Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 72: cynlluniau datblygu

Diweddarwyd 25 Tachwedd 2019

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Pan fydd awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus arall, neu gwmni neu gorff corfforaethol arall, yn caffael darn penodol o dir pob yn dipyn dros gyfnod (er enghraifft, ar gyfer cynllun datblygu), gall ofyn i Gofrestrfa Tir EF wneud trefniadau i ymgorffori pob parsel o dir i deitl cofrestredig unigol wrth iddi gael ei gaffael. Gelwir hyn yn 鈥榞ynllun datblygu鈥�.

1.1 Cynlluniau datblygu a theitlau bwriad

Mae cynlluniau datblygu wedi disodli teitlau bwriad ac maent yn seiliedig ar brosesau cofrestru diwygiedig. Bydd teitlau bwriad sy鈥檔 bodoli eisoes ac sy鈥檔 parhau鈥檔 weithredol yn parhau i gael eu prosesu fel y cytunwyd gyda鈥檙 datblygwr.

1.2 Manteision

P鈥檜n ai y mae鈥檙 tir datblygiad wedi鈥檌 gaffael yn orfodol neu鈥檔 wirfoddol, mae gweithdrefn cynllun datblygu Cofrestrfa Tir EF yn cynnig nifer o fanteision.

  • mae鈥檔 eich galluogi i ddatblygu鈥檙 teitl cofrestredig yn raddol i ardal rydych yn ei chaffael mewn parseli ar wah芒n
  • nid oes gennych yr anghyfleustra o nifer o deitlau cofrestredig ar wah芒n y bydd angen cais i鈥檞 cyfuno yn y pen draw
  • mae staff enwebedig yn goruchwylio鈥檙 gwaith o brosesu ceisiadau yn ystod oes y cynllun datblygu o dan drefniadau a gytunir gyda chi
  • cyn i鈥檙 cynllun ddechrau, gallwch drafod unrhyw broblemau sy鈥檔 hysbys am y stent neu dystiolaeth o deitl gyda ni, a gallwn wneud trefniadau manwl ar gyfer paratoi, cyflwyno a phrosesu ceisiadau
  • tra bod y cynllun yn mynd rhagddo, byddwn yn cysylltu 芒 chi i ddatrys unrhyw faterion annisgwyl

2. Cais ar gyfer cynllun datblygu

2.1 Ystyriaeth ragarweiniol

Bydd yn rhaid i chi ddarparu鈥檙 holl ffeithiau perthnasol i Gofrestrfa Tir EF cyn y gellir gwneud penderfyniad a fydd cynllun datblygu yn briodol a pha stent y bydd yn cwmpasu. Unwaith y byddwch yn gwybod pa un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF fydd yn ymdrin 芒鈥檆h cais (gweler Gwneud y cyswllt cyntaf a chyflwyno ceisiadau), dylech ysgrifennu atom cyn gynted 芒 phosibl gan amg谩u cynllun sy鈥檔 nodi鈥檙 ardal gyfan rydych yn ei chaffael. Rhaid ichi hefyd ddarparu copi o unrhyw orchymyn prynu gorfodol. Dylai鈥檆h llythyr:

  • esbonio鈥檙 datblygiad a fwriedir ar gyfer yr ardal
  • rhoi cymaint o wybodaeth 芒 phosibl am y rhaglen gaffael ac, os yw鈥檔 briodol, gwaredu鈥檙 eiddo newydd yn y datblygiad, a
  • nodi鈥檙 buddion yn y tir y bydd angen eu caffael (er enghraifft, stent y buddion prydlesol neu鈥檙 rhent-daliadau neu rannau o dir lle y gallai fod yn anodd pennu perchnogaeth)

Er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus y cynllun datblygu, mae鈥檔 hanfodol eich bod yn bwriadu caffael yr eiddo o fewn cyfnod rhesymol. Gallai鈥檙 teitl i鈥檙 tir sydd i鈥檞 gaffael fod yn gwbl gofrestredig, yn gwbl ddigofrestredig neu鈥檔 gyfuniad o鈥檙 ddau.

Byddwn yn cofrestru buddion prydlesol a rhent-daliadau o fewn y cynllun datblygu ar wah芒n (gweler Caffaeliadau prydlesi a rhent-d芒l).

Mae llwyddiant y weithdrefn yn dibynnu ar gynllunio gofalus yn y camau cyntaf. Ar 么l i chi roi鈥檙 wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i ni, fel rheol byddwn yn gofyn i gwrdd 芒 chi. Os byddwn yn penderfynu parhau 芒鈥檙 cynllun, mae鈥檔 hanfodol ein bod mewn cyswllt agos 芒 chi. Dylech ein hysbysu ar unwaith am unrhyw broblemau sy鈥檔 codi ac o unrhyw newid i鈥檆h cynlluniau datblygu.

2.2 Cwblhau trefniadau

Os penderfynwn y gellir defnyddio鈥檙 weithdrefn cynllun datblygu, byddwn yn gofyn i chi roi un neu ragor o gynlluniau graddfa fawr yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans (fel arfer ar raddfa o 1:1250 mewn ardaloedd trefol ac 1:2500 mewn ardaloedd gwledig) gan ddangos lleoliad a stent yr holl dir y bwriedir ei gaffael gydag amlinelliad lliw.

Rhaid i鈥檙 cynlluniau o鈥檙 datblygiad rydych yn eu darparu fodloni ein gofynion ar gyfer adnabod y tir sydd i鈥檞 gofrestru 鈥� nodir y rhain yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: cynlluniau Cofrestrfa Tir EF. Os oes gennych ddata mapio ar ffurf gydnaws gallwn drefnu i鈥檙 cynlluniau gael eu mewnforio鈥檔 electronig.

Wedi hynny byddwn yn rhoi rhif cyfeirnod i chi y dylid ei ddyfynnu gyda phob cais, ymholiad a gohebiaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 cynllun datblygu. Os yw鈥檙 ardal yn fawr, byddwn yn trafod israniad y stent er mwyn darparu cynlluniau teitl o faint hawdd ei drin. Byddwn yn rhoi rhif cyfeirnod i bob rhan o鈥檙 cynllun sydd i鈥檞 chofrestru ar wah芒n.

Byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhanfap o gynllun y datblygiad ar bob cais i ddangos stent y tir sydd i鈥檞 ychwanegu, ac eithrio mewn achosion lle y defnyddir rhanfap o gynllun y datblygiad fel y cynllun ar gyfer y weithred sy鈥檔 peri鈥檙 cofrestriad.

Yn ogystal, gallwn baratoi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth sy鈥檔 nodi鈥檙 trefniadau ar gyfer cyflwyno a phrosesu鈥檙 ceisiadau.

2.3 Cofrestru tir o fewn cynllun datblygu

Ar 么l derbyn y cais cyntaf gennych i gofrestru parsel o dir o fewn y cynllun datblygu arfaethedig (neu o fewn pob rhan mewn achos o gynllun isranedig), byddwn yn clustnodi rhif teitl. Gwneir ychwanegiadau dilynol trwy gyfuniad 芒鈥檙 teitl hwn.

2.4 Caffaeliadau prydlesol a rhent-d芒l

Lle nad yw鈥檙 budd uwch eisoes wedi鈥檌 gaffael neu ei gofrestru, byddwn yn creu teitlau ar wah芒n ar gyfer ystadau prydlesol a rhent-daliadau, ac ar gyfer ystadau lle y gellir rhoi gwahanol ddosbarthiadau o deitlau cofrestredig iddynt. Os a phryd y byddwch yn caffael y budd uwch, dylech wneud cais i gau unrhyw deitlau eilaidd a gofrestrwyd eisoes.

Os oes tystiolaeth briodol ar gael, dylech wneud cais i uwchraddio teitlau meddiannol hefyd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 42: uwchraddio dosbarth teitl.

2.5 Gorchmynion cau

Lle rydych wedi caffael tir ar y ddwy ochr o ffordd neu lwybr sy鈥檔 destun gorchymyn cau ac rydych yn bwriadu cynnwys y ffordd neu lwybr yn yr ailddatblygiad, dylech wneud cais i鈥檞 ychwanegu at y cynllun datblygu. Dylech gyflwyno copi ardystiedig o鈥檙 gorchymyn cau (gan gynnwys unrhyw gynllun sy鈥檔 ychwanegol iddo) i gefnogi鈥檙 cais, a byddwn yn cadw hwn.

2.6 Cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau

Dylech roi manylion llawn unrhyw lyffetheiriau sy鈥檔 effeithio ar y tir gyda phob cais am gofrestriad cyntaf. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli ar y dyddiad caffael, hyd yn oed pan fo鈥檙 prynwr yn gorff a chanddo bwerau gorfodol. Rhaid i ni nodi presenoldeb hawliau trydydd parti o鈥檙 fath yn y gofrestr oherwydd, hyd yn oed os yw鈥檙 gyfraith cynllunio yn awdurdodi datblygiad a defnydd o dir sy鈥檔 eu torri, ni ch芒nt eu dileu fel rheol a gallent fod yn orfodadwy os yw鈥檙 tir yn peidio 芒 chael ei ddefnyddio at y diben y rhoddwyd y p诺er i鈥檙 prynwyr ei gaffael.

