Ffurflen

Taflen ffeithiau gwaith a ganiateir

Diweddarwyd 8 Ebrill 2024

1. Beth yw gwaith a ganiateir?

Gall gwaith a ganiateir eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu eich hyder a dechrau meddwl am fathau o waith y gallech eu gwneud.

Os oes gennych anabledd, salwch, neu gyflwr iechyd efallai y gallwch wneud rhywfaint o waith a chadw eich taliadau a chredydau Yswiriant Gwladol am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

Mae gwaith a ganiateir yn golygu y gallwch:

  • gweithio am lai nag 16 awr yr wythnos
  • ennill dim mwy na 拢183.50 bob wythnos, ar 么l didynnu treth ac Yswiriant Gwladol
  • cael eich swm arferol o fudd-dal
  • adeiladu eich sgiliau a鈥檆h profiad
  • cael eich cefnogi tra鈥檆h bod yn gweithio - rydym yn galw hyn yn waith a ganiateir 芒 chymorth.

Nid oes cyfyngiad ar nifer yr wythnosau y gallwch wneud gwaith a ganiateir neu waith a ganiateir 芒 chymorth.

2. Gwaith a ganiateir 芒 chymorth

Mae gwaith a ganiateir 芒 chymorth i bobl sydd ag anabledd, salwch neu gyflwr iechyd na allant weithio mwy nag ychydig oriau bob wythnos. Goruchwylir y gwaith gan weithiwr cymorth proffesiynol. Gweithiwr cymorth proffesiynol yw rhywun sy鈥檔 gweithio i fudiad cyhoeddus neu wirfoddol.

3. Beth mae rhaid i chi ei wneud os ydych eisiau gweithio

Cyn i chi ddechrau unrhyw waith, mae rhaid i chi lenwi ffurflen gwaith a ganiateir PW1W a鈥檌 phostio i鈥檙 cyfeiriad ar frig unrhyw lythyrau ESA rydym wedi eu hanfon atoch. Peidiwch 芒 mynd 芒鈥檙 ffurflen hon i鈥檆h swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Os ydych yn credu bod y gwaith rydych am ei wneud yn waith a ganiateir 芒 chymorth, mae rhaid i鈥檆h gweithiwr cymorth proffesiynol lenwi ei adran ar y ffurflen gwaith a ganiateir PW1W.

Byddwn yn dweud wrthych os yw鈥檙 gwaith rydych am ei wneud yn bodloni amodau gwaith a ganiateir. Os ydych yn gwneud gwaith nad yw鈥檔 bodloni鈥檙 amodau, gallech golli鈥檆h budd-dal.

Os na allwch ddweud wrthym cyn i chi ddechrau gweithio, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gwaith a ganiateir PW1W a鈥檌 hanfon yn 么l ar unwaith.

I gael copi o鈥檙 ffurflen gwaith a ganiateir PW1W, ewch i a chwiliwch am PW1W neu ein ffonio ar 0800 169 0310.

Mae rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith am unrhyw waith rydych yn ei wneud. Os na wnewch hyn, efallai y telir gormod o ESA i chi. Efallai y bydd rhaid i chi dalu hwn yn 么l a thalu cosb hefyd.

4. Sut gall gwaith a ganiateir newid eich budd-daliadau eraill?

Os ydych yn cael budd-dal arall oherwydd nad ydych yn gweithio (er enghraifft Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor), efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu ei atal os byddwch yn gwneud unrhyw waith. Siaradwch 芒鈥檆h anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ddechrau unrhyw waith.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor a鈥檆h bod yn ystyried dechrau gwaith a ganiateir, mae rhaid i chi siarad 芒鈥檆h awdurdod lleol ar unwaith, oherwydd gallai鈥檙 swm a gewch newid.

I gysylltu 芒鈥檆h awdurdod lleol ewch i

5. Pam mae angen gwybodaeth bersonol ar DWP a sut rydym yn ei thrin

Rydym yn trin gwybodaeth bersonol yn ofalus. Gallwn ei ddefnyddio at unrhyw un o鈥檔 dibenion. I ddysgu mwy am hawliau gwybodaeth a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth, ewch i .