Canllawiau

Asesiad y Swyddog Cyfrifyddu: Y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 31 Mawrth 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae鈥檔 ymarfer arferol i Swyddogion Cyfrifyddu graffu ar gynigion polisi neu gynlluniau arwyddocaol i ddechrau neu amrywio prosiectau mawr, ac yna asesu a ydynt yn bodloni鈥檙 safonau a nodwyd yn Rheoli Arian Cyhoeddus. O Ebrill 2017, mae鈥檙 llywodraeth wedi ymrwymo i wneud crynodeb o鈥檙 pwyntiau allweddol a ddaw o鈥檙 asesiadau hyn sydd ar gael i鈥檙 Senedd pan fydd swyddog cyfrifyddu wedi cytuno ar asesiad o brosiectau o fewn Portffolio Prosiectau Mawr y Llywodraeth. Mae hwn yn grynodeb ar gyfer y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol ar gyfer Cofrestrfa Tir EM (CTEM).

1. Cefndir a chyd-destun

1.1 Y cam hanfodol cyntaf yng ngham cyn-gontract y broses prynu eiddo yw cynnal chwiliadau eiddo i sefydlu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau dros yr eiddo. Mae Chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn un o鈥檙 2 chwiliad eiddo lleol allweddol sy鈥檔 mynd ochr yn ochr 芒鈥檙 chwiliad Cofrestrfa Tir EM canolog. Ceir oddeutu 26 miliwn o Bridiannau Tir Lleol yn Lloegr a gedwir mewn niferoedd anghyfartal gan 314 o awdurdodau lleol yn Lloegr.

1.2 Mae pob awdurdod lleol yn cadw cofrestr o Bridiannau Tir Lleol o fewn ei awdurdodaeth gyda ffurfiau, safonau, amserau cwblhau a ff茂oedd gwahanol ar gyfer cwsmeriaid. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae nifer o gwsmeriaid eiddo yn profi lefel gwasanaeth sy鈥檔 ddrutach, yn arafach ac yn llai hygyrch yn ddigidol nag y gallai fod ar hyn o bryd. Mae Pridiannau Tir Lleol yn rhwymedigaethau, gwaharddiadau neu gyfyngiadau dros ddarn penodol o dir megis rhestriad o adeilad, dynodiad ardal gadwraeth neu orchymyn diogelu coed. Mae Pridiant Tir Lleol yn rhwymol ar berchnogion olynol ac nid yw wedi ei ddogfennu fel arfer yng ngweithredoedd teitl eiddo.

1.3 Wrth brynu eiddo, yn gyffredinol bydd chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn cael eu gwneud at ddibenion diwydrwydd dyladwy fel rhan o鈥檙 broses drawsgludo. Mae ein hymchwil wedi dangos bod gan awdurdodau lleol amser cwblhau cyfartalog o 8 diwrnod (yn amrywio o 1 diwrnod i 50 diwrnod fel arfer) gyda chostau sy鈥檔 amrywio o 拢3 i 拢76 ar gyfer darparu canlyniadau chwiliad Pridiannau Tir Lleol i gwsmeriaid.

1.4 Mae鈥檙 Papur Gwyn Tai, 鈥淔ixing our Broken Housing Market鈥� (Chwefror 2017) wedi ymrwymo Cofrestrfa Tir EM i fod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata. Mae Cofrestrfa Tir EM yn croesawu鈥檙 her hon 鈥� mae鈥檔 cael ei moderneiddio i fod yn fusnes cofrestru wedi ei llywio鈥檔 ddigidol ac yn seiliedig ar ddata o fewn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn ganolog er mwyn cael gwir dryloywder ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth tir a bydd yn helpu i ddatgloi cynhyrchiant perthnasol y Deyrnas Unedig. Mae Deddf Seilwaith 2015 yn darparu bod yn rhaid i鈥檙 Prif Gofrestrydd Tir gadw鈥檙 gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

1.5 Yn wyneb y cymhlethdod a鈥檙 risg o drawsffurfio鈥檙 data, mae Cofrestrfa Tir EM wedi paratoi鈥檙 cynllun cyflenwi mudo mewn camau. Bydd Cam 1, yn ystod 2018 a 2019, yn digideiddio, safoni a chanoli data鈥檙 Gofrestr Pridiannau Tir a gwasanaethau cysylltiedig hyd at 26 o awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestri awdurdodau lleol sy鈥檔 gyfan gwbl ar bapur a rhai electronig er mwyn dileu papur o鈥檙 broses ac o gofrestri鈥檙 awdurdod lleol sydd 芒 niferoedd chwilio uchel, ff茂oedd uchel ac amserau cwblhau hir, gan roi鈥檙 buddion gorau i gwsmeriaid. Mae鈥檙 cam hwn hefyd wedi ei gynllunio i ddarparu鈥檙 wybodaeth fwyaf posibl am y costau, cymryd rhagdybiaethau a risgiau ar gyfer gweithredu a chamau yn y dyfodol.

