Canllawiau: cofrestr ceidwaid ffuredau a mustelinae eraill
Cyhoeddwyd 14 Mehefin 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gall ceidwaid ffuredau a mustelinae eraill ymuno 芒 chofrestr i rannu gwybodaeth am eu hanifeiliaid 芒鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghymru a Lloegr.Bydd APHA yn defnyddio鈥檙 wybodaeth ar y gofrestr i gysylltu 芒 chi er mwyn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i chi mewn perthynas ag atal clefydau os bydd achosion o glefydau yn effeithio ar eich anifeiliaid.
Bydd hefyd yn helpu APHA i ddeall faint o ffuredau a mustelinae eraill a gedwir ym Mhrydain Fawr, a ble maen nhw.
Pwy ddylai gofrestru
Gallwch gofrestru os ydych yn cadw un mustelinae neu fwy, gan gynnwys
- ffuredau
- ffwlbartiaid
- carlymod
- mincod
- croesiadau o鈥檙 anifeiliaid hyn
Rydych yn geidwad os ydych yn gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid a gedwir fel anifeiliaid anwes.
Nid oes rhaid i chi ymuno 芒鈥檙 gofrestr yn 么l y gyfraith ar hyn o bryd. Mae鈥檔 debygol o ddod yn orfodol yn y dyfodol os byddwch yn cadw mwy na nifer penodol o ffuredau neu mustelinae eraill. Nid yw鈥檙 nifer hwn wedi cael ei bennu eto.
Mae APHA yn eich annog i gofrestru hyd yn oed os nad oes rhaid i chi wneud hynny yn 么l y gyfraith.
Os byddwch yn ymuno 芒鈥檙 gofrestr wirfoddol, bydd APHA yn cynnwys eich manylion ar y gofrestr orfodol pan gaiff ei chreu. Ni fydd angen i chi ailgofrestru.
Pam mae gennym gofrestr
Mae ffuredau, mincod ac aelodau eraill o deulu鈥檙 mustelinae yn arbennig o agored i ddal SARS-CoV-2, sef y feirws sy鈥檔 achosi COVID-19. Gallant heintio aelodau o鈥檜 rhywogaeth eu hunain, a cheir tystiolaeth y gall mincod drosglwyddo鈥檙 haint yn 么l i fodau dynol.
Os caiff achos o SARS-CoV-2 ei gadarnhau ymhlith ffuredau, mae鈥檔 bosibl y cysylltir 芒 chi i roi gwybodaeth a chyngor i chi yngl欧n 芒 mesurau atal clefydau.
Mae鈥檔 bosibl y cyfyngir ar symud anifeiliaid sydd wedi鈥檜 heintio 芒 SARS-CoV-2 yn unol 芒鈥檙 Gorchymyn Milheintiau (1989) fel y鈥檌 diwygiwyd.
Sut i gofrestru
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i ymuno 芒鈥檙 gofrestr
- y cyfeiriad lle rydych yn cadw鈥檙 anifeiliaid
- cyfeirnod map y cyfeiriad
- nifer yr anifeiliaid rydych yn eu cadw
- y rhywogaeth rydych yn ei chadw
- enw a manylion cyswllt y ceidwad
- y rheswm rydych yn cadw鈥檙 anifail, er enghraifft fel anifail anwes neu anifail gwaith
Yng Nghymru a Lloegr, dylech lawrlwytho eich ffurflen a鈥檌 hanfon drwy e-bost i [email protected]. Gallwch hefyd ymuno 芒鈥檙 gofrestr dros y ff么n. Ffoniwch 0800 6341 112.