Canllawiau

LP10 Dechrau arni fel atwrnai: Iechyd a lles (fersiwn y we)

Diweddarwyd 6 Awst 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Sut i fod yn atwrnai

Rydych wedi鈥檆h penodi yn atwrnai o dan atwrneiaeth arhosol (LPA).

惭补别鈥檙 sawl a wnaeth yr atwrneiaeth arhosol (y 鈥榬hoddwr鈥�) yn ymddiried ynoch chi i wneud penderfyniadau ar ei ran os bydd yn colli ei alluedd meddyliol.

鈥楪alluedd meddyliol鈥� yw鈥檙 gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

惭补别鈥檙 atwrneiaeth arhosol yn delio 芒 phenderfyniadau iechyd a lles megis:

  • ble mae鈥檙 rhoddwr yn byw

  • ei drefn feunyddiol

  • gofal personol

  • triniaethau meddygol.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi weithredu鈥檔 ddidwyll ar bob achlysur ac er budd pennaf y rhoddwr.

2. Beth i鈥檞 wneud nawr

Siaradwch 芒鈥檙 rhoddwr am ei hoff bethau a鈥檌 gas bethau, er enghraifft:

  • unrhyw ddeiet arbennig (llysieuol er enghraifft)

  • ble mae eisiau byw

  • beth fydd yn digwydd os na all ofalu am ei anifeiliaid anwes

  • sut mae鈥檔 hoffi gwisgo a gwneud ei wallt

  • diddordebau a pha gerddoriaeth, rhaglenni radio a theledu neu lyfrau mae鈥檔 eu mwynhau

  • a ydy鈥檔 well ganddo fod allan yn yr awyr agored neu y tu mewn

  • pethau bach sy鈥檔 codi calon, fel hoff ffilm, croesair, gwydraid o win neu fynd am dro.

Po fwyaf y byddwch yn ei wybod, hawsaf fydd hi i benderfynu ar ei ran, os daw amser pan na fydd y rhoddwr yn gallu gwneud.

Gofynnwch i鈥檙 rhoddwr a yw wedi gwneud cynlluniau gofal:

  • i wrthod triniaethau penodol (a elwir weithiau鈥檔 鈥榚wyllys fyw鈥�) y gall staff iechyd a lles cymdeithasol ei ddilyn

  • datganiadau o ddymuniadau a dewisiadau y mae鈥檔 eu ffafrio am ei ofal a鈥檌 driniaeth (gall y rhain fod yn ysgrifenedig neu wedi鈥檜 dweud wrth bobl).

Holwch i weld a yw鈥檙 rhoddwr wedi鈥檆h dewis chi yn yr atwrneiaeth arhosol i wrthod triniaeth i鈥檞 gadw鈥檔 fyw neu i gytuno i roi鈥檙 fath driniaeth. Os chi sydd wedi鈥檌 nodi, a鈥檙 rhoddwr yn colli ei alluedd meddyliol:

  • gallwch siarad 芒 meddygon fel petai chi yw鈥檙 rhoddwr

  • gall yr atwrneiaeth arhosol ddisodli unrhyw benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth cynnal bywyd.

Holwch y rhoddwr am ei farn am achub bywyd a gofal cymdeithasol ac iechyd arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau neu arweiniad yn ei atwrneiaeth arhosol.

Gofynnwch i鈥檙 rhoddwr am:

  • fanylion cysylltu (er enghraifft ei feddyg teulu, deintydd, optegydd)

  • ble mae鈥檔 cadw鈥檙 ddogfen atwrneiaeth arhosol.

Mynnwch gop茂au ardystiedig o鈥檙 ddogfen atwrneiaeth arhosol

3. Helpu鈥檙 rhoddwr

Fel atwrnai, rhaid ichi helpu鈥檙 rhoddwr i wneud ei benderfyniadau ei hun, os yw鈥檔 gallu.

Allwch chi ddim penderfynu dros y rhoddwr dim ond os ydych yn meddwl bod ei benderfyniadau yn rhai rhyfedd neu鈥檔 annoeth.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi dybio bod rhywun yn gallu gwneud penderfyniadau, oni ddangosir na all eu gwneud.

Helpwch y rhoddwr i wneud penderfyniadau

  • Gwiriwch: a all wneud rhai penderfyniadau?

  • Esboniwch mewn ffyrdd gwahanol. A fyddai defnyddio lluniau, iaith arwyddion neu ei iaith gyntaf yn helpu?

  • Os oes cyfnodau pan all y rhoddwr wneud penderfyniad a鈥檙 penderfyniad hwnnw heb fod yn un brys, arhoswch.

Diffyg galluedd meddyliol yw pan fydd problem 芒鈥檙 meddwl neu鈥檙 ymennydd yn atal unigolyn rhag gwneud penderfyniad penodol ar adeg y mae angen ei wneud.

Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol:

  • dilynwch unrhyw gyfyngiadau neu amodau yn yr atwrneiaeth arhosol

  • ceisiwch ddilyn yr arweiniad yn yr atwrneiaeth arhosol

  • gofynnwch i eraill beth fyddai鈥檙 rhoddwr yn ei wneud

  • peidiwch 芒 gwneud rhagdybiaethau ar sail oed, ymddygiad, cyflwr neu ymddangosiad y rhoddwr - ystyriwch beth fyddai鈥檙 rhoddwr fel unigolyn ei eisiau.

