Deunydd hyrwyddo

Pethau i鈥檞 hystyried pan fyddwch yn penodi cyfryngwr tollau

Diweddarwyd 10 Hydref 2023

Pethau i鈥檞 hystyried pan fyddwch yn penodi cyfryngwr tollau

Os yw鈥檆h busnes wedi鈥檌 leoli yn y DU a鈥檆h bod yn mewnforio nwyddau o鈥檙 UE neu鈥檔 allforio nwyddau iddi, neu unrhyw le yn y byd, gallai penodi cyfryngwr tollau fod o fudd i chi.

Gallai cyfryngwyr tollau ddelio 芒 datganiadau mewnforio ac allforio ar eich rhan. Mae llawer o fusnesau yn penderfynu defnyddio cyfryngwr tollau gan fod datganiadau tollau鈥檔 gallu bod yn gymhleth.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am .

Cyn penodi cyfryngwr tollau, mae sawl peth i鈥檞 ystyried, megis:

  • eich gofynion busnes 鈥� y math o nwyddau rydych yn eu symud, pa mor aml rydych yn eu symud a ble rydych yn eu symud iddo neu oddi yno
  • cyfeintiau 鈥� faint o ddatganiadau rydych yn disgwyl eu gwneud
  • trwyddedu 鈥� p鈥檜n a oes angen trwydded, triniaeth arbennig neu reolaethau arbenigol eraill ar eich nwyddau
  • amseru 鈥� a oes angen i鈥檆h nwyddau gyrraedd o fewn amserlen benodol
  • eich anghenion o ran hyfforddiant tollau.

Bydd bod yn glir ar y pwyntiau hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus wrth benodi cyfryngwr tollau i鈥檆h helpu gyda phrosesau tollau ar gyfer mewnforio neu .

Eich gofynion busnes

Sicrhewch fod gennych ddigon o wybodaeth am eich gofynion cyn i chi siarad 芒 chyfryngwr tollau, yn enwedig:

  • pa fath o nwyddau rydych yn eu symud
  • pa mor aml rydych yn eu symud
  • a ble rydych yn eu symud iddo neu oddi yno 鈥� er enghraifft, y gwledydd rydych yn masnachu 芒 nhw yn aml.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • pa brofiad o ran y tollau sydd gennych?
  • pa fath o nwyddau ydych yn eu symud?
  • pa lwybrau/gwledydd sy鈥檔 rhan o鈥檆h cwmpas?
  • a allwch ymdrin 芒 gweithdrefnau鈥檙 tollau ar gyfer y gwledydd rwyf yn masnachu 芒 nhw?

Faint o ddatganiadau y mae angen i chi eu gwneud

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • faint o ddatganiadau rydych yn disgwyl eu gwneud mewn wythnos neu fis
  • pa mor aml rydych yn symud nwyddau i鈥檙 DU neu allan ohoni.

Gallwch ddefnyddio鈥檙 twlsyn, sy鈥檔 gwirio a oes angen i chi ddatgan nwyddau rydych yn dod 芒 nhw i mewn i鈥檙 DU neu鈥檔 mynd 芒 nhw allan ohoni, i鈥檆h helpu i amcangyfrif faint o ddatganiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud.

Dylech hefyd ddeall sut y bydd y cyfryngwr tollau yn codi t芒l arnoch am ei wasanaethau.

Ystyriwch ofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • a oes gennych y gallu i ymdrin 芒 nifer y datganiadau yr wyf yn disgwyl eu gwneud? (dylech allu rhoi amcangyfrif o hyn iddo)
  • sut yr hoffech gael eich talu? (er enghraifft, efallai y bydd yn codi ffi benodedig, ffi am bob datganiad, neu鈥檙 ddau).

Trwyddedau, triniaeth arbennig neu reolaethau eraill

Mae angen i chi wybod a oes angen trwydded, triniaeth arbennig neu reolaethau arbenigol eraill ar eich nwyddau.

Ystyriwch ofyn i鈥檙 cyfryngwr tollau a all gadarnhau a fydd ganddo鈥檙 gallu i ymdrin 芒鈥檆h anghenion o ran trwyddedu.

Amseru 鈥� nwyddau sydd angen cyrraedd yn gyflym

Meddyliwch a oes angen i鈥檆h nwyddau gyrraedd pen eu taith o fewn amserlen benodol neu a oes angen gwneud newidiadau cyflym neu newidiadau y tu allan i oriau.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • a allwch flaenoriaethu datganiadau ar gyfer nwyddau sydd, er enghraifft, angen cyrraedd pen eu taith o fewn amserlen benodol?
  • a allwch ymateb yn gyflym i faterion annisgwyl a allai godi wrth i nwyddau gael eu mewnforio neu eu hallforio?

Hyfforddiant a chymorth

Gan fod y tollau yn gymhleth, meddyliwch a fydd angen unrhyw hyfforddiant neu gymorth arnoch.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • a ydych yn darparu unrhyw hyfforddiant a chymorth ar gyfer y tollau?
  • a ydych yn gwybod am unrhyw ddarparwyr hyfforddiant tollau eraill?

Gallwch wirio rhestr o ddarparwyr hyfforddiant tollau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch gan gyfryngwr tollau

Meddyliwch am yr hyn rydych angen i鈥檆h cyfryngwr tollau ei wneud, a鈥檙 hyn y gallwch ei wneud eich hun neu鈥檙 hyn y mae rhywun eisoes yn ei wneud i chi.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • beth yw ystod lawn y gwasanaethau rydych yn eu darparu?
  • beth fyddech chi a鈥檙 cyfryngwr tollau鈥檔 gyfrifol amdano? (er enghraifft, pwy fyddai鈥檔 gyfrifol am ddatganiadau mewnforio/allforio, datganiadau diogelwch, anghenion cludiant)

Rhannu gwybodaeth

Meddyliwch am y dull mwyaf cyfleus i chi anfon gwybodaeth at eich cyfryngwr tollau i鈥檞 alluogi i weithredu ar eich rhan, a gwiriwch a fydd hynny鈥檔 gweithio iddo hefyd.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau:

  • pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch gennyf?
  • pa mor aml fydd angen yr wybodaeth hon gennyf arnoch?
  • a allaf roi鈥檙 wybodaeth mewn ffordd sy鈥檔 addas i mi?

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn symud nwyddau drwy Ogledd Iwerddon, dylech ystyried gofyn y canlynol i鈥檙 cyfryngwr tollau: