Comisiwn annibynnol ar system reoleiddio'r sector dŵr: cylch gorchwyl
Cyhoeddwyd 23 Hydref 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Y Weledigaeth
Mae dŵr yn hanfodol i gymdeithas. Ein huchelgais yw creu sector dŵr diogel sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac sy’n dal i ddarparu dŵr yfed o ansawdd sydd gyda’r gorau yn y byd. Bydd hefyd yn gwireddu blaenoriaethau ein llywodraeth o ran iechyd y cyhoedd, mwynhau dyfroedd, yr amgylchedd naturiol, twf economaidd a diogelu cyflenwadau bwyd.
Mae’r pwysau ar y system ar gynnydd o achos hinsawdd sy’n newid, y twf yn y boblogaeth, yr argyfwng natur a’r angen i sicrhau twf economaidd. Mae’r sector dŵr yn wynebu problemau niferus a bydd eu datrys yn gofyn am ei drawsnewid ac am gryn cyfaddawdu, fel cadw dŵr yn fforddiadwy tra’n sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen i wella canlyniadau i gwsmeriaid ac i ddarparu afonydd, llynnoedd a moroedd glân.
Mae’r fframwaith ar gyfer rheoleiddio dŵr wedi datblygu bob yn damaid ers preifateiddio, a’r canlyniad yw system ddarniog. Mae pryderon am y llygredd yn ein dyfrffyrdd, y pwysau ar y cyflenwad dŵr, biliau drutach, diogelu cwsmeriaid bregus, cadernid ariannol a seilwaith y sector a’r gallu i ddenu buddsoddiad i gyd yn symptomau o’r angen am newid. Er mwyn sicrhau system sy’n addas i’r dyfodol, rhaid wrth gynllun hirdymor clir ar gyfer gwireddu hynny, gweledigaeth glir o’r hyn yr ydym am i’r sector dŵr ei gyflawni a system effeithiol sy’n cadw’r ddysgl yn wastad rhwng canlyniadau gwahanol. Rydym am fynd ati mewn ffordd uchelgeisiol a hirdymor i ddiwygio’r sector dŵr, mewn partneriaeth newydd rhwng y llywodraeth, cwmnïau dŵr, pob cwsmer a phawb sy’n mwynhau ein dyfroedd ac yn gweithio i amddiffyn ein hamgylchedd.
Wrth ddiwygio’r sector, rhaid ystyried y fframwaith rheoleiddio, y rheoleiddwyr a’r cymhellion sy’n llywio model y diwydiant dŵr a chynlluniau dŵr strategol. Dylai’r diwygiad greu’r amodau sydd eu hangen o fewn y model preifat wedi’i reoleiddio i ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen i wella perfformiad amgylcheddol, i fod yn fwy atebol, ailadeiladu ffydd a hyder y cyhoedd a sicrhau sector a fframwaith dŵr gwydn, arloesol a fydd yn gweithio am ddegawdau i ddod. Dylai’r sector ddatblygu’n sector sy’n tyfu ac sy’n cynnig cyfleoedd, a fydd yn adfer iechyd ein hafonydd, llynnoedd a moroedd, yn darparu cyflenwad dŵr cydnerth ac effeithlon yn wyneb hinsawdd sy’n newid, ac yn sicrhau yn y pen draw bod y sector dŵr yn gweithio er lles cwsmeriaid a’r amgylchedd.
Mae ein dyfrffyrdd yn croesi ffiniau ac mae dŵr yn bwnc cymhleth a hynod sensitif yn y setliad datganoli yng Nghymru, a bydd angen ei ystyried wrth ddatblygu trefniadau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’i gilydd i fynd i’r afael â phroblemau a rennir. Bydd angen consensws ar gyfer gweithredu, ac mae hyn yn cynnwys atebion unigryw yng Nghymru ac yn Lloegr lle bo’u hangen.
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y DU, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi gofyn i’r adran weithio gyda chadeirydd comisiwn annibynnol newydd, Sir Jon Cunliffe i lunio cyfres o argymhellion i ddiwygio system reoleiddio’r sector dŵr ac ‘ailgychwyn� y sector dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae holl adrannau perthnasol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl hwn.
Amcanion y comisiwn
Dylai’r comisiwn wneud argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod fframwaith rheoleiddio’r sector dŵr yn rhoi i ni’r canlyniadau canlynol:
- Sicrhau bod gan y diwydiant dŵr amcanion clir o ran ei ganlyniadau yn y dyfodol, a gweledigaeth hirdymor i gefnogi’r ffordd sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau eu gwerth o ran yr amgylchedd, iechyd cyhoeddus, cwsmeriaid a’r economi.
- Sicrhau bod dŵr yn cael ei reoli trwy gynlluniau gofodol strategol ar draws sectorau gwahanol o’r economi, gan fynd i’r afael â llygredd a rheoli’r pwysau ar yr amgylchedd a’r cyflenwad dŵr ar raddfa dalgylch, rhanbarth a gwlad. Dylai hyn gydnabod yr heriau trawsffiniol y gall dŵr eu cyflwyno.
