Canllawiau

Cynlluniau alcohol cryfder uchel: materion cyfraith cystadleuaeth ar gyfer masnachwyr

Cyhoeddwyd 25 Mawrth 2015

Os bydd cyngor lleol yn cysylltu 芒 chi ynghylch ymuno 芒 chynllun i gyfyngu ar gyflenwi alcohol cryfder uchel yn eich ardal leol, dylech fod yn ofalus i osgoi鈥檙 risg o dorri cyfraith cystadleuaeth.

Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu cynlluniau i daclo problemau sy鈥檔 gysylltiedig ag yfed ar y stryd trwy annog gwerthwyr i stopio gwerthu alcohol cryfder uchel.

Ond efallai bod perygl y byddwch yn cael dirwy os ydych naill ai鈥檔 cytuno gyda masnachwyr eraill, neu鈥檔 rhannu鈥檆h cynlluniau 芒 nhw, i stopio gwerthu alcohol cryfder uchel.

Rhai awgrymau o beth i鈥檞 wneud a鈥檌 osgoi er mwyn peidio torri cyfraith cystadleuaeth

  • Siaradwch gyda swyddogion y cyngor am eich cynlluniau yn unigol. Peidiwch 芒 gadael iddynt ddweud wrthych chi beth mae masnachwyr eraill yn wneud ac, os byddant yn ceisio, dywedwch wrthynt nad oes gennych ddiddordeb ac nad ydych yn fodlon ei drafod.

  • Peidiwch 芒 rhannu gwybodaeth gyda chystadleuwyr am p鈥檜n a ydych chi鈥檔 bwriadu stocio alcohol cryfder uchel neu adael i鈥檆h cystadleuwyr rannu eu cynlluniau parthed alcohol cryfder uchel gyda chi.

  • Peidiwch ag ymrwymo i gytuno i gynllun mewn cyfarfod os oes yna fasnachwyr eraill yn bresennol.

  • Peidiwch 芒 chydweithio gyda masnachwyr eraill i gytuno i roi鈥檙 gorau i werthu alcohol cryfder uchel.

  • Dylech wneud eich cyfranogiad mewn cynllun yn gyhoeddus yn dilyn ei lansio yn unig.

Gallwch wneud penderfyniad annibynnol i ymuno 芒 chynllun a stopio gwerthu alcohol cryfder uchel 鈥� ond peidiwch 芒 thrafod hyn na chytuno i hyn mewn cydweithrediad 芒 masnachwyr eraill.

Beth yw cyfraith cystadleuaeth a sut mae鈥檔 effeithio arnoch chi?

Mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol i gwmn茂au 鈥� yn cynnwys masnachwyr 鈥� sy鈥檔 cymryd rhan mewn gweithgaredd masnachol. Mae cosbau am dorri鈥檙 gyfraith yn cynnwys dirwyon arwyddocaol o hyd at 10% o鈥檆h trosiant blynyddol.

Mae鈥檙 CMA wedi gweithio gyda chynghorau lleol i鈥檞 helpu i sicrhau nad ydynt yn gofyn i fusnesau dorri鈥檙 gyfraith nac yn creu risg o鈥檜 rhoi mewn sefyllfa ble gallent wneud.

Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.