Guidance

Welsh: Customer fact sheet: incapacity benefits reassessment

Updated 27 February 2020

Gwybodaeth bwysig

Mae鈥檙 pecyn gwybodaeth hwn yn ganllaw yn unigac nid yw鈥檔 cwmpasu pob amgylchiad. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth yn y pecyn gwybodaeth hwn yn gywir o fis Chwefror 2011. Mae鈥檔 bosibl y bydd rhywfaint o鈥檙 wybodaeth wedi鈥檌 gorsymleiddio, neu鈥檔 dod yn llai cywir dros amser, er enghraifft oherwydd newidiadau i鈥檙 gyfraith.

Ailasesu cwsmeriaid budd-dal analluogrwydd

Rhwng mis Hydref 2010 a Gwanwyn 2014 bydd cwsmeriaid sy鈥檔 cael Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail salwch neu anabledd yn cael eu hasesu ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Ni fydd hyn yn effeithio ar bobl sy鈥檔 cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth erbyn y 6ed Ebrill 2014. Ni fydd yn effeithio ar bobl sydd eisoes yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os yw ailasesu budd-daliadau analluogrwydd yn effeithio arnoch

Byddwn yn ysgrifennu atoch pan ddisgwylir i鈥檆h budd-dal gael ei ailasesu i鈥檆h hysbysu am y newidiadau.

Byddwn hefyd yn eich ffonio yn fuan ar 么l hyn i weld a ydych wedi cael y llythyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol ac i gael gwybod os oes angen unrhyw help ychwanegol arnoch.

Nid oes angen i chi gysylltu 芒 ni cyn i ni ysgrifennu atoch. Rydym yn bwriadu ailasesu pob cais budd-daliadau analluogrwydd erbyn 2014. Mae hyn yn golygu efallai y bydd peth amser cyn i ni gysylltu 芒 chi am y newid hwn. Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol cyhyd 芒鈥檆h bod yn bodloni鈥檙 amodau hawlio, tan i ni gwblhau鈥檙 broses o ailasesu eich budd-dal.

Holiadur gallu cyfyngedig i weithio

Ar 么l i chi gael y llythyr cyntaf byddwn wedyn yn anfon holiadur gallu cyfyngedig i weithio atoch (ESA50W) gan Gofal Iechyd Atos (ein contractwr gwasanaethau meddygol) i鈥檞 chwblhau a鈥檌 dychwelyd atom. Mae鈥檙 holiadur hwn yn gofyn am sut y mae eich cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd. Rhaid i chi gwblhau鈥檙 holiadur hwn gyda chymaint o fanylion 芒 phosib a鈥檌 dychwelyd atom erbyn y dyddiad a roddir, neu efallai y bydd yn effeithio ar eich budd-dal.

Mae鈥檙 llythyr eglurhaol sydd ynghlwm 芒鈥檙 holiadur hefyd yn dweud wrthych ble i anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffech i ni eu hystyried, megis tystiolaeth gan weithiwr cymorth, meddyg, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn edrych ar y wybodaeth a ddarperir yn yr holiadur.

Os ydynt yn teimlo bod angen mwy o wybodaeth i wneud penderfyniad am eich cais, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn argymell eich bod yn mynychu asesiad wyneb yn wyneb. Bydd Gofal Iechyd Atos yn cysylltu 芒 chi i drefnu asesiad wyneb yn wyneb Gallwch fynd 芒 ffrind, perthynas neu gynrychiolydd i鈥檙 asesiad hwn os ydych yn dymuno.

Efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am wybodaeth, megis adroddiad meddygol gan eich meddyg, y byddant hefyd yn ei ystyried.

Yr Asesiad Gallu i Weithio 鈥� asesiad wyneb yn wyneb

Yr Asesiad Gallu i Weithio yw鈥檙 prif asesiad ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allwch ei wneud.

Yn ystod yr asesiad wyneb yn wyneb, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn asesu pa mor dda y gallwch wneud pethau fel cerdded, eistedd a sefyll, defnyddio eich dwylo, gweld a chlywed. Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, bydd yn asesu sut y mae鈥檔 effeithio ar bethau fel eich hwyliau, eich ymddygiad, y ffordd rydych yn ymwneud 芒鈥檙 byd o鈥檆h cwmpas, a sut rydych yn ymdopi 芒 phethau o ddydd i ddydd.