2. Asesiad yn erbyn safonau鈥檙 swyddog cyfrifyddu

2.1 Rheoleidd-dra 鈥� wedi ei asesu fel rheolaidd

2.1 Darparodd Deddf Seilwaith 2015 y sail gyfreithiol i Gofrestrfa Tir EM gymryd cyfrifoldeb am gofrestru Pridiannau Tir Lleol gan awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr. Y cwmpas cyfredol ar gyfer gweithredu yw darparu Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer Lloegr yn unig. Wrth i鈥檙 p诺er i osod ff茂oedd gael ei ddatganoli yng Nghymru, byddai awdurdodau lleol Cymru yn cael eu trin o dan achos busnes ar wah芒n maes o law ac mae y tu allan i gwmpas y rhaglen ar hyn o bryd.

2.2 Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004[footnote 1] yn darparu ar gyfer cael mynediad cyhoeddus heb d芒l i鈥檙 wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae鈥檙 Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1 yn gwneud hyn mewn 2 ffordd:

  • rhaid i awdurdodau cyhoeddus fynd ati鈥檔 rhagweithiol i wneud y wybodaeth amgylcheddol sydd ganddynt ar gael i鈥檙 cyhoedd trwy ddulliau electronig
  • gall aelodau鈥檙 cyhoedd wneud cais i awdurdodau cyhoeddus am wybodaeth amgylcheddol.

2.3 Bydd gan Gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM wybodaeth amgylcheddol ynddi sydd ar gael i鈥檙 cyhoedd yn rhad ac am ddim. Mae t卯m y rhaglen wedi ymgynghori ac yn parhau i ymgynghori 芒 Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth ac wedi cael cyngor cyfreithiol a adlewyrchir yn nyluniad datblygol Gwasanaeth Cofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer deilio 芒 cheisiadau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn ogystal 芒鈥檙 chwiliadau y talwyd amdanynt fel cynhyrchion ar wah芒n a weithredir o鈥檙 un gofrestr. Mae darpariaethau iawndal statudol yn gymwys i chwiliadau personol a swyddogol.

2.2 Priodoldeb 鈥� wedi ei asesu fel priodol

2.4 Mae strategaeth ariannol Cofrestrfa Tir EM ar gyfer gweithredu鈥檙 Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol wedi cael ei llunio yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EM. Gyda chymeradwyaeth Trysorlys EM, bydd Cofrestrfa Tir EM yn ariannu gwariant rhaglen o鈥檌 harian parod a鈥檌 chronfeydd wrth gefn ei hun a gronnwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Mae鈥檙 gost wedi ei chynnwys yn llawn a鈥檌 chyllidebu o fewn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cofrestrfa Tir EM, ac mae arian parod a chronfeydd wrth gefn yn ddigonol i gwmpasu鈥檙 gwariant gweithredu yn llawn. Mae鈥檙 achos busnes ar gyfer y rhaglen yn cymryd arno statws cronfa fasnachu ar gyfer Cofrestrfa Tir EM a gallai unrhyw ailddosbarthiad posibl i ffwrdd o hynny effeithio鈥檔 negyddol ar argaeledd cronfeydd i gwblhau鈥檙 rhaglen o鈥檙 ffynhonnell hon, a bydd yn rhaid ei adolygu鈥檔 ofalus.

2.5 Mae gan Fwrdd Rhaglen Pridiannau Tir Lleol gylch gwaith penodol i osod y cyfeiriad ar gyfer y rhaglen, cefnogi鈥檙 Prif Berchennog Cyfrifol wrth wneud penderfyniadau a goruchwylio cynnydd y rhaglen. Mae鈥檙 Bwrdd wedi ei gadeirio gan y Prif Berchennog Cyfrifol, Cyfarwyddwr Trawsffurfio Cofrestrfa Tir EM, sydd 芒 chyfrifoldeb gweithredol am benderfyniadau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Rhaglen Pridiannau Tir Lleol. Mae aelodaeth o鈥檙 Bwrdd wedi ei ffurfio o鈥檙 randdeiliaid allweddol, gan gynnwys unigolion ar draws Cofrestrfa Tir EM, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, UK Governmnet Investments Limited a鈥檙 Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sydd i gyd 芒 budd yng nghanlyniad y gwaith hwn a strategaeth fusnes Cofrestrfa Tir EM.

