Canllawiau

Cylch gorchwyl adolygiad DVLA 2023

Cyhoeddwyd 25 Gorffennaf 2023

Cefndir

Mae DVLA yn asiantaeth weithredol o鈥檙 Adran Drafnidiaeth, yn gyfrifol am gynnal mwy na 51 miliwn o gofnodion gyrwyr a bron 40 miliwn o gofnodion cerbydau.

Yn 2022 i 2023, dosbarthodd DVLA 11.9 miliwn o drwyddedau gyrru ac 16.8 miliwn o dystysgrifau cofrestru cerbydau. Atebodd staff canolfan gyswllt DVLA 13.3 miliwn o ymholiadau gan gynnwys 6.7 miliwn galwad, 5.1m galwad i鈥檙 system drwyddedu cerbydau electronig, 0.6 miliwn e-bost a 0.9 miliwn gwe-sgwrs ac ymholiadau sgwrsfot.

Mae DVLA yn casglu mwy na 拢7 biliwn mewn treth cerbyd ar ran Trysorlys EF yn flynyddol.

Yn ogystal 芒 busnes craidd y DVLA o gynnal cofnodion gyrwyr a cherbydau cywir a chyfredol, a chasglu treth cerbyd ar ran y Trysorlys, mae鈥檔 gyfrifol hefyd am:

  • gymryd camau gorfodi yn erbyn y rheini sy鈥檔 osgoi talu treth cerbyd
  • dosbarthu tystysgrifau cofrestru cerbydau i geidwaid cofrestredig cerbydau
  • dosbarthu trwyddedau gyrru cerdyn-llun
  • cofnodi ardystiadau gyrwyr, gwaharddiadau, a chyflyrau meddygol
  • cofrestru a dosbarthu cardiau tacograff i weithredwyr a gyrwyr cerbydau nwyddau trwm
  • helpu鈥檙 heddlu i ddelio 芒 throseddu yn ymwneud 芒 gyrwyr a cherbydau
  • cynhyrchu refeniw i鈥檙 Trysorlys trwy werthu rhifau cofrestru cerbyd personol

Pwrpas

Megis 芒 phob adolygiad corff cyhoeddus, bydd yr adolygiad hwn yn:

  • ystyried llywodraethiant, atebolrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y DVLA
  • ystyried i ba raddau mae鈥檙 DVLA yn galluogi blaenoriaethau llywodraeth ehangach a dysgu鈥檔 weithredol o agenda drawsnewid ehangach y llywodraeth
  • gwneud argymhellion i weinidogion i lunio penderfyniadau ar drefniadau cyflawni yn y dyfodol ac arbedion effeithlonrwydd

Crynodeb y cwmpas

Effeithiolrwydd

Wrth fynd i鈥檙 afael ag effeithiolrwydd, mae ystyriaethau yn cynnwys:

  • pob cyfrifoldeb ac amcan presennol a鈥檙 graddau y mae gan DVLA y mandad, y gallu a鈥檙 capasiti i鈥檞 cyflawni
  • sut mae DVLA yn cyflawni ei hamcanion i gwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws y sector moduro gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i drwyddedau gyrru ar gyfer y rheini 芒 chyflyrau meddygol
  • y graddau y mae DVLA yn ystyried ac yn gweithio gyda鈥檙 adran ar gyfrifoldebau a strategaeth tebygol yn y dyfodol

Llywodraethiant

Wrth fynd i鈥檙 afael 芒 llywodraethiant, mae ystyriaethau yn cynnwys:

  • a yw strwythurau presennol ar gyfer llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth fewnol yn effeithiol ac yn cynorthwyo gwireddu cyfleoedd i ddod hyd yn oed yn fwy effeithiol ac effeithlon
  • y graddau y mae鈥檙 bwrdd yn effeithiol mewn gweithredu ei gyfrifoldebau a dal y weithrediaeth i gyfrif
  • prosesau i sicrhau gallu ac amrywiaeth mewn recriwtio i鈥檙 bwrdd

Atebolrwydd

Wrth fynd i鈥檙 afael ag atebolrwydd, mae ystyriaethau yn cynnwys:

Effeithlonrwydd

Wrth fynd i鈥檙 afael ag effeithlonrwydd, mae鈥檙 ystyriaethau yn cynnwys:

  • lle gellir gwneud arbedion i derfynau gwario adnoddau adrannol (RDEL) o聽5% o leiaf, gan adnabod yn benodol lle gellir gwneud enillion effeithlonrwydd, o ran arian ac heb fod o ran arian, yn DVLA
  • trefniadau rheoli ariannol mewn grym ac ai鈥檙 model cyllidol (wedi鈥檌 adeiladu o incwm ffioedd statudol a masnachol) yw鈥檙 model cywir ar gyfer y dyfodol
  • sut mae聽DVLA聽yn ystyried ac yn gweithredu mesurau i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd, gan gynnwys meincnodi a digideiddio tra鈥檔 sicrhau gwytnwch y sefydliad a sicrhau鈥檙 galluoedd sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y dyfodol

Ymagwedd

Mae鈥檙 holl adolygiadau cyrff cyhoeddus yn tynnu ar ddata a thystiolaeth gan gynnwys trwy ymgynghori 芒 rhanddeiliaid ehangach, cyrff cynrychioladol a鈥檙 llywodraethau datganoledig fel y bo鈥檔 briodol.

Byd panel heriau yn cynorthwyo鈥檙 adolygiad i gasglu meddyliau a thrafod canfyddiadau sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg.

Mae aelodau yn gynghorwyr arbenigol wedi鈥檜 tynnu o鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymuned rhanddeiliaid.

Mae DfT聽wedi penodi Janette Beinart i arwain adolygiad y聽DVLA. Bydd hi鈥檔 cael ei chynorthwyo gan d卯m adolygu o fewn yr Adran Drafnidiaeth.

Amseru

Gan fod yr adolygiad wedi dechrau yn awr, bydd y prif adolygwr, wedi鈥檌 chynorthwyo gan d卯m yr adolygiad, yn ymgynghori 芒 rhanddeiliaid wedi鈥檜 targedu gan gynnwys adrannau llywodraeth y DU, grwpiau rhanddeiliaid, busnesau, a chyrff cynrychioladol, yn ogystal 芒 bwrdd聽DVLA, ei staff a鈥檌 rheolwyr.

Disgwylir i ganfyddiadau o鈥檙 adolygiad ac argymhellion gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2024.