- Sicrhau bod fframwaith rheoleiddio’r diwydiant dŵr yn rhoi sefydlogrwydd hirdymor ac yn galluogi cwmnïau dŵr i ddenu buddsoddiad, cynnal trefniadau ariannol cadarn a chyfrannu at dwf yr economi.
- Symleiddio a chrisialu’r gofynion ar gwmnïau dŵr i sicrhau canlyniadau gwell i’r amgylchedd, cwsmeriaid, yr economi ac yn ariannol.
- Sicrhau bod rheoleiddwyr y sector dŵr yn effeithiol, eu bod yn glir eu pwrpas a bod ganddynt y grym i ddwyn cwmnïau dŵr i gyfrif trwy fod yn ‘gadarn ond teg� gan roi’r rhyddid haeddiannol i gwmnïau sy’n perfformio’n dda. Dylai ystyried pa mor dryloyw, rhagweladwy ac atebol yw’r penderfyniadau a’r perfformiad rheoleiddio. Dylai egluro hefyd perthynas rheoleiddwyr â Senedd y DU a chyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac ystyried sut mae’r rheoleiddwyr yn rhyngweithio, gan gynnwys ar draws ffiniau.
- Gwella gallu’r diwydiant i gyflawni gan gynnwys ei gadwyn gyflenwi, ac ystyried sut i yrru arloesedd.
- Diogelu buddiannau defnyddwyr, gan gynnwys cwsmeriaid bregus a di-breswyl, a sicrhau fforddiadwyedd. Dylai trefniadau llywodraethu a gwneud penderfyniadau cwmnïau fod yn onest, tryloyw a theg er mwyn sicrhau canlyniadau a gwerth, hynny er lles yr amgylchedd a chwsmeriaid, Dylent ystyried buddiannau cwsmeriaid, y cyhoedd a’r rheini sy’n ymwneud ag ac yn mwynhau amgylchedd y dŵr a helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sector dŵr.
- Sicrhau bod cwmnïau dŵr mewn sefyllfa gadarn o safbwynt ariannol a gweithredol, a’u bod yn gallu darparu seilwaith cydnerth a diogel o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt a’i gynnal yn y tymor hir. Dylai hyn gynnwys rhagweld a buddsoddi i ddarparu newidiadau yn y dyfodol fel datblygiadau arfaethedig a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.
Cwmpas a chynnal y comisiwn
Cwmpas y comisiwn yw’r diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr a’r fframwaith cynllunio strategol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a Chynlluniau Rheoli Basn Afonydd i sicrhau bod cynlluniau strategol ar draws sectorau’n effeithiol. Cwmpesir hefyd tai, cynllunio, amaethyddiaeth a draenio sy’n gysylltiedig â chynlluniau strategol ar gyfer y system ddŵr.
O ran Cymru, bydd y Comisiwn yn gweithio, ac yn gwneud argymhellion, o fewn cyd-destun y fframwaith a ddarperir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel y’i nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rhaid i’r gwaith fod yn gyson hefyd â llwybr datgarboneiddio Cymru a ddiffinnir yng Nghyllidebau Carbon Cymru a thargedau cysylltiedig, yn ogystal â hynt Bil drafft Amgylchedd a Llywodraethu Cymru.
Rhaid i’r gwaith fod yn gyson hefyd â fframwaith Cyllidebau Carbon y DU, fel y’i nodir yn Neddf Newid Hinsawdd 2008, a’i alinio ag amcanion sero net, gan gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â phrosesau trin dŵr gwastraff.
Dylai’r Comisiwn ystyried sut mae system rheoleiddio’r sector dŵr yn rhoi’r sicrwydd ynghylch darparu’r seilwaith dŵr sydd ei angen i gynnal cynlluniau datblygu, twf tai a datblygu cynaliadwy, tra’n diogelu a gwella’r amgylchedd mewn ffordd strategol. Dylai hyn gynnwys ystyried sut y gall rheoleiddio a chynllunio seilwaith dŵr a datblygiadau preswyl a masnachol, weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol i ragweld twf yn y dyfodol a buddsoddi i’w ddarparu ac i ddatrys ac atal problemau yn gyflym lle gall cyfyngiadau o ran capasiti dŵr a dŵr gwastraff atal y datblygiad angenrheidiol (megis trwy eu heffaith ar y gofyn am ddŵr a niwtraleiddio maetholion).
Er mwyn sicrhau bod y cwmpas yn hylaw, ni ofynnir i’r Comisiwn ystyried y rheoliadau penodol sy’n ymwneud â rheoleiddio y tu allan i’r diwydiant dŵr, er enghraifft y rhai ar gyfer llifogydd ac amaethyddiaeth, a diwygiadau cynllunio ehangach. Dylai’r Comisiwn ond eu hystyried yng nghyd-destun eu perthynas â chynlluniau strategol ar gyfer dŵr, megis drwy Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a rheoli dŵr ar sail dalgylch. Dylai hyn gynnwys defnyddio mwy o atebion sy’n seiliedig ar natur cyn belled â’u bod yn werth yr arian.