2.6 Y gost amcangyfrifedig o weithredu cam cychwynnol Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol Cofrestrfa Tir EM yw 拢15 miliwn. Yn seiliedig ar y cynlluniau cyflwyno cyfredol, bydd lefel y ff茂oedd, y rhagdybiaethau ynghylch y defnydd o鈥檙 cynnyrch a chost y cam hwn yn cael ei adennill gan Gofrestrfa Tir EM o fewn 10 mlynedd.

2.7 Wedi ei lywio gan gostau a rhoi鈥檙 gwasanaeth ar waith a鈥檌 weithredu, yn ogystal 芒 chyfarwyddyd Rheoli Arian Cyhoeddus, cafodd y ffi ei gosod trwy ddeddfwriaeth (Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 (Rheolau Ff茂oedd)) am bris chwiliad sylfaenol o 拢15 ar gyfer pob chwiliad Cofrestrfa Tir EM. Mae hyn yn cymharu 芒 拢27 sef y pris cyfartalog wedi ei bwysoli a godir gan awdurdodau lleol a adlewyrchir yn yr achos busnes. Mae hwn yn bris is na 84% o d芒l yr awdurdodau lleol.

2.8 Bydd dadansoddiad o鈥檙 costau, y galw am y cynnyrch a鈥檙 incwm yn dilyn y cam cyflenwi cychwynnol yn darparu gwybodaeth hollbwysig ar gyfer pennu鈥檙 pwynt pris tymor hwy gorau posibl ar gyfer y cynnyrch chwilio Pridiannau Tir Lleol swyddogol. Ar y cam hwn bydd yn bosibl, os oes angen, trwy鈥檙 broseso Rheolau Ff茂oedd i ddiwygio鈥檙 ffi i lefel fwy addas. Cydnabyddir y bydd amser arwain o oddeutu naw mis ar gyfer gwneud hyn, oherwydd bydd diwygiadau ffi i鈥檙 Rheolau Ff茂oedd yn mynd trwy鈥檙 broses statudol, ac fel rheol byddant yn dod i rym dim ond ar un o 2 ddyddiad dechrau cyffredin bob blwyddyn.

2.9 Mae gan y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol 2 risg strategol arwyddocaol. Ni wyddys eto鈥檙 gost lawn o uwchraddio ansawdd y data sy鈥檔 cael ei fudo a鈥檌 gynnal yn y gofrestr genedlaethol, yn wyneb yr amrywioldeb a welsom yn y ffyrdd y mae awdurdodau lleol wedi casglu a storio eu data yn hanesyddol. Yn yr un modd, mae鈥檙 galw yn y dyfodol ar gyfer y cynnyrch chwiliad swyddogol am d芒l yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch nifer y gwerthiannau eiddo yn y farchnad a鈥檙 nifer sy鈥檔 defnyddio鈥檙 cynnyrch am d芒l. Mae鈥檙 cam cychwynnol wedi cael ei lunio i brofi鈥檙 rhagdybiaethau hyn a bydd yn bwydo i mewn i鈥檙 dyluniad a鈥檙 achos busnes ar gyfer camau yn y dyfodol.

2.10 Mae鈥檙 awdurdodau lleol hynny a ddewiswyd ar gyfer y cam cychwynnol wedi cael eu dewis i gynrychioli trawstoriad da o鈥檙 mathau gwahanol, er mwyn gwella鈥檙 wybodaeth. Mae 20 o鈥檙 26 awdurdod lleol a nodwyd yn wreiddiol wedi cofrestru i gymryd rhan, ac mae trafodaethau鈥檔 parhau gyda鈥檙 gweddill. Mae nifer o awdurdodau lleol gwirfoddol wedi dod ymlaen hefyd.

2.3 Gwerth am arian 鈥� wedi ei asesu fel cynrychioli gwerth da am arian

2.11 Mae dadansoddiad llawn o鈥檙 opsiynau wedi cael ei ystyried yn flaenorol fel rhan o鈥檙 rhaglen. Mae Cam 1 yn darparu鈥檙 Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol cenedlaethol a bydd Cofrestrfa Tir EM yn gwella鈥檔 sylweddol ar brofiad y cwsmer o broses chwilio Pridiannau Tir Lleol trwy ddarparu gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Ar 么l ei gyflwyno, bydd y cam cychwynnol hwn yn cynnig buddion i鈥檙 cwsmer ar unwaith, gan gynnwys arbedion blynyddol amcanestynedig ar gyfer prynwyr eiddo o 拢2.5m yn flynyddol, gan fwy na haneru鈥檙 gost gyfartalog o chwiliad Pridiannau Tir Lleol ar gyfer dros 125,000 o brynwyr cartrefi ac eiddo bob blwyddyn. Dichonoldeb 鈥� wedi ei asesu ar hyn o bryd fel hyder cyflenwi oren/gwyrdd gan archwiliad iechyd noddedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

