Canllawiau

Hawliau defnyddwyr i fyfyrwyr israddedig

Cyhoeddwyd 12 Mawrth 2015

Mae dewis y cwrs a phrifysgol cywir yn benderfyniad pwysig: rydych yn buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian a gall fod yn anodd newid os nad ydych yn fodlon.

Bydd gwybod eich hawliau dan gyfraith defnyddwyr yn eich helpu i gael yr wybodaeth rydych angen wrth ddewis cwrs yn y brifysgol, ac yn helpu鈥檆h diogelu os aiff pethau o chwith.

Dewis prifysgol a chwrs?

Rhaid i brifysgolion roi鈥檙 wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud eich penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnwys, strwythur a hyd y cwrs, lleoliad astudiaeth a鈥檙 dyfarniad a roddir ar gwblhau鈥檙 cwrs yn llwyddiannus
  • cyfanswm cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu ac unrhyw gostau atodol angenrheidiol fel teithiau maes, offer labordy neu ffioedd mainc/stiwdio
  • amodau a thelerau鈥檙 brifysgol, yn cynnwys rheolau a rheoliadau a pholis茂au parthed ymddygiad y myfyriwr. Rhaid i鈥檙 rhain fod yn hygyrch a chlir

Cyn, neu fan bellaf pan fyddwch yn cael cynnig, rhaid i brifysgolion roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau o鈥檙 wybodaeth ers i chi ymgeisio, a rhoi 鈥榞wybodaeth cyn contract鈥� i chi. Dylai鈥檙 wybodaeth cyn contract gynnwys:

  • gwybodaeth a chostau鈥檙 cwrs, trefniadau ar gyfer gwneud taliadau i鈥檙 brifysgol a鈥檜 proses ymdrin 芒 chwynion
  • unrhyw hawl sydd gennych i ganslo os byddwch yn newid eich meddwl

Pan gyrhaeddwch y brifysgol

Unwaith y byddwch yn dechrau, mae amodau a thelerau鈥檙 brifysgol yn weithredol. Rhaid i鈥檙 rhain:

  • sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau a rhwymedigaethau鈥檙 brifysgol a鈥檙 myfyriwr
  • beidio rhoi rhyddid eang i鈥檙 brifysgol newid cost neu gynnwys cwrs

Os bydd pethau鈥檔 mynd o chwith

Gallwch gwyno i鈥檆h prifysgol. Rhaid i鈥檞 proses gwynion:

  • fod yn deg, tryloyw a hygyrch iawn i fyfyrwyr
  • sefydlu鈥檙 broses i wneud cwyn, sut y delir 芒鈥檙 g诺yn a sut allwch chi uwchgyfeirio eich pryderon
  • fod yn glir o ran pwy sy鈥檔 delio 芒 chwynion, yn arbennig os darperir cyrsiau ar y cyd 芒 sefydliad arall

Os nad ydych yn fodlon gyda sut mae鈥檆h prifysgol yn delio 芒 chwyn, efallai y byddwch yn gallu ei gyfeirio at gynllun cwynion annibynnol fel Swyddfa鈥檙 Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Cymru a Lloegr neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

Gallai prifysgolion nad ydynt yn bodloni eu rhwymedigaethau fod yn torri cyfraith defnyddwyr

Rhaid i bob sefydliad sy鈥檔 darparu cyrsiau israddedig, yn cynnwys prifysgolion a cholegau addysg bellach, gydymffurfio 芒 chyfraith defnyddwyr. Gallai cyfraith defnyddwyr fod yn berthnasol i fathau eraill o gyrsiau hefyd.

Gallai gwybod eich hawliau eich helpu i osgoi problemau a鈥檜 datrys os aiff pethau o chwith.

Os oes gennych chi broblem, ystyriwch siarad gyda鈥檙 staff sy鈥檔 darparu鈥檙 cwrs, y rhai sy鈥檔 delio 芒 phroblemau myfyrwyr neu鈥檙 swyddfa cyngor myfyrwyr neu undeb y myfyrwyr.

Gallwch hefyd gael cyngor gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor gan Consumerline ar 0300 123 6262.

Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly. Efallai y bydd rhwymedigaethau atodol penodol i鈥檙 sector hefyd yn berthnasol.