Nodyn ar ddewis y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru
Cyhoeddwyd 25 Gorffennaf 2023
Yn berthnasol i Gymru
Pwrpas
Pwrpas y ddogfen hon yw nodi鈥檔 glir y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer dewis y lleoliadau a fyddai鈥檔 symud ymlaen i gam nesaf y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru 鈥� gan gynnwys datblygu achosion busnes amlinellol ac achosion busnes llawn. Wrth wneud y penderfyniadau, dilynwyd y prosesau a鈥檙 sail resymegol a nodir ym Mhrosbectws Ymgeisio Y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru (gweler adran 5 y Prosbectws Ymgeisio i weld manylion llawn y broses a鈥檙 sail resymegol hynny).
Crynodeb o鈥檙 broses cyn penderfynu
Pasio/methu
Daeth tri chais i law erbyn y dyddiad cau sef 24 Tachwedd 2022.
Yn ystod y cam Pasio/Methu, i ddechrau, aseswyd yr holl geisiadau ar yr wybodaeth y gwnaethant ei chyflwyno mewn ymateb i鈥檙 Meini Prawf Porth (yn Adran 5.8 o鈥檙 Prosbectws Ymgeisio). Roedd y Meini Prawf Porth yn amlinellu鈥檙 isafswm o wybodaeth yr oedd ei hangen er mwyn egluro daearyddiaeth a chefnogaeth gan randdeiliaid ar gyfer y Porthladd Rhydd arfaethedig. Roedd ymgeiswyr nad oedd wedi darparu鈥檙 wybodaeth hon, neu fodloni鈥檙 gofynion hyn, yn methu鈥檙 asesiad cychwynnol, ac ni aseswyd hwy ymhellach. Methodd un cais ddarparu鈥檙 wybodaeth angenrheidiol mewn pedwar maes 鈥� darperir rhagor o fanylion yn Atodiad A. Fe wnaeth y ddau gais arall basio鈥檙 cam Pasio/Methu ac aeth eu ceisiadau ymlaen at yr asesiad manwl.
Asesiad manwl
Yn unol 芒鈥檙 broses a fanylir yn y Prosbectws Ymgeisio, fe wnaeth swyddogion oedd yn cynrychioli鈥檙 holl fuddiannau ac adrannau polisi perthnasol ar draws y ddwy lywodraeth asesu atebion y ddau gais i鈥檙 Wybodaeth Ymgeisio Fanwl (adran 5.9 o鈥檙 Prosbectws Ymgeisio).
Aseswyd ymatebion yr ymgeiswyr yn erbyn canllawiau asesu y cytunwyd arnynt gan y ddwy lywodraeth. Yn unol 芒 gofynion y Prosbectws, dyfarnwyd sg么r 鈥楿chel鈥�, 鈥楥anolig鈥�, neu 鈥業sel鈥� yn unol 芒鈥檙 cynllun marcio yn Atodiad A y Prosbectws Ymgeisio. Ar gyfer Meini Prawf A, B, a C: y gallu i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion llywodraethau Cymru a鈥檙 DU 鈥� roedd asesiad swyddogion o鈥檙 ymateb a ddarparwyd (ochr yn ochr 芒 deunyddiau cysylltiedig o鈥檙 asesiad pasio/methu (adran 5.8)) i鈥檞 gyfrif am 100% o sg么r yr ymgeisydd ar gyfer y maen prawf hwnnw.
Ar gyfer Meini Prawf Ch a D: y gallu i gyflawni鈥檙 cynnig yn effeithiol yn gyflym a lefel uchel o ymwneud gan y sector preifat yn y cynnig 鈥� roedd gofyn i ymgeiswyr ymateb i sawl cwestiwn, gyda phwysoliad unigol i bob un ohonynt ar gyfer y sg么r cyffredinol (fel y nodir yn adran 5.9 o鈥檙 Prosbectws Ymgeisio). Wrth asesu鈥檙 atebion i鈥檙 cwestiynau hyn, ystyriodd aseswyr hefyd unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarparwyd yn adran 5.8 (Meini Prawf Porth), yn ogystal ag unrhyw ddata sydd ar gael yn gyhoeddus (ee lefelau diweithdra) er mwyn profi unrhyw honiadau oedd yn yr atebion a ddarparwyd.
Yna, cynhaliwyd proses o gymedroli cychwynnol, gan gynnwys cymedroli mewnol gyda thimau o aseswyr, ac yna sesiynau cymedroli terfynol gan gyd-banel o鈥檙 ddwy lywodraeth, gan gynnwys uwch Weision Sifil. Roedd y broses gymedroli hon yn ystyried yr asesiad cyffredinol gan swyddogion polisi, a鈥檙 dadansoddiad ategol ac yn cynnwys croesholi a herio gan yr aseswyr arweiniol ar gyfer pob maen prawf.
Yn dilyn y broses gymedroli, rhoddwyd pum sg么r 鈥楿chel鈥�, 鈥楥anolig鈥� ac 鈥業sel鈥� i bob cais, un yn erbyn pob maen prawf a nodir yn adran 5.2.4 y Prosbectws Ymgeisio. Mewn nifer cyfyngedig o achosion, nododd swyddogion fod yr ymatebion ar y ffin rhwng ddau fand, ee 鈥淚sel-Canolig鈥� neu 鈥淐anolig-Uchel鈥� ac felly cynigwyd bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sgoriau terfynol, a chytunodd y pwyllgor ar hynny.
Fe wnaeth y ddau gais oedd ar 么l gyrraedd y trothwy a nodir yn adran 5.2.6 y Prosbectws Ymgeisio, ac felly ystyriwyd hwy yn benodadwy.
