Ffurflen

Byddardod galwedigaethol: arweiniad ar gwblhau鈥檙 ffurflenni cais (BI100PDW a BI100ODW)

Diweddarwyd 22 Mai 2024

Defnyddiwch y nodiadau hyn i鈥檆h helpu i gwblhau鈥檙 ffurflenni cais os ydych yn gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol am fyddardod galwedigaethol (afiechyd rhagnodedig A10).

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) am yr afiechyd rhagnodedig A10 byddardod galwedigaethol, mae鈥檔 rhaid i chi fod wedi:

  • colli clyw o 50dB neu fwy ym mhob clust
  • gweithio, neu鈥檔 gweithio鈥檔 agos at rywun, am 10 mlynedd neu fwy, gan ddefnyddio offer neu beiriannau penodol sy鈥檔 debygol o achosi byddardod

Gallwch ddefnyddio gwahanol gyfnodau i gwmpasu鈥檙 10 mlynedd.

Enghraifft

Os ydych yn hawlio ar 19 Chwefror 2020 gallwch fod wedi gweithio, neu wedi gweithio鈥檔 agos i rywun, gan ddefnyddio offer neu beiriannau penodol sy鈥檔 debygol o achosi byddardod am:

  • y 3 blynedd o 1 Chwefror 2000 i 31 Ionawr 2003
  • y 2 flynedd o 1 Chwefror 2008 i 31 Ionawr 2010
  • y 5 mlynedd o 13 Chwefror 2015 i 12 Chwefror 2020

Nid yw cyfnodau hunangyflogaeth yn cyfrif.

Mae鈥檔 rhaid eich bod wedi bod yn gwneud y gwaith hwnnw o fewn 5 mlynedd i鈥檙 dyddiad rydych yn gwneud cais.

Dewch o hyd i restr o offer neu beiriannau sy鈥檔 debygol o achosi byddardod o dan afiechyd rhif A10 byddardod galwedigaethol.

Aelodau o鈥檙 lluoedd arfog

Mae Veterans UK yn gweithredu cynllun ar wah芒n ar gyfer aelodau鈥檙 lluoedd arfog. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: 0800 169 2277.

Sut i wneud cais

Cwblhewch ffurflenni BI100PDW a BI100ODW.

Ffurflen BI100PDW, Rhan 3: Yngl欧n 芒鈥檆h gwaith neu鈥檆h cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth a gymeradwywyd a鈥檆h afiechyd

Lle byddwch yn cwblhau 鈥楻han 3: Yngl欧n 芒鈥檆h gwaith neu鈥檆h cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth a gymeradwywyd a鈥檆h afiechyd, dywedwch wrthym:

  • pa afiechyd neu afiechydon sydd gennych
  • manylion pob un o鈥檙 swyddi neu鈥檙 hyfforddiant lle gwnaethoch ddefnyddio, neu weithio鈥檔 agos i rywun sy鈥檔 defnyddio, offer neu beiriannau sy鈥檔 debygol o achosi byddardod

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h gwybodaeth gyflogaeth:

  • cwmpasu 10 mlynedd neu fwy
  • dangos yr oeddech yn gwneud y gwaith neu鈥檙 hyfforddiant hwnnw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf

Efallai y byddwch am ystyried y cyflogwyr roeddech yn gweithio iddynt am y cyfnod hiraf. Gallai hyn gwmpasu鈥檙 10 mlynedd sydd ei angen ac efallai na fydd angen i chi roi manylion pob cyflogwr.

Os oes angen i chi ddweud wrthym am fwy na 2 gyflogwr, defnyddiwch dudalen olaf y ffurflen gais BI100PDW i roi鈥檙 wybodaeth ychwanegol i ni. Gwnewch yn si诺r eich bod yn rhoi鈥檙 un wybodaeth am y cyflogwyr hyn a鈥檙 gwaith a wnaethoch fel y rhoddwch yn Rhan 3.

Ffurflen BI100ODW

Pan fyddwch yn cwblhau鈥檙 ffurflen BI100ODW mae angen i chi ddweud wrthym am yr un cyflogwyr roeddech wedi dweud wrthym amdanynt yn y BI100PDW.

Ar gyfer pob cyflogwr mae angen i chi ddweud wrthym am yr offer neu鈥檙 peiriannau y gwnaethoch eu defnyddio neu weithio鈥檔 agos at rywun yn eu defnyddio.

Cysylltu 芒鈥檆h cyflogwyr

Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag unrhyw un o鈥檙 cyflogwyr rydych yn dweud wrthym amdanynt.