolfannau rhanbarthol, fel y gall ein staff eu profi a dechrau addasu i ffyrdd newydd o weithio. Maent hefyd yn helpu ein pobl i brofi鈥檙 daith i鈥檔 lleoliadau newydd, gan helpu i sicrhau bod ein pobl yn gallu addasu鈥檔 gyflym er mwyn manteisio i鈥檙 eithaf ar yr amgylcheddau newydd. Bydd hyn yn ein galluogi i wella o ran gwasanaethu ein cwsmeriaid, casglu refeniw a diogelu pwrs y wlad drwy gyfrwng gweithgarwch cydymffurfio parhaus.

Rhoi cymorth i鈥檔 pobl yn ystod y newidiadau

Gwyddom fod y newid hwn yn anodd i rai o鈥檔 pobl, ond rydym eisiau cymaint 芒 phosibl i barhau i weithio gyda ni cyhyd 芒 phosibl a symud gyda ni i鈥檙 canolfannau rhanbarthol. Dyna pam y bydd pawb sy鈥檔 symud swyddfa yn cael y cyfle i gael sgwrs un-i-un gyda鈥檌 reolwr i鈥檞 helpu i symud.

Yn 么l yn 2015, dywedom y byddai tua 90% o鈥檔 pobl a oedd yn gweithio i ni ar y pryd, ym mhob un o鈥檔 lleoliadau, yn gallu symud i鈥檙 lleoliadau newydd neu ddirwyn eu gyrfa i ben yn un o adeiladau presennol CThEM. Heddiw, ar hyd a lled y DU, rydym yn dal i ddisgwyl mai dyna fydd y sefyllfa, neu rywbeth tebyg iawn iddi.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal mwy nag 11,000 o sgyrsiau un-i-un sydd wedi galluogi pobl i drafod eu hamgylchiadau personol, rhoi gwybod i ni beth allwn ni ei wneud i鈥檞 helpu i symud ac, mewn rhai achosion, rhoi gwybod i ni p鈥檜n a oes swyddfa wahanol y gallent deithio iddi.

Rydym hefyd yn parhau i edrych ar sut y gall technoleg hwyluso dulliau gweithio ac oriau gwaith mwy hyblyg, ac ar yr un pryd adolygu ein polis茂au o ran pobl i gynorthwyo 芒 ffyrdd newydd o wneud pethau er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl 芒 phosibl yn gallu symud gyda ni. O ran cymorth ymarferol, gall pawb sy鈥檔 symud hawlio cymorth ariannol tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol am hyd at 5 mlynedd.

Ar gyfer cydweithwyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt i gyrraedd y gwaith, neu yn y gwaith, rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion ymarferol sy鈥檔 briodol iddynt hwy ac rydym yn ei gwneud hi鈥檔 haws iddynt nodi manylion eu gofynion yn ystod y broses un-i-un.

Pan fo angen, byddwn yn darparu parcio hygyrch naill ai yn y ganolfan ranbarthol neu鈥檔 agos ati. Byddwn hefyd yn ystyried opsiynau eraill gan gynnwys defnyddio鈥檙 cynllun Mynediad i Waith, tacsis mewn mannau gollwng a thrafnidiaeth gyhoeddus hygyrch. Rydym hefyd yn dylunio ein hadeiladau newydd i sicrhau eu bod mor gynhwysol 芒 phosibl.

Rydym yn cydnabod na fydd pawb yn gallu symud. Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill i weld a ellir dod o hyd i swyddi gwahanol, ac rydym yn ceisio ei gwneud hi鈥檔 symlach i bobl wneud cais am swyddi neu newid adran. Rydym hefyd wedi creu gwasanaeth cymorth arbenigol newydd i gynnig help ymarferol, megis cymorth wrth ysgrifennu CV a llythyr eglurhaol, cyngor ar sut i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 farchnad swyddi, yn ogystal 芒 chyngor ar sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau.

Rydym yn lledaenu newidiadau dros nifer o flynyddoedd, ac yn cadw 8 safle trosiannol am hyd at 10 mlynedd, i leihau鈥檙 tarfu ar ein gweithrediadau o ddydd i ddydd. Rydym wedi rhoi t卯m penodedig ar waith i sicrhau bod yr holl feysydd yn CThEM yn lleihau鈥檙 tarfu ar ein busnes, yn cofleidio ffyrdd newydd o weithio ac yn barod i wneud y defnydd gorau posibl o鈥檙 mannau gwaith newydd.

