Sut i ddarllen cofrestr teitl
Cyhoeddwyd 4 Tachwedd 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae gennych chi gopi o gynllun teitl a chofrestr teitl eich eiddo, ond beth hynny鈥檔 ei olygu?
Eich eiddo
Pan fyddwn yn cofrestru eiddo, rydym yn rhoi cyfeirnod unigryw a elwir yn rhif teitl iddo ac yn paratoi cofrestr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, cynllun teitl.
Mae鈥檙 gofrestr yn dangos gwybodaeth bwysig am yr eiddo, megis enwau鈥檙 perchnogion cyfreithiol ac a oes unrhyw forgeisi, hawliau tramwy neu faterion cyfreithiol eraill yn effeithio arno.
Mae鈥檔 cynnwys disgrifiad o鈥檙 eiddo hefyd 鈥� y cyfeiriad post fel arfer 鈥� ac a yw鈥檔 cael ei ddal am gyfnod penodol o amser o dan brydles (prydlesol) neu鈥檔 cael ei berchnogi鈥檔 llwyr (rhydd-ddaliol).
Yn gyffredinol, mae angen ichi ddarllen y gofrestr teitl a鈥檙 cynllun teitl gyda鈥檌 gilydd, ond at ein dibenion ni yma, byddwn yn canolbwyntio ar y gofrestr.
Darllenwch sut i lawrlwytho a darllen cynllun teitl.
Y gofrestr
Cyhyd 芒 bod y tir neu eiddo yng Nghymru neu Loegr ac wedi ei gofrestru, gallwch:
- lawrlwytho cofrestr teitl
- gwneud cais am gopi swyddogol gan ddefnyddio ffurflen OC1 (y gost yw 拢11 y ddogfen)
P鈥檜n ai ydych yn lawrlwytho rhan o鈥檙 gofrestr neu鈥檔 gwneud cais am gopi swyddogol, gallwch ddibynnu ar y copi i ddangos sefyllfa鈥檙 gofrestr ar y dyddiad a鈥檙 amser a ddangosir. Os oes newidiadau yn aros i鈥檞 gwneud i鈥檙 gofrestr, caiff eich copi ei 么l-ddyddio i鈥檙 amser yn union cyn y gwnaed cais am y newid cyntaf.
Gweler .

An example of a downloaded title register.
Tair rhan
Caiff y rhan fwyaf o gofrestri teitl eu rhannu yn 3 rhan:
- A 鈥� eiddo
- B 鈥� perchnogaeth
- C 鈥� arwystlon
Mae gan rai atodlenni hefyd, lle mae rhagor o fanylion am rai o鈥檙 cofnodion wedi eu nodi. Mae鈥檙 union fanylion yn amrywio ar gyfer pob eiddo.
Dylech ymgynghori 芒鈥檆h cynghorydd cyfreithiol os nad ydych yn siwr am unrhyw beth yn y gofrestr. Cofiwch, ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi.
Y gofrestr eiddo (A)
Mae cofrestr A yn darparu:
-
disgrifiad byr o鈥檙 eiddo, gan gynnwys a yw鈥檔 rhydd-ddaliol neu鈥檔 brydlesol a鈥檌 fod wedi ei ddangos ar ei gynllun teitl cysylltiedig
-
unrhyw hawliau y gallai elwa arnynt, megis hawl tramwy preifat
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 brydlesol, bydd y gofrestr hefyd yn dangos manylion cryno鈥檙 brydles, megis y dyddiad, y part茂on o dan sylw ac am ba mor hir ydyw.
Gallai cofrestr A gynnwys cofnodion eraill fel:
Cyfeiriad at eiddo arall nad yw鈥檔 rhan o鈥檙 teitl cofrestredig, er enghraifft y mwynfeydd a mwynau sydd oddi tano:
(13.10.2003) Mae鈥檙 mwynfeydd a mwynau wedi eu heithrio.
Cyfeiriad at olau neu aer a/neu strwythurau terfyn:
(13.10.2003) Mae鈥檙 Trawsgludiad dyddiedig 19 Hydref 1959 y cyfeirir ato yn y Gofrestr Arwystlon yn cynnwys y gosodiad canlynol:
CYTUNDEB A DATGANIAD na ddylai鈥檙 Prynwr gael hawl i unrhyw hawl i olau nac aer i鈥檙 tir o dan sylw a drosglwyddir trwy hynny. Yn ogystal, bod y ffensys terfyn yn cael eu cynnal ar y cyd gan y part茂on.
Cyfeiriad at dir nad yw bellach wedi ei gynnwys yn y teitl:
(13.10.2003) Mae鈥檙 tir wedi ei amlinellu a鈥檌 rifo mewn gwyrdd ar y cynllun teitl wedi ei dynnu ymaith o鈥檙 teitl hwn a鈥檌 gofrestru o dan y rhif teitl neu鈥檙 rhifau a ddangosir mewn gwyrdd ar y cynllun dywededig.
