Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB 2021

Dyma bumed adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB. Mae鈥檔 seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2021 ac mae鈥檔 cyflawni ein gofynion adrodd, yn dadansoddi'r ffigurau'n fwy manwl ac yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Northern Ireland

Dogfennau

Manylion

Mae鈥檙 ASB yn defnyddio graddau鈥檙 Gwasanaeth Sifil sy鈥檔 amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae graddau鈥檔 amrywio yn 么l lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn 么l gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth fo鈥檙 rhyw.

Mae gan bob gradd, ac eithrio鈥檙 Uwch Wasanaeth Sifil (SCS), ystod gyflog Llundain ac ystod Genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 1310 o bobl yn gweithio i鈥檙 ASB, sef cynnydd o 45 ers 31 Mawrth 2020. Arhosodd canran y menywod ar 40%. Gwnaeth nifer yr Uwch Weision Sifil sy鈥檔 fenywod ostwng o 42% i 41%.

Cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau yw un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth rhyw ar bob gradd yn yr adroddiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Gorffennaf 2022 show all updates
  1. Adding correct Welsh version

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon