Atodiad 1: Cyfnodau cadw
Diweddarwyd 30 Ionawr 2025
Mae鈥檙 atodiad hwn yn disgrifio鈥檙 cyfnodau cadw ar gyfer eich data (am ba mor hir y cedwir eich data).
Pan rydych yn agor Cyfrif gyrwyr a cherbydau
Byddai gwybodaeth gwsmeriaid yn cael ei chadw am oes y cyfrif.聽 Gallwch ddileu鈥檙 cyfrif ar unrhyw adeg.
Pan rydych yn gwneud cais am drwydded yrru
Mae鈥檙 system graidd o gofnodi data trwyddedu gyrwyr Prydain Fawr yn cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif gyrrwr, rhif cyhoeddi, manylion trwydded, hawliau gyrru ac unrhyw ardystiadau dilys.
Cedwir data am 120 o flynyddoedd o鈥檙 dyddiad geni. Fodd bynnag, 3 mis ar 么l hysbysiad o farwolaeth, mae鈥檙 wybodaeth a gedwir yn cael ei lleihau i fod mor brin 芒 phosibl.
Mae ardystiadau hefyd yn destun cwtogi ar 么l 4 neu 11 mlynedd yn dibynnu ar y math o drosedd.
Mae cadw cofnodion gyrwyr hanesyddol papur yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd.
Pan rydych yn gwneud cais am gerdyn tacograff
Cynhelir cronfa ddata o holl yrwyr Prydain Fawr sydd 芒 cherdyn tacograff sy鈥檔 cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt, rhif trwydded yrru, rhif tacograff, ffotograff a llofnod.
Cedwir y data am 5 mlynedd yn unol 芒 chyfnod dilysrwydd cardiau tacograff.聽
Pan rydych yn gwneud cais i gofrestru cerbyd yn eich enw
Mae鈥檙 system graidd o gofnodi ar gyfer cerbydau cofrestredig yn y DU yn cynnwys y rhif cofrestru cerbyd, rhif adnabod cerbyd, manylion technegol cerbyd, statws trwyddedu, ac enw a manylion cyswllt ceidwad cofrestredig y cerbyd a cheidwaid blaenorol.
Cedwir y data hwn am oes y cerbyd ac fe鈥檌 gwneir yn ddi-rym pan dderbynnir hysbysiad bod y cerbyd yn cael ei sgrapio neu ei ddinistrio.
Mae cadw cofnodion cerbydau hanesyddol papur yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd.
Pan rydych yn gwneud cais am bl芒t trwydded fasnach
Cedwir cronfa ddata o鈥檙 holl ddeiliaid trwydded fasnach sy鈥檔 cynnwys enw, cyfeiriad, enw deiliad y drwydded a rhif pl芒t masnach.聽 Mae cadw鈥檙 cofnodion hyn yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd.
Cedwir cofnod ar wah芒n o drwyddedau masnach a roddwyd am 7 mlynedd.
Pan rydych yn talu鈥檙 ardoll HGV
Bydd yr Adran Drafnidiaeth fel rheolydd data a NEC Software Solutions (prosesydd data) yn defnyddio鈥檆h gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu鈥檙 Ardoll Defnyddwyr Ffyrdd HGV a鈥檌 orfodi (Deddf Ardoll Defnyddwyr Ffyrdd HGV 2013).
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a鈥檌 phrosesu yn briodol yn unol 芒 gofynion y gyfraith diogelu data. Cedwir data prynu ardoll am 6 mis, a chedwir data cyfrif anweithredol am 2 flynedd cyn cael ei anonymeiddio.
Pan rydych yn gwneud cais i gofrestru 么l-gerbyd
Cynhelir cofrestr o rai 么l-gerbydau sy鈥檔 pwyso mwy na 750kg a phob 么l-gerbyd sy鈥檔 pwyso mwy na 3,500kg sy鈥檔 cynnwys rhif adnabod y cerbyd a rhif cofrestru鈥檙 么l-gerbyd.
Mae cofnodion 么l-gerbydau yn cael eu dileu ar 么l 20 mlynedd o anweithgarwch. Cedwir rhif cofrestru鈥檙 么l-gerbyd fel na ellir ei ailddefnyddio.