Y gofrestr perchnogaeth (B)
Mae cofrestr B yn dangos:
- dosbarth y teitl
- enwau鈥檙 perchnogion cofrestredig presennol a鈥檙 cyfeiriadau a ddefnyddir gennym i gysylltu 芒 nhw
- (weithiau) faint a dalwyd amdano neu arwydd o鈥檌 werth ar ddyddiad a nodir
- unrhyw gyfyngiadau 鈥� cofnodion yw鈥檙 rhain sy鈥檔 cyfyngu ar b诺er y perchennog i ddelio 芒鈥檙 eiddo, er enghraifft, i鈥檞 atal rhag gwerthu neu sicrhau benthyciad heb ganiat芒d rhoddwr benthyg y morgais
Dosbarthiadau teitl
Pan gawn gais i gofrestru tir am y tro cyntaf, byddwn yn ymchwilio i鈥檙 gweithredoedd teitl a gwybodaeth arall mae鈥檙 ceisydd yn ei darparu. Os yw鈥檙 dystiolaeth hon yn sefydlu perchnogaeth y ceisydd, byddwn yn eu cofrestru gyda dosbarth teitl, yn dibynnu a yw鈥檙 eiddo鈥檔 rhydd-ddaliol neu鈥檔 brydlesol.
Y dosbarthiadau gorau a mwyaf cyffredin yw teitl rhydd-ddaliol llwyr a phrydlesol llwyr, ond mewn rhai achosion byddwn yn rhoi dosbarth teitl mwy cyfyngedig. Os ydych yn ansicr ynghylch dosbarth y teitl a nodir yn eich cofrestr neu beth mae鈥檔 ei olygu, dylech ymgynghori 芒鈥檆h cynghorydd cyfreithiol.
Cyfyngiadau
Mae cyfyngiadau yn atal Cofrestrfa Tir EF rhag cwblhau cofrestriad trafodion penodol, megis trosglwyddiadau, prydlesi neu forgeisi, oni bai bod yr amodau a nodir yn y cyfyngiad yn cael eu bodloni.
Eu pwrpas fel arfer yw sicrhau y cydymffurfir 芒 gofynion cyfreithiol penodol.
Er enghraifft, efallai bydd cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif cydymffurfio 芒 thelerau trosglwyddiad blaenorol neu ddogfen arall, neu gydsyniad rhywun heblaw鈥檙 perchennog cofrestredig.
Cyfyngiadau cyffredin
Dyma rai cyfyngiadau cyffredin y gallech eu gweld yn eich cofrestr:
(13.02.2019) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i鈥檞 gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y llys.
Dyma鈥檙 cyfyngiad mwyaf cyffredin, a gofnodir pan fo鈥檙 perchnogion yn ymddiriedolwyr. Mae鈥檔 cyfyngu ar yr hyn y gall un perchennog ei wneud ar ei ben ei hun.
(20.02.2002) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad o鈥檙 ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i鈥檞 gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr yn nodi bod y trawsgludwr hwnnw鈥檔 fodlon mai鈥檙 person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i鈥檞 chofrestru fel gwaredwr yw鈥檙 un person 芒鈥檙 perchennog.
Mae鈥檙 cyfyngiad hwn yn helpu i warchod rhag twyll.
(17.10.2018) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad o鈥檙 ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i鈥檞 gofrestru heb dystysgrif a lofnodwyd gan Gwmni a Enwyd CCC y cydymffurfiwyd 芒 darpariaethau cymal 22 o Bedwaredd Atodlen y Brydles gofrestredig.
Fe welwch hyn yn aml pan fydd cwmni rheoli yn cael ei benodi i ddarparu rhai gwasanaethau a rennir.
(05.11.2012) Cyfyngiad: Nid oes trosglwyddiad yr ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i鈥檞 gofrestru heb ganiat芒d ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan UN Arall of 14 Rhywle, Unman AN1 1 AA neu ei drawsgludwr.
Bydd angen caniat芒d ysgrifenedig y person neu鈥檙 cwmni a enwir arnoch yma i gofrestru trosglwyddiad. Nid oes angen y caniat芒d arnoch i gofrestru prydles neu forgais.
Y gofrestr arwystlon (C)
Dyma lle byddwch fel arfer yn dod o hyd i fanylion rhai 鈥榖eichiau鈥� sy鈥檔 effeithio ar y tir. Nid oes gan bob cofrestr gofrestr C.
Gallai gwybodaeth yn y gofrestr arwystlon gynnwys:
- morgeisi (cyfeirir atynt weithiau fel arwystlon cofrestredig) ac arwystlon ariannol eraill gaiff eu sicrhau ar yr eiddo. Ni fydd y gofrestr yn dangos y swm o arian o dan sylw fwy na thebyg
- hawliau neu fuddion eraill sy鈥檔 cyfyngu ar sut y gellir defnyddio鈥檙 tir neu鈥檙 eiddo, megis hawliau tramwy i eraill groesi鈥檙 eiddo neu gyfamodau cyfyngu
- tenantiaethau sy鈥檔 effeithio ar yr eiddo cyfan neu ran ohono. Gellir rhestru鈥檙 rhain yn unigol neu fel rhan o atodlen o brydlesi
Cael gwybodaeth am dir ac eiddo
Darllenwch ein canllaw聽ar聽sut i gael gwybodaeth am eiddo a thir.