Adroddiad corfforaethol

Crynodeb Amddiffyn mewn Oes Gystadleuol

Diweddarwyd 30 Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bydd yr Adolygiad Integredig yn pennu鈥檙 llwybr ar gyfer maes Amddiffyn wedi鈥檌 foderneiddio, sy鈥檔 canolbwyntio ar fygythiadau ac sy鈥檔 gynaliadwy.

Cyfrifoldeb cyntaf y Llywodraeth yw amddiffyn ei dinasyddion ac mewn byd sy鈥檔 newid, rhaid i鈥檙 maes Amddiffyn gadw ar y blaen i鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 datblygu i鈥檔 pobl, ein buddiannau a鈥檔 cynghreiriaid. Mewn cyfnod o her fyd-eang na welwyd ei debyg o鈥檙 blaen, mae鈥檙 Adolygiad Integredig (IR) yn nodi鈥檙 weledigaeth ar gyfer Prydain Fyd-eang mewn oes sy鈥檔 fwy cystadleuol, drwy integreiddio polis茂au tramor, diogelwch, amddiffyn a datblygu. Drwy hyn, byddwn yn barod, fel un Deyrnas Unedig, i fynd i鈥檙 afael 芒 bygythiadau yn yr unfed ganrif ar hugain a manteisio ar gyfleoedd byd-eang. Mae鈥檙 Deyrnas Unedig yn genedl sy鈥檔 datrys problemau ac yn rhannu baich, yn arweinydd byd-eang sy鈥檔 siapio trefn ryngwladol y dyfodol, yn cynnal ein mantais strategol drwy wyddoniaeth a thechnoleg, ac yn cryfhau diogelwch gartref a thramor. Mae amddiffyn yn ganolog i鈥檙 dull integredig o gyflawni鈥檙 weledigaeth hon o Undeb cryfach, mwy ffyniannus a chadarn, gan greu sylfeini newydd ar gyfer ein ffyniant ac addasu i fyd mwy cystadleuol.

Mae鈥檙 DU a鈥檔 cynghreiriaid yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyson a byd-eang nad yw鈥檔 parchu ffiniau na鈥檙 gwerthoedd rydym wedi鈥檜 cynnal dros y 70 mlynedd diwethaf. Bydd ein gwrthwynebwyr yn defnyddio unrhyw ffordd, a phob ffordd, i gyflawni eu hamcanion ac i danseilio ein buddiannau a鈥檔 gwerthoedd cyffredin.鈥� Daw鈥檙 bygythiadau hyn mewn sawl ffurf: terfysgaeth, troseddau difrifol a chyfundrefnol, ymosodiadau seiber, rhyfeloedd procsi, twf ac ehangiad milwrol. Nid oes gwahaniaeth syml rhwng rhyfel a heddwch bellach. Mae ein gwrthwynebwyr yn anwybyddu normau cyfraith ryngwladol i gymylu鈥檙 ffiniau rhwng gwrthdaro a heddwch, a鈥檌 gwneud yn fwyfwy anodd gwahaniaethu rhwng ymladd a pheidio ag ymladd. Maen nhw鈥檔 defnyddio ein rhyddid ein hunain yn ein herbyn yn rheolaidd, drwy dwyllwybodaeth, gorfodaeth economaidd, busnesu etholiadol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i greu rhaniadau. Yn y byd modern, mae鈥檙 gystadleuaeth yn ddidrugaredd, yn esblygu鈥檔 gyson ac wedi鈥檌 chuddio鈥檔 aml. Fel cenedl gyfrifol sydd 芒 buddiannau byd-eang, rhaid i ni gamu ymlaen i chwarae ein rhan yn y byd hwn sy鈥檔 gynyddol gystadleuol ac ansefydlog.

Os methwn 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bygythiadau dwys hyn, mae perygl inni baratoi ar gyfer brwydrau ddoe yn hytrach na bod yn barod i drechu bygythiadau yfory. Os methwn 芒 moderneiddio, mae perygl o amherthnasedd ac ansicrwydd. Bydd ein Lluoedd Arfog yn edrych yn wahanol oherwydd mae鈥檔 rhaid iddynt weithredu鈥檔 wahanol.