2.12 Mae鈥檙 Rhaglen Pridiannau Tir Lleol a ddechreuodd yn Ebrill 2013 a hyd yma wedi cyflenwi:

  • deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth
  • yr Achos Busnes Amlinellol
  • ymgynghoriadau cyhoeddus ar y ddeddfwriaeth sylfaenol a鈥檙 is-ddeddfwriaeth
  • prototeip Pridiannau Tir Lleol 鈥� gan ddefnyddio data Pridiannau Tir Lleol o saith awdurdod lleol
  • ymgysylltu 芒鈥檙 farchnad cyflenwyr 鈥� yn ofynnol i gynorthwyo鈥檙 gwaith o ddigideiddio a mudo data Pridiannau Tir Lleol
  • wedi sefydlu perthnasoedd gweithio 芒 phob un o鈥檙 314 awdurdod lleol yn Lloegr
  • gwybodaeth dda o鈥檙 data Pridiannau Tir Lleol presennol 鈥榝el y mae鈥� ar draws y 314 awdurdod lleol
  • dealltwriaeth dda o鈥檙 rhwystrau a mesurau lliniaru i fudo data yn llwyddiannus o鈥檙 awdurdodau lleol
  • y cynllun gweithredu manwl ar gyfer mudo cam cychwynnol awdurdodau lleol
  • tri ymarfer caffael arwyddocaol i sicrhau gallu a chapasiti cyflenwi rhaglen diogel
  • cofrestr ddigidol newydd
  • wedi cyhoeddi safonau mudo data
  • wedi lansio鈥檔 llwyddiannus y Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol newydd ar 11 Gorffennaf 2018, gyda phedwar awdurdod lleol yn fyw erbyn hyn
  • mae鈥檙 Gwasanaeth yn parhau鈥檔 sefydlog gyda chwsmeriaid yn ei ddefnyddio鈥檔 weithredol
  • statws y rhaglen yn adrodd fel oren/gwyrdd yn natganiad chwarterol Medi 2018 Portffolio Prosiectau Mawr y Llywodraeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

2.13 Cafodd y Rhaglen ei hystyried gan Banel Pwynt Cymeradwyo Trysorlys EM ar 7 Ebrill 2017, yn cwmpasu pob agwedd ar y ffordd ymlaen arfaethedig. Casgliad y Panel oedd bod y rhaglen mewn cyflwr da i fynd rhagddo os yw hynny鈥檔 parhau i fod yn flaenoriaeth weinidogol. Cafodd y Rhaglen adolygiad yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA) Gateway 0 llawn yn Rhagfyr 2016. Cwblhawyd yr argymhellion dilynol yn llawn. Cafodd y Rhaglen ei chymeradwyo i weithredu ei cham cychwynnol gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 26 Ionawr 2018. Cwblhawyd Adolygiad Archwiliad Iechyd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ym Mehefin 2018, gydag adborth cadarnhaol yn rhoi hyder oren/gwyrdd i symud ymlaen gyda lansio鈥檙 Gwasanaeth newydd ar 11 Gorffennaf 2018. Cymeradwyodd Asesiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol ar gyfer beta cyhoeddus yn Nhachwedd 2018.

3. Casgliad

3.1 Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Cofrestrfa Tir EM, rwyf wedi ystyried yr asesiad hwn o鈥檙 Rhaglen Pridiannau Tir Lleol ac rwy鈥檔 fodlon ei bod mewn trefn. Fe鈥檌 cymeradwyais ar 30 Tachwedd 2018.

3.2 Rwyf wedi paratoi鈥檙 crynodeb hwn i amlinellu鈥檙 pwyntiau allweddol a鈥檙 risgiau a lywiodd fy mhenderfyniad. Os yw unrhyw un o鈥檙 ffactorau hyn yn newid yn sylweddol yn ystod oes y rhaglen hon, ymrwymaf i baratoi crynodeb diwygiedig, gan amlinellu fy asesiad ohonynt.

3.3 Caiff y crynodeb hwn ei gyhoeddi ar wefan y llywodraeth (188体育). Caiff cop茂au eu hadneuo yn Llyfrgell T欧鈥檙 Cyffredin a鈥檜 hanfon at Reolydd ac Archwilydd Cyffredinol a Swyddog Cyfrifon y Trysorlys.

Graham Farrant
Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir

  1. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhan o鈥檙 Gyfraith Ewropeaidd ac felly gallant newid wrth i鈥檙 Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd..聽鈫