Dim ond am y rhesymau canlynol y byddwn yn hepgor cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau o鈥檙 gofrestr:

  • os c芒nt eu dileu鈥檔 barhaol gan statud, neu
  • os ceir tystiolaeth eu bod wedi cyd-doddi ar undod seisin gyda chaffaeliad yr holl dir buddiol a beichus. Mewn achosion o gyfamodau cyfyngu, mae hyn yn aml yn anodd ei bennu

2.7 Cwblhau cynllun datblygu

Pan fydd yr holl dir wedi鈥檌 gaffael a鈥檌 ychwanegu at y cynllun, dylech ddweud wrthym:

  • bod y cynllun wedi鈥檌 gwblhau, a
  • ph鈥檜n ai y mae鈥檙 tir o fewn y cynllun wedi鈥檌 ailddatblygu, fel bod gennym y cyfle (os oes angen) i gwblhau arolwg tir

Lle y bo angen, dylech wneud cais i gau unrhyw deitlau prydlesol neu rhent-d芒l sy鈥檔 weddill hefyd.

2.8 Cynnydd

Byddwn yn monitro cynnydd y ceisiadau. Ni fyddwn fel rheol yn cadw trefniadau cynllun datblygu os nad oes ceisiadau i ychwanegu tir am gyfnod o 6 mis. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cysylltu 芒 chi i drafod terfynu.

2.9 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar 么l inni gwblhau鈥檙 cais.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol gan ddefnyddio鈥檙 datganiadau ardystio sydd ar gael wrth uwchlwytho gweithredoedd neu ddogfennau i鈥檔 gwasanaethau digidol.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop茂au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

3. Ceisiadau am gop茂au swyddogol

Mae cop茂au swyddogol o鈥檙 gofrestr a鈥檙 cynllun teitl ar gael tra bo鈥檙 cynllun datblygu yn mynd rhagddo gan ddefnyddio ffurflen OC1 鈥� gweler cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gop茂au swyddogol.

4. Gwneud y cyswllt cyntaf a chyflwyno ceisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn ffonio鈥檔 Cymorth i Gwsmeriaid. Fel arall, gallwch ysgrifennu i Gofrestrfa Tir EF yn ein cyfeiriad safonol.

Os bydd y cynllun datblygu yn cynnwys cais ar raddfa fawr, dylech gysylltu yn y lle cyntaf 芒鈥檙 t卯m cais lluosog 鈥� gweler cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau ar raddfa fawr a chyfrifo ff茂oedd. Mae cais ar raddfa fawr yn un sy鈥檔 effeithio ar:

  • dros 50 o eiddo digofrestredig
  • dros 200 o eiddo, lle y mae rhai ohonynt yn gofrestredig
  • ardaloedd sy鈥檔 dod o dan fwy nag un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF

I wneud cais i gofrestru trawsgludiad neu drosglwyddiad o blaid y prynwr, defnyddiwch ffurflen FR1 ar gyfer tir digofrestredig neu dylid cynnwys y trafodiad priodol yn eich cais ar gyfer tir cofrestredig. Nid oes angen ffurflen gais ar wah芒n i ychwanegu鈥檙 tir at y cynllun datblygu, ond rhaid ichi gynnwys llythyr eglurhaol, yn dyfynnu鈥檙 rhif cyfeirnod y byddwn yn ei roi, a rhanfap o gynllun y datblygiad sy鈥檔 dangos y tir o dan sylw, ac eithrio mewn achosion lle y defnyddir rhanfap o gynllun y datblygiad fel y cynllun i鈥檙 weithred sy鈥檔 peri鈥檙 cofrestriad.

Mae ffi yn daladwy yn unol 芒鈥檙 Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol mewn perthynas 芒 phob caffaeliad, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru. Dylai鈥檙 taliad gael ei gynnwys gyda phob cais neu bob llwyth o geisiadau. Lle bo鈥檔 briodol, gweler hefyd yr arweiniad am ff茂oedd a roddir yng cyfarwyddyd ymarfer 54: caffael tir trwy ddatganiad breinio cyffredinol o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981.

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy鈥檔 anghyflawn neu鈥檔 ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch 鈥� gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

5. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.