Pan rydych yn prynu rhif cofrestru preifat (personol)
Mae cronfa ddata o鈥檙 holl rifau cofrestru personol a brynwyd gan DVLA yn cynnwys enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, gwerth y pryniant a manylion enwebai. Cedwir hyn am oes rhif cofrestru鈥檙 cerbyd.
Cedwir cronfa ddata o gwsmeriaid sy鈥檔 mynegi diddordeb mewn prynu rhif cofrestru penodol sy鈥檔 cynnwys enw, manylion cyswllt a鈥檙 rhif cofrestru y mae ganddynt ddiddordeb ynddo nes bod y rhif cofrestru yn cael ei werthu neu os yw鈥檙 cwsmer yn dad-danysgrifio o鈥檙 gwasanaeth.
Pan rydych yn cofrestru i ddod yn gyflenwr pl芒t rhif
Cofrestr o gyflenwyr platiau rhif sy鈥檔 cynnwys enw a manylion cyswllt y rhai sydd wedi鈥檜 cofrestru i gyflenwi platiau rhif. Mae鈥檙 data a gynhwysir yn y gofrestr hon yn cael ei adolygu bob 10 mlynedd.
Pan rydych yn cysylltu 芒 ni ynghylch taliadau Parthau Aer Gl芒n (CAZ)
Mae canolfan gyswllt DVLA yn trafod ymholiadau a thaliadau CAZ ar ran yr Uned Ansawdd Aer ar y Cyd (JAQU). Cedwir yr holl wybodaeth sy鈥檔 gysylltiedig ag ymholiadau cyffredinol am gyfnod o 90 diwrnod, ac ar 么l hynny dim ond enw a chyfeiriad e-bost sy鈥檔 cael eu cadw. Cedwir cwynion am 7 mlynedd.
Pan rydych yn tanysgrifio i dderbyn hysbysiadau e-bost DVLA
Mae DVLA yn cadw cronfa ddata o gwsmeriaid sydd wedi gofyn am dderbyn hysbysiadau e-bost sy鈥檔 cynnwys eu cyfeiriad e-bost. Gall cwsmeriaid ddad-danysgrifio pan nad ydynt bellach yn dymuno derbyn yr hysbysiadau hyn.
Pan fydd gennych ymholiad neu g诺yn
Cedwir cwynion gweinidogol a swyddogol, ynghyd 芒 cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth, am 5 mlynedd.
Mae gohebiaeth sydd wedi鈥檌 storio mewn systemau gwaith achos yn cael ei chadw am naill ai 5 mlynedd, 10 mlynedd ar 么l cau achos neu oes y cofnod gyrrwr yn dibynnu ar natur y g诺yn neu鈥檙 ymholiad.
Cedwir recordiadau galwadau, gwe-sgyrsiau ac ymholiadau neu gwynion e-bost am 3 mis.
Cedwir cwynion sy鈥檔 cael eu cyfeirio at yr Asesydd Cwynion Annibynnol am 3 mis.
Pan rydych yn rhanddeiliad neu gyflenwr allweddol sydd 芒 chontractau a gwasanaethau gyda ni
Cedwir manylion sy鈥檔 ymwneud 芒 thendrau aflwyddiannus am flwyddyn.
Cedwir manylion sy鈥檔 ymwneud 芒 thendrau llwyddiannus am 6 blynedd.
Cedwir contractau a Memoranda Cyd-ddealltwriaeth am 6 blynedd ar 么l i鈥檙 contract neu鈥檙 cytundeb ddod i ben.
Dibenion ystadegol ac ymchwil聽
Rydym hefyd yn prosesu eich data at ddibenion ystadegol ac ymchwil.
Cedwir data arolygon cwsmeriaid a gweithwyr am rhwng 3 a 12 mis, yn dibynnu ar natur yr arolwg.
Cedwir recordiadau sain a fideo o sesiynau profi cwsmeriaid am uchafswm o 10 mlynedd, yn amodol ar gydsyniad y cwsmer.