Canllawiau

Treth Gyngor ac Ardrethi Busnes: Busnesau yn y Cartref

Yng Nghymru a Lloegr, bydd eich treth eiddo lleol naill ai鈥檔 Dreth Gyngor neu鈥檔 Ardrethi Busnes (y cyfeirir atynt weithiau fel ardrethi annomestig neu drethi annomestig).

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae鈥檙 dreth eiddo leol rydych yn ei thalu鈥檔 dibynnu ar eich math o eiddo.

Mae eiddo busnes yn dod o dan ardrethi busnes (y cyfeirir atynt weithiau fel ardrethi annomestig neu drethi annomestig) ac eiddo domestig o dan y Dreth Gyngor.

Mae rhai eiddo yn rhannol at ddefnydd busnes ac yn rhannol at ddefnydd domestig, felly mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 ddwy dreth, e.e. tafarn neu dafarndy, neu siop lle mae鈥檙 tafarnwr neu鈥檙 perchennog siop yn byw ar y safle neu mewn fflat uwchben y busnes.

Beth os ydych yn rhedeg busnes o鈥檙 cartref?

Wrth ddefnyddio鈥檆h cartref at ddibenion busnes bach, nid yw鈥檙 llywodraeth fel arfer yn disgwyl i chi dalu ardrethi busnes os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • rydych yn defnyddio rhan fach o鈥檆h cartref ar gyfer eich busnes (e.e. ystafell wely 鈥� am ran o鈥檙 dydd fel swyddfa)
  • nid ydych yn ei ddefnyddio i werthu nwyddau neu wasanaethau i gleientiaid neu aelodau o鈥檙 cyhoedd sy鈥檔 ymweld (yn hytrach na gwerthu drwy鈥檙 post)
  • nid ydych yn cyflogi pobl eraill i weithio ar y safle
  • nid ydych yn gwneud newidiadau nad ydynt at ddiben domestig (megis troi garej yn siop trin gwallt, neu osod lifft car hydrolig)

Canllawiau cyffredinol yw鈥檙 rhain.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Rhagfyr 2023 show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon