Morgais digidol: cymeradwyo (e-ACD)
Ffurflen gais e-ACD: Cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF am forgais digidol a neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn sefydliad rhoi benthyg neu鈥檔 gweithredu ar ran rhoddwr benthyg ac mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth gweithred morgais ddigidol. Mae hyn yn cynnwys neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD Cofrestrfa Tir EF.
Rhaid ichi sicrhau hefyd fod fersiwn papur o鈥檙 un weithred wedi ei gymeradwyo trwy ddefnyddio Ffurf safonol arwystl: cymeradwyo (ACD).
Gallwch anfon y ffurflen ACD ar ei phen ei hun, yr e-ACD ar ei ben ei hun os cafodd y weithred morgais bapur ei chymeradwyo beth amser yn 么l, neu anfon y ddau gyda鈥檌 gilydd.
Os nad ydych yn anfon y ffurflen ACD, ni fydd yn eich atal rhag defnyddio鈥檙 gwasanaeth digidol, ond byddai鈥檔 achosi problem os na all cymerwr benthyg ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth digidol am ryw reswm ac mae angen ei chwblhau ar bapur.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon ymateb atoch trwy ebost.
Ff茂oedd a chyfeiriad
Ni chodir unrhyw ffioedd ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Anfonwch y ffurflen hon trwy ebost i CommericalArrangements@landreisgtry.gov.uk.