Canolfannau rhanbarthol CThEM

Bydd ein canolfannau rhanbarthol wedi鈥檜 lleoli ym mhob rhanbarth a chenedl yn y DU:

  • Yr Alban - 1 Sibbald Walk, Caeredin - i鈥檞 hagor yn 2020
  • Yr Alban - 1 Atlantic Square, Glasgow - cam 1 i鈥檞 agor yn 2021, cam 2 i鈥檞 gadarnhau
  • Gogledd Iwerddon - Erskine House, Belfast - i鈥檞 hagor yn 2019 i 2020
  • Swydd Efrog a鈥檙 Humber - 7 a 8 Wellington Place, Leeds - i鈥檞 hagor yn 2020 i 2021
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr - Safle presennol yn Benton Park View, Newcastle
  • Gogledd Orllewin Lloegr - India Buildings, Lerpwl - i鈥檞 hagor yn 2020
  • Gogledd Orllewin Lloegr - 3 New Bailey, Manceinion - cam 1 i鈥檞 agor yn 2022, cam 2 i鈥檞 gadarnhau
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr - Unity Square, Nottingham - i鈥檞 hagor yn 2021 i 2022
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr - 3 Arena Central, Birmingham - i鈥檞 hagor yn 2020 i 2021
  • Cymru - Sgw芒r Canolog, Caerdydd - i鈥檞 hagor yn 2020 i 2021
  • De Orllewin Lloegr - 3 Glass Wharf, Bryste - i鈥檞 hagor yn 2019
  • Llundain, Dwyrain Lloegr a De Ddwyrain Lloegr - 14 Westfield Avenue, Stratford - i鈥檞 hagor yn 2020 i 2021
  • Llundain, Dwyrain Lloegr a De Ddwyrain Lloegr - 1 Ruskin Square, Croydon - agorwyd ym mis Gorffennaf 2017

Bydd CThEM hefyd yn creu 5 safle arbenigol ar gyfer gwaith na ellir ei wneud mewn mannau eraill, yn enwedig pan fo angen i CThEM weithio gyda鈥檌 gyflenwyr TG neu asiantaethau neu adrannau eraill y Llywodraeth. Bydd y safleoedd arbenigol hyn yn:

  • Dover, Priory Court
  • Gartcosh (Campws Trosedd yr Alban)
  • Telford (Plaza 1 a Plaza 2)
  • Worthing (lleoliad i鈥檞 gadarnhau)
  • Ipswich (Haven House)

Er mwyn lleihau鈥檙 tarfu ar ein busnes, ac i gadw ein pobl yn gweithio鈥檔 lleol am gyfnod hwy mewn lleoliadau yr ydym yn cydnabod na fydd niferoedd sylweddol yn gallu symud, rydym yn cadw 8 safle trosiannol yn:

  • East Kilbride (Queensway House hyd at 2025 i 2026)
  • Washington (Parc Waterview hyd at 2024 i 2025)
  • Preston (lleoliad i鈥檞 gadarnhau hyd at 2025)
  • Manceinion (Trinity Bridge House hyd at 2027 i 2028)
  • Ipswich (Haven House hyd at 2027 i 2028 a St Clare House hyd at 2023 i 2024)
  • Reading (Sapphire Plaza hyd at 2024 i 2025)
  • Canary Wharf (10 South Colonnade, hyd nes y bydd canolfan ranbarthol Stratford yn agor)
  • Portsmouth (Lynx House hyd at 2025 i 2026)

Byddwn hefyd yn cadw prif swyddfa yn Westminster.

Mae ein cynlluniau yn ddigon hyblyg i addasu

Roeddem bob amser yn disgwyl i gynlluniau鈥檙 gweithlu newid, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i鈥檔 strategaeth leoliadau, gan y bydd yn creu鈥檙 amgylcheddau gwaith y mae eu hangen arnom i gyflawni heriau yn y dyfodol.

Heddiw, mae gennym ychydig o dan 60,000 o gydweithwyr cyfwerth ag amser llawn (FTE), sydd wedi cynyddu o 57,000 yn 2015. Mae hyn yn rhannol oherwydd recriwtiwyd bron i 3,000 o bobl i weithio ym maes Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Cawsom fuddsoddiad ychwanegol hefyd yng Nghyllideb 2017 i gynorthwyo 芒鈥檔 gwaith o fynd i鈥檙 afael ag arbed treth, osgoi treth a methu 芒 chydymffurfio. Yn sgil hyn, recriwtiwyd 1,400 ychwanegol o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn.

Rydym bob amser wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod nwyddau鈥檔 llifo i mewn ac allan o鈥檙 DU, ac wrth sicrhau ein bod yn casglu unrhyw drethi a thollau sy鈥檔 ddyledus arnynt. Dyna pam ein bod nawr yn cyflwyno rhaglenni hanfodol a fydd yn cynorthwyo 芒 mynediad i farchnadoedd yn Ewrop a ledled y byd.

Wrth i ni baratoi ar gyfer ymadael 芒鈥檙 UE, rydym yn creu swyddi ychwanegol ac wedi lansio nifer o ymgyrchoedd recriwtio.

Ar hyn o bryd (31 Hydref), mae tua 3,000 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar ymadael 芒鈥檙 UE. Yn dibynnu ar ganlyniad terfynol y trafodaethau, efallai y bydd angen hyd at 5,300 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn arnom. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi sicrhau llety dros dro ychwanegol mewn lleoliadau canolfannau rhanbarthol ledled y DU a chynyddu maint rhai canolfannau rhanbarthol i gynorthwyo 芒鈥檙 gwaith hwn.