Bu gr诺p trawslywodraethol o uwch swyddogion sy鈥檔 ffurfio Cyd-Fwrdd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn goruchwylio鈥檙 broses. Fel rhan o waith llywodraethu鈥檙 gystadleuaeth, fe gawsant wybodaeth am y broses o asesu a sgorio pob cais (manylir yn Atodiad B).
Ar 么l sicrhau bod y broses wedi ei halinio 芒鈥檙 Prosbectws Ymgeisio, gwiriodd Bwrdd y Rhaglen y rhestr o ymgeiswyr penodadwy a nodir yn Atodiad B. Yna, cyflwynwyd hwn i Weinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn gwneud y penderfyniad terfynol ar ba Borthladd Rhydd arfaethedig a fyddai鈥檔 symud ymlaen i鈥檙 cam nesaf a datblygu Achos Busnes Amlinellol. Darparwyd pecyn gwybodaeth hefyd i Weinidogion ei ystyried, oedd yn nodi mapiau ffin allanol pob cais a chrynodeb o asesiad swyddogion yn erbyn pob maen prawf, yn ogystal 芒 gwybodaeth sensitif i gyd-destun fel yr amlinellir yn adran 5.3.2 o鈥檙 Prosbectws Ymgeisio, er mwyn sicrhau bod eu penderfyniad wedi ei wneud ar sail gwybodaeth lawn.
Penderfyniad Gweinidogion: Lleoliadau鈥檙 Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru
Cyfarfu Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau er mwyn trafod y ceisiadau penodadwy.
Yn unol 芒鈥檙 broses a amlinellwyd yn y Prosbectws Ymgeisio, ystyriodd y gweinidogion asesiadau swyddogion o鈥檙 ceisiadau ac roedd rhyddid ganddynt i ystyried y pum ystyriaeth ychwanegol a restrir yn adran 5.3.2 o鈥檙 Prosbectws Ymgeisio i鈥檞 prosesau penderfynu eu hunain.
Roedd cymharu鈥檙 ddau gais y gellid eu penodi yn dangos gwahaniaeth eglur rhwng y cais Celtaidd a chais Ynys M么n, er bod y ddau yn bodloni鈥檙 isafswm gofynion a gyhoeddwyd yn hawdd (gan sgorio 鈥楥anolig鈥� o leiaf ar faen prawf A 鈥� Adfywio a Chreu Swyddi o Ansawdd Uchel a dim mwy nag un sg么r 鈥業sel鈥� dros y pum maen prawf a aseswyd).
Nododd y ddau Weinidog bod y ddwy Lywodraeth yn y Prosbectws Ymgeisio wedi ymrwymo鈥檔 gyhoeddus i fod yn agored i ystyried penodi Porthladd Rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai digon o gynigion eithriadol yn cael eu cyflwyno.
Nododd y ddau Weinidog bod yr adborth gan y rhai a fu鈥檔 rhan o鈥檙 broses drwy gydol y cam asesu, yn nodi bod cryfderau penodol gan y ddau gais, a bod eu dulliau gweithredu wedi eu gwreiddio yn eu cyd-destun lleol. Er bod y cais Celtaidd yn gryfach o ran canlyniad y gystadleuaeth, roedd cais Ynys M么n yn cynnig potensial sylweddol i gyflawni canlyniadau Ffyniant Bro ac adfywio ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, a nodwyd cryfder consortia ymgeisio sefydledig Ynys M么n, oedd yn rhoi hyder o ran gallu i gyflawni. Roedd y ddau Weinidog yn gyt没n bod cais Ynys M么n yn cyflwyno cais digon eithriadol i gyfiawnhau dewis ail Borthladd Rhydd i Gymru.
Atodiad A: Ceisiadau a fethodd yr asesiad pasio/methu cychwynnol
Porthladd Rhydd dan arweiniad Casnewydd
Rheswm dros fethu:
-
Ni ddarparwyd tystiolaeth (ee llythyrau) bod yr holl dirfeddianwyr wedi cytuno 芒鈥檜 gweledigaeth ar gyfer y safle treth arfaethedig a defnydd tir cysylltiedig ac y byddent yn cymryd camau priodol i sicrhau bod datblygiad ar y safle yn cyd-fynd ag amcanion y Porthladd Rhydd ac amcanion y polisi Porthladdoedd Rhydd ehangach (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.7).
-
Ni ddarparwyd llythyr wedi ei lofnodi gan bob un o weithredwyr y safleoedd tollau arfaethedig yn cadarnhau鈥檙 wybodaeth a geisiwyd (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.8).
-
Ni ddarparwyd cadarnhad ysgrifenedig o gefnogaeth i鈥檞 cais gan yr holl awdurdodau lleol sy鈥檔 rhan o鈥檙 cais (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.9).
-
Ni ddarparwyd sail resymegol economaidd ddigonol ar gyfer y safleoedd treth, oedd yn cyfrif am fwy na chyfanswm maint uchaf yr arwynebedd a ganiateir o 600 hectar (Cwestiwn 1.13).
Atodiad B: Sgorio ceisiadau (yn 么l trefn yr wyddor)
Porthladd Rhydd Cymru | Maen prawf Polisi A: Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel | Maen prawf Polisi B: Sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang | Maen prawf Polisi C: Meithrin amgylchedd arloesol | Maen prawf Cyflawni Ch: Y gallu i gyflawni鈥檙 cynnig yn effeithiol yn gyflym | Maen prawf Cyflawni D: Lefel uchel o ymwneud gan y sector preifat yn y cynnig |
---|---|---|---|---|---|
Porthladd Rhydd Ynys M么n | Canolig | Canolig | Canolig | Canolig | Canolig |
Porthladd Rhydd Celtaidd | Uchel | Uchel | Canolig | Canolig | Uchel |