Os gofynnir i chi fynychu mae鈥檔 rhaid i chi fynd i鈥檙 asesiad a chymryd rhan yn llawn, neu efallai y bydd yn effeithio ar eich budd-dal.

Ar 么l yr Asesiad Gallu i Weithio 鈥� asesiad wyneb yn wyneb

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a gynhaliodd eich Asesiad Gallu i Weithio yn cwblhau adroddiad a鈥檌 anfon atom. Gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth o鈥檙 holiadur, yr asesiad wyneb yn wyneb ac unrhyw dystiolaeth arall a ddarperir, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu a oes gennych hawl I gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Allowance. Efallai y byddwn yn eich ffonio os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom i wneud penderfyniad ynghylch p鈥檜n a dylent ddyfarnu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi.

Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol cyhyd 芒鈥檆h bod yn bodloni鈥檙 amodau hawlio, hyd nes y byddwn wedi cwblhau鈥檙 ailasesiad o鈥檆h budd-dal.

Pan wneir penderfyniad

Os ydych yn gymwys am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod i chi ac yn esbonio鈥檙 hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd eich budd-dal yn cael ei drosglwyddo yn awtomatig ac ni fydd toriad yn y taliadau a gewch. Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac yn cael mwy o fudd-daliadau analluogrwydd presennol nag y byddech ar gyfradd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch daliad atodol. Os cewch lai ar fudd-daliadau analluogrwydd nag y byddech yn ei gael ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd eich budd-dal yn codi i gyfradd.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Mae dau gr诺p ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gyda gwahanol lwfansau ac amodau:

  • Gr诺p Gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Gwaith
  • Gr诺p Cymorth

Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar yr amser hwnnw ym mha gr诺p rydych wedi cael eich rhoi a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig ar 么l ein galwad i chi.

Os byddwch yn cael ei roi yn y Gr诺p Gweithgaredd sy鈥檔 Gysylltiedig 芒 Gwaith

Os cewch eich rhoi yn y Gr诺p Gweithgaredd sy鈥檔 Gysylltiedig 芒 Gwaith bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau sy鈥檔 canolbwyntio ar waith gyda鈥檆h ymgynghorydd personol. Byddwch yn cael cymorth i鈥檆h helpu i baratoi ar gyfer gwaith addas. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn cydran Gweithgaredd sy鈥檔 Gysylltiedig 芒 Gwaith yn ogystal 芒鈥檆h cyfradd sylfaenol o fudd-dal.

Os byddwch yn gwrthod mynd i Gyfweliadau sy鈥檔 Canolbwyntio ar Waith, neu鈥檔 gwrthod cymryd rhan ynddynt yn llawn, gall effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os cewch eich rhoi yn y Gr诺p Cymorth

Os cewch eich rhoi yn y Gr诺p Cymorth oherwydd bod gennych anabledd difrifol neu gyflwr iechyd sy鈥檔 effeithio ar eich gallu i weithio, ni fydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith i gael eich budd-dal, ond efallai y byddwch yn dewis cael cefnogaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith. Byddwch yn cael yr elfen gymorth yn ogystal 芒鈥檆h cyfradd sylfaenol o fudd-dal.

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod i chi ac i drafod eich opsiynau. Efallai fod gennych hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm am resymau eraill neu Gredyd Pensiwn. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein penderfyniad. Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith, byddwch yn cael y dewis i wneud cais pan fyddwn yn dweud wrthych fod eich hawl am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi cael ei gwahardd.

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith a鈥檙 budd-daliadau eraill os ydych ar incwm isel.

Os ydych yn anfodlon gyda鈥檔 penderfyniad

Pan fyddwn yn eich ffonio neu鈥檔 ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am ein penderfyniad, byddwn hefyd yn dweud wrthych beth i鈥檞 wneud os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir.

Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir, bydd angen i chi gysylltu 芒 ni o fewn mis calendr i ddyddiad cyhoeddi鈥檙 llythyr penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu 芒 ni yn hwyrach na hyn efallai na fyddwn yn gallu eich helpu.

Ceir rhagor o wybodaeth am apeliadau.