Mae鈥檙 cynnydd o 拢24 biliwn mewn gwariant ar y maes Amddiffyn yn ystod y llywodraeth hon yn gydnabyddiaeth o鈥檙 bygythiadau hyn a鈥檙 angen i foderneiddio ein Lluoedd Arfog yn gyflym, er mwyn iddynt allu parhau i sicrhau diogelwch, cadernid ac uchelgeisiau Prydain Fyd-eang. Bydd yn galluogi buddsoddiad yng ngalluoedd y genhedlaeth nesaf, yn cefnogi gweithlu mwy hyblyg a hylaw sy鈥檔 gallu gwarchod buddiannau鈥檙 DU yn fyd-eang, yn parhau i gryfhau cydweithrediad 芒鈥檔 cynghreiriaid ar ddiogelwch a gwybodaeth, wedi鈥檌 ategu gan gynghrair NATO a鈥檔 perthynas barhaus 芒鈥檙 Unol Daleithiau a phartneriaid 5 Eyes eraill. Yn hollbwysig, byddwn yn blaenoriaethu ac yn cyflymu mwy na 拢6.6 biliwn o ymchwil, datblygu ac arbrofi er mwyn i鈥檔 Lluoedd Arfog allu addasu i鈥檙 bygythiad gyda thechnoleg ddatblygedig, i gystadlu鈥檔 effeithiol, a brwydro鈥檔 benderfynol pan fo angen.鈥�

Er mwyn cadw鈥檙 DU yn ddiogel yn y byd hwn sy鈥檔 newid, bydd y maes Amddiffyn yn fwy gweithgar ac yn ymgysylltu鈥檔 fyd-eang; gan weithio gyda phartneriaid i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau rydym yn eu hwynebu a diogelu鈥檙 buddiannau rydym yn eu rhannu. Rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflymder, gan weithredu o dan drothwy rhyfel i atal gwrthdaro a datblygu gwytnwch, yn hytrach nag aros i ymateb i鈥檞 chanlyniadau. Gyda chydweithredu rhyngwladol a thechnoleg newydd yn ganolog i鈥檔 dull gweithredu, byddwn yn fwy gweladwy ledled y byd; yn chwarae mwy o ran wrth fynd i鈥檙 afael 芒 bygythiadau, yn cefnogi ein partneriaid a hyrwyddo buddiannau鈥檙 DU; ac yn fwy craff o ran sut rydym yn defnyddio mesurau cyfathrebu a gwybodaeth i atal ein gelynion.

Rhaid gwneud hyn ar y cyd 芒鈥檔 cynghreiriaid a鈥檔 ffrindiau. Byddwn yn cyflawni mwy drwy gydweithredu a gwaith t卯m nag y gallem byth ei wneud ar ein pen ein hunain, ac fel y gwariwr Ewropeaidd mwyaf yn NATO ac sy鈥檔 gyfrannwr mawr ar draws y pum parth, mae gennym gyfrifoldeb i sbarduno cynnydd a helpu鈥檙 Gynghrair yn ei chyfanrwydd i aros ar y blaen i鈥檞 chystadleuwyr.

Mae鈥檙 newid strategol hwn yn cael ei arwain gan ein Cysyniad Gweithredu Integredig newydd, y newid mwyaf sylweddol ym meddylfryd y maes Amddiffyn am genhedlaeth. Yn y gorffennol, rydym wedi trefnu Lluoedd Arfog y DU i frwydro mewn rhyfeloedd a鈥檜 haddasu i wneud popeth arall. Mae鈥檙 Cysyniad hwn yn cydnabod bod ein cystadleuwyr yn ceisio ennill heb orfod mynd i ryfel, felly byddwn yn cael ein strwythuro i gystadlu a鈥檜 trechu 鈥� gan barhau i allu ymaddasu i frwydro mewn rhyfel pan fo angen; yn fwy rhagweithiol, ar y blaen, yn gyson bresennol, ac wedi integreiddio gyda chynghreiriaid a phartneriaid i fynd ar drywydd ein hamcanion polisi tramor a llunio amodau ar gyfer sefydlogrwydd. Dim ond un enghraifft yw鈥檙 Gr诺p Cludwyr Ymosod a aeth i鈥檙 Indo-Pasiffig eleni, o鈥檙 ymdrech mwy hyderus, dan arweinyddiaeth y DU, hynod dechnolegol a oedd mewn partneriaeth ryngwladol, i gryfhau ein cynghreiriau a鈥檔 buddiannau cenedlaethol mewn rhanbarth sy鈥檔 hanfodol i ffyniant a heddwch byd-eang.