Dylech osgoi penderfyniadau sy鈥檔 cyfyngu ar ryddid y rhoddwr

Ystyriwch opsiwn sy鈥檔 cael llai o effaith.

Gwnewch benderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr

Rhaid i bob penderfyniad gael ei wneud ar sail beth sydd orau i鈥檙 rhoddwr, nid dim ond un sy鈥檔 gyfleus i bobl eraill.

4. Cadwch gofnodion

Os byddwch yn gwneud penderfyniad pwysig ar ran y rhoddwr, gwnewch nodyn ohono a pham yr oedd er budd pennaf y rhoddwr. Cofnodwch ar bapur benderfyniadau fel symud y rhoddwr i gartref newydd, dewis gwasanaethau gofal neu wrthod triniaeth feddygol.

5. Rhoi gwybod i eraill

Rhowch wybod i bobl y bydd yn rhaid iddynt gysylltu 芒 chi os na fydd y rhoddwr yn gallu gwneud penderfyniadau. Dywedwch wrth y canlynol:

  • gofalwyr, ffrindiau a鈥檙 teulu

  • meddyg teulu鈥檙 rhoddwr a staff gofal iechyd arall

  • gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol y rhoddwr a staff gofal cymdeithasol arall

  • staff y cartref gofal, wardeniaid tai gwarchod neu weithwyr tai eraill.

Efallai y bydd aelodau staff am weld prawf o bwy ydych chi a鈥檙 atwrneiaeth arhosol wreiddiol neu gopi ardystiedig - nid llungopi.

Disgrifiwch ddewisiadau鈥檙 rhoddwr

  • Dywedwch wrth y staff iechyd a lles cymdeithasol beth yw barn y rhoddwr am ofal a thriniaeth feddygol.

  • Rhowch gop茂au o unrhyw benderfyniad ymlaen llaw neu ddatganiad ysgrifenedig o ddymuniadau鈥檙 rhoddwr i鈥檙 meddyg teulu a鈥檙 staff iechyd a lles cymdeithasol.

  • Rhowch wybod i staff ysbyty, gweithwyr cartref gofal a gweithwyr cymorth yn y cartref beth yw hoff a chas bethau鈥檙 rhoddwr.

6. Atwrneiod eraill

Os oes atwrneiod eraill, bydd yr atwrneiaeth arhosol yn nodi sut y byddwch yn gweithredu gyda鈥檆h gilydd:

  • ar y cyd ac yn unigol 鈥� gallwch benderfynu gydag atwrneiod eraill neu ar eich pen eich hun

  • ar y cyd 鈥� rhaid i bob atwrnai gytuno ar bob penderfyniad

  • ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer eraill 鈥� rhaid ichi gytuno ar benderfyniadau sydd wedi鈥檜 nodi yn yr atwrneiaeth arhosol gyda鈥檙 holl atwrneiod. Gallwch chi wneud penderfyniadau eraill ar eich pen eich hun.

Os oes raid ichi wneud penderfyniad ar y cyd a rhai yn anghytuno, ni ellir gwneud y penderfyniad hwnnw.

Ddim yn gallu cytuno?

Os nad ydych chi a鈥檙 atwrneiod eraill yn gallu cytuno, gofynnwch i鈥檙 teulu a ffrindiau beth fyddai鈥檙 rhoddwr ei eisiau a beth sydd o fudd pennaf iddo.

Defnyddiwch eiriolaeth neu gyfryngu. Edrychwch ar-lein neu ofyn mewn llyfrgell. Os yw鈥檙 rhoddwr mewn cartref neu鈥檔 cael gofal cymdeithasol, gofynnwch i鈥檙 staff am gymorth.

Gallwch gysylltu 芒 Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ac efallai y gallwn ni roi cyngor, neu efallai y bydd angen ichi wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod. Gallai hyn gostio 拢385 neu fwy.

6.1 Cyn ichi weithredu

MEDDYLIWCH 鈥� ai hyn fyddai鈥檙 rhoddwr ei eisiau?

GWIRIWCH 鈥� a oes modd helpu鈥檙 rhoddwr i wneud y penderfyniad i gyd neu ran ohono?

COFIWCH 鈥� rhaid gwneud pob penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr.

7. Cyngor

(GIG Cymru)

8. Rhagor o wybodaeth

Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005

惭补别鈥檙 cod ymarferol yn esbonio dyletswyddau atwrneiod.

188体育

Y Llys Gwarchod
yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol
Adran Iechyd
www.gov.uk

9. Sut mae cysylltu 芒 ni

I gael cyngor, lleisio pryderon neu ddweud wrthym os yw amgylchiadau鈥檙 rhoddwr neu eich amgylchiadau chi yn newid (er enghraifft: os ydych chi鈥檔 symud t欧).

贵贵脭狈

0300 456 0300

O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm Dydd Mercher 10am to 5pm

贵贵脭狈 TESTUN

0115 934 2778

EBOST

[email protected]

GWEFAN

www.gov.uk/opg