Cyfarwyddyd ymarfer 58: Ffurf cofrestri ar gyfer teitlau yng Nghymru
Diweddarwyd 1 Chwefror 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae gan Gofrestrfa Tir EF Gynllun Iaith Gymraeg a baratowyd o dan adran 21(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993, a derbyniodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mawrth 1998. Mae鈥檙 cynllun yn darparu y byddwn yn trin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg ar sail gyfartal wrth ddelio 芒鈥檙 cyhoedd yng Nghymru. Mae鈥檙 ffurf a amlinellir yn Ffurf a phryd y daeth i rym yn deillio o鈥檙 egwyddor hon.
2. Ffurf a phryd y daeth i rym
Daeth y ffurf a wnaed i gydymffurfio 芒鈥檙 Cynllun Iaith Gymraeg i rym ar 1 Hydref 2001 ac mae fel a ganlyn.
- cynhyrchir templed y gofrestr ar ffurf ddwyieithog. Mae鈥檙 penawdau a鈥檙 wybodaeth safonol (er enghraifft, 鈥楥ofrestr Eiddo鈥� neu 鈥楾eitl Llwyr鈥�) yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar gofrestr pob teitl yng Nghymru
- mae cofnodion unigol y gofrestr yn ymddangos yn iaith (Cymraeg neu Saesneg) y ddogfen wreiddiol y seiliwyd hwy arnynt. Felly, lle mai鈥檙 Gymraeg yw iaith y dogfennau gwreiddiol, mae鈥檙 cofnodion yn Gymraeg; lle mai Saesneg yw iaith y dogfennau gwreiddiol, mae鈥檙 cofnodion yn Saesneg. Ni ellir cofnodi cofnodion dwyieithog. Lle nad oes dogfen, mae cofnod y gofrestr yn adlewyrchu dewis iaith y ceisydd a gyflwynodd y cais.
3. Cofnodion nad ydynt yn deillio o weithred
Lle nad oes dogfen, er enghraifft pan fo cofnod o natur gyffredinol neu鈥檔 cyfeirio at sefyllfa鈥檙 cynllun teitl yn unig, mae iaith y cofnod hwnnw鈥檔 adlewyrchu dewis iaith y ceisydd naill ai yn y cais cyfredol, neu os cynhyrchir y cais cyfredol gan Gofrestrfa Tir EF ei hunan, ar sail dewis iaith y perchennog cofrestredig cyfredol.
4. Cyfieithu cofnodion y gofrestr
Sylwer nad yw Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwasanaeth i gyfieithu cofnodion y gofrestr (i鈥檙 Saesneg neu鈥檙 Gymraeg) gan na fyddai gan y cyfieithiad statws cyfreithiol. Cyfrifoldeb y cwsmer/cyfreithiwr yw trefnu cyfieithiad os oes angen hyn.
5. Cyfeiriad ar gyfer gohebu
Gall y cyfeiriad ar gyfer gohebu yn y gofrestr perchnogaeth, sy鈥檔 bersonol i鈥檙 perchennog unigol, fod yn Gymraeg naill ai鈥檔 unol 芒 dewis iaith y ceisydd neu ar gais. Sylwch, fodd bynnag, fod hyn yn gymwys i eiddo yng Nghymru鈥檔 unig. Am ragor o wybodaeth gyffredinol, yn enwedig o ran effaith Rheolau Cofrestru Tir 2003, gweler cyfarwyddyd ymarfer 55: cyfeiriad ar gyfer gohebu.
6. Ceisiadau wedi eu seilio ar ddogfennau Cymraeg a gyflwynwyd cyn 1 Hydref 2001
O 1 Hydref 2001, mae Cofrestrfa Tir EF, Swyddfa Abertawe wedi argraffu pob cofrestr ar dempled cofrestr ddwyieithog heb ystyried y dyddiad y cr毛wyd y gofrestr ei hunan. Cyfieithwyd cofnodion yn deillio o ddogfennau Cymraeg a gyflwynwyd cyn 1 Hydref 2001 i鈥檙 Saesneg ar gyfer eu gosod ar y gofrestr. Nid yw鈥檔 fwriad gennym ddiwygio鈥檙 cofnodion hynny.
7. Os yw eich eiddo yn Lloegr, ni allwch gael eich cofrestr yn Gymraeg
Mae鈥檙 ffurf a nodir uchod yn effeithio ar gofrestri tir yng Nghymru yn unig. O ganlyniad, nid oes modd i Gymry alltud sy鈥檔 byw yn Lloegr neu Gymry sy鈥檔 berchen ar dir yn Lloegr gael cofrestri tir yn Lloegr ar dempled dwyieithog. Nid oes modd ychwaith creu cofnodion Cymraeg ar y cofrestri hynny.
8. Penawdau neu allweddi ar gynlluniau teitl
Nid yw鈥檔 fwriad gennym gyfieithu penawdau neu allweddi ar gynlluniau teitl.
9. 脗 phwy i gysylltu am wybodaeth bellach neu gymorth
Dylid cyfeirio ymholiadau yngl欧n 芒鈥檙 ffurf hon at:
Eleri Sparnon Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Cymraeg
Cofrestrfa Tir EF
T欧 Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Parc Anturiaeth Abertawe
Abertawe
SA7 9FQ
Email [email protected]
Ff么n 0300 006 9567
10. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.