Bydd y llywodraeth a’r rheoleiddwyr yn parhau i weithredu i sbarduno gwelliannau mawr eu hangen sydd eisoes ar y gweill gan ymdrin â phynciau sydd y tu allan i gwmpas uniongyrchol y comisiwn. Byddant yn cydweithio â’r comisiwn i osgoi dyblygu. Efallai y bydd angen gweithredu mwy brys mewn meysydd sydd o fewn cwmpas y comisiwn (er enghraifft, draenio cynaliadwy yn Lloegr, a thariffau cymdeithasol). Bydd gan y llywodraeth a rheoleiddwyr rwymedigaethau cyfreithiol, gweithgareddau gweithredol hanfodol i’w cynnal, polisïau i’w rhoi ar waith a sefyllfaoedd eraill a allai godi a chyffwrdd â gwaith y comisiwn i ddelio â nhw. Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd Gweinidogion yn trafod yn adeiladol â’r comisiwn i sicrhau na fyddant yn effeithio ar ei waith wrth ddatblygu argymhellion.
Bydd adolygiad y comisiwn yn edrych tua’r dyfodol. Er mwyn sicrhau amodau buddsoddi sefydlog, ni fydd y comisiwn yn gwneud argymhellion sy’n effeithio ar broses fyw Adolygiad Prisiau 24.
Bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar ddiwygiadau sy’n gwella’r model preifat wedi’i reoleiddio. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau na fydd yr adolygiad yn ystyried gwladoli’r sector dŵr, hynny oherwydd y costau uchel sy’n gysylltiedig â’r opsiwn hwn, y diffyg tystiolaeth y byddai’n arwain at welliannau, a’r oedi y byddai’n ei achosi o ran gwella canlyniadau i ddefnyddwyr a’r amgylchedd. O ran Cymru, bydd y comisiwn yn adolygu model Cymru lle mae’r cwmni dŵr mwyaf yn defnyddio’r model nid-er-difidend heb gyfranddalwyr.
Rhaid i argymhellion y comisiwn fod yn ymarferol ac yn gyflawnadwy. Dylai’r comisiwn gynnal asesiad bras o fanteision diwygio ochr yn ochr â chostau hynny i’r llywodraeth, talwyr biliau a’r rhagolwg cyllidol ehangach er na ddisgwylir iddo gynnal dadansoddiad costau/manteision manwl. Dylai ystyried fframweithiau cyfreithiol trawsbynciol, gan gynnwys datganoli, amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer hawliau dynol, y drefn rheoli cymhorthdal a’r egwyddorion amgylcheddol.
Bydd y comisiwn yn canolbwyntio ar fframwaith strategol y sector dŵr ac ar y sector yn ei gyfanrwydd. Ni wnaiff argymhellion sy’n benodol i unrhyw gwmni dŵr unigol.
Dulliau gweithredu a chanlyniadau
Cynnyrch terfynol y comisiwn fydd adroddiad i’r llywodraeth erbyn Ch2 2025 gydag argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i ddiwygio fframwaith rheoleiddio’r sector dŵr. Yn dilyn casgliad y comisiwn, bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion y comisiwn ac yn ymateb iddynt. Bydd yr adolygiad yn cynnwys trafod ag ystod eang o randdeiliaid. Yn arbennig, bydd y cadeirydd yn gofyn i grŵp cynghori o arbenigwyr enwebedig i roi ei farn. Bydd yr aelodau’n cynrychioli meysydd fel yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, cwsmeriaid, buddsoddwyr, peirianneg a’r economi. Bydd y cadeirydd yn gofyn hefyd i grwpiau ehangach o randdeiliaid am eu barn, gan gynnwys ymgyrchwyr amgylcheddol, grwpiau defnyddwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr y sector dŵr (Ofwat, Arolygiaeth Dŵr Yfed, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru). Gofynnir barn hefyd sefydliadau perthnasol eraill fel Natural England, Llywodraeth Leol a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Bydd y comisiwn yn gwneud cais cyffredinol hefyd am dystiolaeth er mwyn clywed ystod eang o safbwyntiau.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Sir Jon Cunliffe yn gadeirydd annibynnol y comisiwn. Bydd y cadeirydd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r gwaith, gan sicrhau ei fod yn cwrdd â’r Cylch Gorchwyl, a sicrhau bod tystiolaeth a barn y panel cynghori a’r cyhoedd yn cyfrannu at waith y comisiwn.
Bydd y cadeirydd a’r grŵp cynghori yn cael eu cefnogi gan ysgrifenyddiaeth Defra.
Bydd y comisiwn yn ystyried hefyd waith cyfochrog, gan gynnwys adolygiadau sy’n cael eu cynnal ym mhob rhan o’r Llywodraeth.
Amseru
Bydd yr adolygiad yn cyhoeddi’i adrodd erbyn Ch2 2025. Bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymateb ac yn ymgynghori ar gynigion y maent yn bwriadu eu datblygu.