Wrth i ni foderneiddio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 ein hwynebu, nawr ac yn y dyfodol, rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd a manteisio ar gyfleoedd technolegau a ffyrdd newydd o weithio. Bydd hyn yn arwain at newidiadau i鈥檔 pobl wrth i ni geisio gwneud y maes Amddiffyn yn un o鈥檙 lleoedd mwyaf cyffrous, addysgol, amrywiol a llawn boddhad i weithio ynddo. Dydyn ni ddim yn cefnu ar ein lluoedd confensiynol. Yn wir, rydym yn buddsoddi llawer mewn adeiladu llongau, cyrchoedd awyr, systemau tir, a鈥檙 gallu i鈥檞 cael i ble bynnag y mae angen iddynt fynd pan fydd angen iddynt fod yno. Byddwn yn cynyddu鈥檙 gallu i ymyrryd yn gyflym os yw ein buddiannau dan fygythiad, ac mae ein hymrwymiad i NATO - gan gynnwys i amddiffyn ar y cyd o dan Erthygl 5 - yn gadarn. Y p诺er grymus hwn sy鈥檔 sail i鈥檔 diogelwch ar y cyd.

Bydd y maes Amddiffyn yn cynnal ac yn datblygu arf niwclear ataliol annibynnol y DU i wrthsefyll y bygythiadau mwyaf eithafol i鈥檔 diogelwch cenedlaethol a鈥檔 ffordd o fyw, gan helpu i sicrhau ein diogelwch ni a diogelwch ein cynghreiriaid. Mae ataliaeth niwclear annibynnol, gredadwy, sylfaenol er mwyn cadw heddwch, atal gorfodaeth, rhwystro ymosodedd ac wedi鈥檌 neilltuo i amddiffyn NATO, yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch y DU a鈥檔 cynghreiriaid.

Mae Amddiffyn yn rhan annatod o gadernid ac adferiad y wlad yn sgil y pandemig presennol, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a darparu sgiliau, swyddi a ffyniant ar draws y DU: gan sicrhau 400,000 o swyddi, buddsoddi dros 拢20 biliwn yn niwydiant y DU bob blwyddyn, a chyfle cynyddol ar draws pedair gwlad yr Undeb. O鈥檙 gofod busnes i faes y gad, byddwn yn defnyddio sylfaen academaidd a diwydiannol o safon fyd-eang y DU, gan gydweithio 芒 phartneriaid i ffurfio syniadau byd-eang a meithrin ffyniant ein gilydd. Bydd Strategaeth Ddiwydiannol newydd ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch yn sbarduno partneriaeth fwy cynhyrchiol rhwng y llywodraeth a busnesau: gan ddarparu galluoedd o鈥檙 radd flaenaf, sicrhau gwerth am arian trethdalwyr, cryfhau ein cydnerthedd cenedlaethol, cefnogi swyddi sgiliau uchel a hyrwyddo allforion y DU. Ochr yn ochr 芒 hynny, byddwn yn cyfrannu at amcanion hinsawdd y llywodraeth, gan roi strategaeth cynaliadwyedd uchelgeisiol ar waith i helpu i gyrraedd Sero Net erbyn 2050, wrth sicrhau bod ein gwlad yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae pobl yn ganolog i鈥檔 cynlluniau moderneiddio, gan ddarparu鈥檙 gweithlu eithriadol ar gyfer gweithrediadau milwrol sy鈥檔 fwyfwy arbenigol, ond yr un mor gorfforol. Byddwn yn buddsoddi yn y person茅l hynny 鈥� ein cyfalaf dynol 鈥� o brentisiaethau i鈥檙 offer digidol diweddaraf, gan eu harfogi 芒鈥檙 sgiliau, y ffyrdd o weithio, y manteision a鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf i greu gweithlu modern sy鈥檔 cynrychioli goreuon y gymdeithas y mae鈥檔 ei gwasanaethu. Bydd y gweithlu hwn yn llai, ond yn fwy arbenigol a medrus, ac yn canolbwyntio ar y tasgau sy鈥檔 unigryw ac yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan ein Lluoedd Arfog. Bydd defnyddio mwy ar ein Milwyr Wrth Gefn a thrawsnewid mwy hyblyg rhwng gweithluoedd milwrol a sifil yn sicrhau cyfraniad yr holl sgiliau a鈥檙 bobl hynny sydd eu hangen i amddiffyn y wlad a chyfrannu at gymdeithas.

Mae鈥檙 Adolygiad Integredig yn gyfle unigryw i foderneiddio ein Lluoedd Arfog, sy鈥檔 addas ar gyfer bygythiadau oes sy鈥檔 fwy cystadleuol a chyfleoedd Prydain Fyd-eang.