Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofrestrfa Tir EM 2016 i 2017
Ein perfformiad o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 a gwybodaeth am drawsnewid digidol ein gwasanaethau, platfformau TG a鈥檙 gofrestr.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Arweinwyr y byd
Yn Chwefror 2017, gwnaed ymrwymiad yn y Papur Gwyn Tai 鈥楩ixing our broken housing market鈥� i Gofrestrfa Tir EM fod y gofrestrfa tir orau yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata, ac anelu at gyflawni cofrestru cynhwysfawr erbyn 2030.
Cofrestru cynhwysfawr
Byddwn yn dechrau gweithio tuag at sicrhau cofrestriad digidol cynhwysfawr o ehangdir yng Nghymru a Lloegr erbyn 2030. Bydd hyn yn cefnogi datblygiad cartrefi newydd, sefydlogrwydd ariannol, casglu trethi, gorfodi鈥檙 gyfraith a diogelu diogelwch cenedlaethol.
Mae rhan o hyn yn golygu gweithio鈥檔 greadigol gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, i sicrhau bod ein cofrestr ddigidol yn gallu cyflawni hyn.
Trawsnewid digidol
Mae trawsnewid digidol ein gwasanaeth, platfformau TG a鈥檙 gofrestr yn hanfodol i lwyddiant ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn dechrau arloesi gyda鈥檙 Arolwg Ordnans trwy rannu eu deallusrwydd daear-ofodol i gefnogi twf yn y sectorau technoleg eiddo, technoleg cyfraith a thechnoleg ariannol.
鈥榊 Stryd Ddigidol鈥�
Ein cynllun peilot ar gyfer cofrestru digidol, sy鈥檔 cael ei lansio yn ystod haf 2017, yw 鈥榊 Stryd Ddigidol鈥�. Bydd y peilot yn ein galluogi i archwilio鈥檔 ddiogel i dechnolegau newydd fel Blockchain a Deallusrwydd Artiffisial, a sut y gellid defnyddio鈥檙 rhain i wella鈥檙 broses gyffredinol o gofrestru tir a phrynu neu werthu cartrefi.
Data Agored
Byddwn yn hybu rhannu data ar draws y llywodraeth. Cytunwyd ar hyn i raddau helaeth mewn ymateb i ymgyngoriadau a galw gan ein cwsmeriaid am ragor o ddata i fod ar gael yn rhwydd. Un o鈥檙 enghreifftiau allweddol o hyn yn 2016/17 oedd y Mynegai Prisiau Tai (HPI) cyntaf a lansiwyd ar 14 Mehefin 2016.
Wedi ei gyhoeddi gan Gofrestrfa Tir EM ar y cyd 芒鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cofrestri鈥檙 Alban a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, disodlodd Mynegai鈥檙 DU y mynegeion blaenorol a gyhoeddwyd ar wah芒n. Mae hwn bellach yn ymdrin 芒鈥檙 farchnad dai yn llawn.
Ystadau
Rydym wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i ailystyried ein portffolio ystadau, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o leoedd presennol a rhyddhau lleoedd eraill, yn unol 芒鈥檙 nod o ddulliau gweithio mwy clyfar. Disgwylir i Parkside Court, Telford, gael ei werthu, gyda Chofrestrfa Tir EM yn ail-leoli ei swyddfeydd yn yr un ardal. Ein bwriad yw trosglwyddo Meithrinfa Caerl欧r a Chalfont Drive, llain ddeheuol, i鈥檙 Homes & Communities Agency ar gyfer cynllun ailddatblygu tai posibl.
Staffio
Recriwtiwyd cyfanswm o 584 o aelodau staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a 鈥榞raddiodd鈥� ein carfan gyntaf o 80 o brentisiaid yn hydref 2016.