Ar 么l mynd i'r llys
Diweddarwyd 16 Awst 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Os ydych wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall beth allai ddigwydd ar 么l treial.
Gallwch gael mynediad i eirfa i gael rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn.
Gall fod yn anodd mynd trwy dreial ac mae鈥檔 naturiol bod angen amser a chymorth i brosesu鈥檙 hyn sydd wedi digwydd. Mae cymorth ar gael o hyd ar 么l y llys. Os ydych wedi bod yn derbyn cymorth gan ISVA byddant yn sicrhau bod gennych y cymorth sydd ei angen arnoch. Gallwch gael mynediad at gymorth unrhyw bryd, a gallwch gael gwybod am y sefydliadau a all helpu yn ein canllaw cymorth.
Treuliau a鈥檆h eiddo
Os aethoch i鈥檙 llys i roi tystiolaeth neu , efallai y gallwch hawlio treuliau. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallech fod 芒 hawl iddo a sut i wneud cais ar gael ar dudalen gwe treuliau ar gyfer mynd i鈥檙 llys gov.uk.
Efallai y bydd yr heddlu wedi cymryd rhai o鈥檆h eiddo i鈥檞 ddefnyddio fel tystiolaeth. Dylent ddychwelyd hwn atoch cyn gynted ag nad oes ei angen mwyach. Bydd yr heddlu yn gallu helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddychwelyd eich eiddo.
笔补谤么濒
Os ydych chi鈥檔 meddwl bod y ddedfryd yn rhy drugarog
Gallwch ofyn i ddedfryd Llys y Goron rhywun gael ei hadolygu os credwch ei bod yn rhy isel. Gallwch wneud hyn drwy鈥檙 cynllun Dedfryd Rhy Drugarog (ULS). Mae鈥檙 cynllun hwn yn caniat谩u ichi neu unrhyw aelod o鈥檙 cyhoedd i herio鈥檙 ddedfryda roddodd y barnwr. I wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu 芒 Swyddfa鈥檙 Twrnai Cyffredinol. Gallwch chi wneud hyn
- trwy e-bostio uls.referrals@attorneygeneral.gov.uk
- dros y ff么n ar 020 7271 2492
Os ydych am herio鈥檙 ddedfryd, dylech gysylltu 芒 Swyddfa鈥檙 Twrnai Cyffredinol cyn gynted 芒 phosibl ar 么l i鈥檙 ddedfryd gael ei phasio. Mae hyn oherwydd os yw鈥檙 Twrnai Cyffredinol neu鈥檙 Cyfreithiwr Cyffredinol o鈥檙 farn bod y ddedfryd yn bodloni鈥檙 safonau o fod yn 鈥榬hy drugarog鈥�, a bod y drosedd yn dod o dan y cynllun ULS, mae鈥檔 rhaid iddynt wneud cais i鈥檙 Llys Ap锚l o fewn 28 diwrnod i roi dedfryd.
Os bydd y Llys Ap锚l yn cytuno bod y ddedfryd yn cyrraedd y safon o fod yn 鈥榬hy drugarog鈥�, gall gynyddu鈥檙 ddedfryd. Mae gan wefan y CPS .
Gall y person a gyflawnodd y trosedd(au) yn eich erbyn wneud cais am ganiat芒d i apelio yn erbyn ei ddedfryd
Gall y troseddwr wneud cais am ganiat芒d i apelio yn erbyn ei gollfarn neu ddedfryd. Bydd sut y byddant yn apelio yn dibynnu ar ba lys y cawsant eu dedfrydu ynddo.
Bydd eich Swyddog Gofal Tystion yn dweud wrthych os yw鈥檙 troseddwr yn apelio yn erbyn ei gollfarn neu ddedfryd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
- Apelio yn erbyn penderfyniad llys ynadon: Beth allwch chi apelio - 188体育 (www.gov.uk)
- Gofyn i ddedfryd Llys y Goron gael ei hadolygu - 188体育 (www.gov.uk)
Gofynion am hysbysu gan droseddwyr rhyw
Bydd pobl a geir yn euog o droseddau rhyw yn destun gofynion hysbysu.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth amdanynt eu hunain i鈥檙 heddlu o leiaf unwaith y flwyddyn. Rhaid iddynt hefyd ddweud wrth yr heddlu am unrhyw deithio tramor neu os ydynt yn byw yn yr un cartref ag unrhyw blant o dan 18 oed. Yr enw cyffredin ar hyn yw bod ar y 鈥榞ofrestr troseddwyr rhyw鈥�. Mae鈥檔 caniat谩u i鈥檙 heddlu reoli risgiau a achosir gan droseddwyr rhyw.
Mae gennych hawl i wybodaeth benodol am y broses hon. Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yn .
Pan gaiff y troseddwr ei ryddhau o鈥檙 carchar (par么l)
Efallai y byddwch chi鈥檔 penderfynu y byddwch chi鈥檔 teimlo鈥檔 fwy diogel os ydych chi鈥檔 gwybod beth sy鈥檔 digwydd i鈥檙 troseddwr ar 么l iddo gael ei ganfod yn euog. Gallwch gysylltu 芒 Llinell Gymorth Dioddefwyr Gwasanaeth Prawf a Charchardai EM os ydych yn poeni bod y troseddwr yn cael ei ryddhau o鈥檙 carchar.
笔补谤么濒 yw pan fydd troseddwr yn cael ei ryddhau o鈥檙 carchar cyn diwedd ei ddedfryd. Os bydd hyn yn digwydd, byddant yn cael eu cadw dan oruchwyliaeth, a elwir yn brawf. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun par么l ar gael ar-lein.
Cynllun Cyswllt Dioddefwyr
Os cafodd y troseddwr ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar, gofynnir i chi a ydych am ymuno 芒鈥檙 Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.
Os byddwch yn ymuno 芒鈥檙 cynllun, bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cysylltu 芒 chi. Byddant yn gofyn i chi sut yr hoffech gael eich hysbysu.
Maen nhw鈥檔 gallu:
- Rhoi gwybodaeth i chi am gamau allweddol dedfryd y troseddwr, fel a yw鈥檔 gwneud cais i gael ei ryddhau
- Rhoi cyfle i chi fynegi eich barn am yr hyn a ddylai ddigwydd ar 么l iddynt gael eu rhyddhau (fel gofyniad i beidio 芒 chysylltu 芒 chi neu ddod i ardal benodol)
- Dweud wrthych pa amodau y byddant yn ddarostyngedig iddynt os ydynt yn ymwneud 芒 chi neu鈥檆h teulu
Os bydd y Bwrdd 笔补谤么濒 yn penderfynu ei bod yn ddiogel rhyddhau troseddwr, gallwch dderbyn y wybodaeth hon drwy鈥檙 Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.
Os byddwch yn penderfynu peidio ag ymuno ar y pryd neu os na ofynnwyd i chi, gallwch ymuno yn ddiweddarach drwy anfon e-bost at y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr yn vcsenquiries@justice.gov.uk
Fel dioddefwr, gallwch gyflwyno cais i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i ofyn i鈥檙 Bwrdd 笔补谤么濒 ailystyried ei benderfyniad. Beth bynnag y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei benderfynu, byddwch yn cael llythyr yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad hwnnw.