Fel adran, rydym wedi blaenoriaethu鈥檙 prosiectau sy鈥檔 gwneud y gwahaniaeth mwyaf, gan atal rhywfaint o waith a dirwyn prosiectau eraill i ben er mwyn gwneud lle ar gyfer y gwaith hwn o ymadael 芒鈥檙 UE.

Rydym yn dysgu gwersi

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cyflawni cryn dipyn a dysgu gwersi yn sgil creu ein canolfan ranbarthol gyntaf yn Croydon a鈥檔 safle trosiannol yn Canary Wharf.

Gan mai Croydon oedd Hyb newydd gyntaf y Llywodraeth i agor, rydym yn cael blas ar yr amgylchedd gwaith y bydd llawer o weision sifil ledled y DU yn symud i weithio ynddo dros y blynyddoedd nesaf.

Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn awyddus i ddysgu o鈥檔 profiadau yma, yn ogystal 芒 phrofiadau cydweithwyr yn Canary Wharf, fel y gallant wneud gwelliannau i sut y mae hybiau eraill yn cael eu dylunio a鈥檜 rhoi ar waith, deall y manteision sy鈥檔 dod yn sgil yr amgylcheddau gwaith newydd hyn, a sicrhau gwelliannau ar gyfer cyflogeion a鈥檙 trethdalwr.

Yn wir, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried wrth ddatblygu ein canolfannau rhanbarthol eraill, gan eu gwneud yn well fyth. Bydd ein canolfannau rhanbarthol cynnar yn feinciau arbrofi ar gyfer gwelliannau parhaus.

Rydym yn gweithio鈥檔 galed i fod yn sefydliad mwy agored a chynhwysol - rhywle y gall pawb fod ei hunan yn y gwaith, lle y mae gan bawb lais a gall ddweud ei ddweud. Rydym hefyd yn dod yn sefydliad sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a, thrwy ein rhaglenni allgymorth, rydym yn annog gwirfoddoli i roi cymorth i gymunedau lleol.

Roedd gennym eisoes amrywiaeth o bolis茂au a phrosesau sydd wedi鈥檜 hanelu at roi cymorth i鈥檔 pobl, ac roedd y rhain yn fan cychwyn da. Yn 2015, gwnaethom gyhoeddi crynodeb lefel uchel o Asesiad Effaith ar Bobl, gan nodi鈥檙 hyn y byddem yn ei wneud yn ychwanegol at y rhain.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi datblygu dealltwriaeth well fyth o鈥檙 effeithiau a鈥檙 cyfleoedd ar gyfer ein pobl o ganlyniad i鈥檔 cynlluniau o ran lleoliadau, ac ym mis Mehefin 2018 cyhoeddwyd Asesiad Effaith manwl ar Bobl a Chydraddoldeb.

Mae ein Rhaglen Leoliadau yn arwain y ffordd fel cam cyntaf Hybiau鈥檙 Llywodraeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn enghraifft batrymol. Mae ein Canllaw Dylunio Cynhwysol ar gyfer canolfannau rhanbarthol yn arwain y diwydiant. Bydd yn sicrhau ein bod yn creu amgylcheddau gwaith sydd mor gynhwysol 芒 phosibl.

Mae Rhaglen Gweithio鈥檔 Gallach CThEM hefyd yn dechrau helpu i newid y ffordd y mae ein pobl yn gweithio, fel ein bod yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern ac adeiladau newydd.

Camau nesaf

Bydd pob un o鈥檙 canolfannau rhanbarthol yn gwneud cyfraniad mawr i econom茂au鈥檙 dinasoedd lle y byddwn wedi ein lleoli, drwy gynnig rhagor o swyddi tra medrus ac o ansawdd uchel. Mae hynny oherwydd bod y mathau o swyddi rydym yn eu cynnig yn newid.

Mae angen arbenigwyr treth arnom sydd 芒 sgiliau digidol, ynghyd 芒 dadansoddwyr data ac arbenigwyr digidol. Dyna pam yr ydym yn bwriadu gweithio gyda phrifysgolion a cholegau lleol i ddenu鈥檙 dalent orau. Mae gennym systemau sydd ar flaen y gad sy鈥檔 galluogi dadansoddwyr i ddidoli a gwirio biliynau o ddarnau o ddata er mwyn dod o hyd i anghysondebau. Felly, mae angen pobl arnom sy鈥檔 deall technoleg ddigidol ac sy鈥檔 gallu gwneud y defnydd gorau ohoni.

Ym Mryste, 3 Glass Wharf fydd ein hail ganolfan ranbarthol i agor. Mae hi ar y trywydd iawn i gael ei hagor yn 2019, ac mae llai na blwyddyn ar 么l cyn y symudiadau cyntaf. Yn yr un modd, mae gwaith ar Erskine House yn Belfast yn symud yn ei flaen yn dda, a bwriedir ei agor nes ymlaen yn 2019.

Rydym wedi hen ddechrau symud i鈥檔 canolfannau rhanbarthol erbyn hyn, ac mae鈥檔 un o鈥檙 rhaglenni gweddnewid mwyaf yn Ewrop. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein huchelgais o fod yr awdurdod treth mwyaf digidol ddatblygedig yn y byd.