Gohebu 芒 CThEF drwy e-bost
Diweddarwyd 18 Tachwedd 2024
Defnyddiwch yr wybodaeth ganlynol i benderfynu a ydych am ddelio 芒 ni drwy e-bost. Mae diogelu gwybodaeth bersonol yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif. Nid yw anfon e-byst yn hollol ddiogel, felly mae鈥檔 bwysig iawn eich bod yn deall y risgiau cyn i chi anfon e-bost atom. Ni fyddwn yn delio 芒 chi drwy e-bost oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni eich bod yn derbyn y risgiau o wneud hynny.
Yngl欧n 芒鈥檙 risgiau
Mae鈥檙 prif risgiau, sy鈥檔 gysylltiedig 芒 defnyddio e-byst sy鈥檔 ymwneud 芒 CThEF, fel a ganlyn:
-
cyfrinachedd a phreifatrwydd 鈥� mae risg y gallai e-byst a anfonir dros y rhyngrwyd gael eu rhyng-gipio
-
cadarnhau pwy ydych chi 鈥� mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cyfathrebu 芒 chysylltiadau dilys yn eu cyfeiriadau e-bost cywir yn unig
-
nid oes sicrwydd bod e-bost a geir dros rwydwaith anniogel, fel y rhyngrwyd, heb gael ei newid ar y ffordd
-
gallai atodiadau gynnwys feirws neu god maleisus
Sut y gallwn leihau鈥檙 risgiau
Byddwn yn gwneud gwybodaeth yn llai sensitif, er enghraifft drwy ddefnyddio rhan o gyfeirnod unigryw yn unig. Gallwn hefyd ddefnyddio amgryptio. Rydym yn hapus i drafod sut y gallech wneud yr un peth ond dal i roi鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnom.
Os nad ydych yn dymuno defnyddio e-bost
Efallai y byddai鈥檔 well gennych i ni beidio ag ateb eich ymholiad drwy e-bost, er enghraifft oherwydd bod gan bobl eraill fynediad at eich cyfrif e-bost. Os felly, rydym yn hapus i ateb mewn ffordd arall. Byddwn yn cytuno hyn 芒 chi naill ai dros y ff么n neu ar bapur drwy鈥檙 post.
Os ydych yn dymuno defnyddio e-bost
Os hoffech i CThEF ddefnyddio e-bost fel un o鈥檌 ddulliau o gysylltu 芒 chi, bydd angen i chi gadarnhau鈥檙 canlynol yn ysgrifenedig drwy鈥檙 post neu drwy e-bost:
-
rydych yn deall ac yn derbyn y risgiau o ddefnyddio e-bost
-
rydych yn fodlon i wybodaeth ariannol gael ei hanfon drwy e-bost
-
gellir defnyddio atodiadau
Os mai chi yw鈥檙 asiant neu鈥檙 cynrychiolydd awdurdodedig, bydd angen i chi gadarnhau鈥檔 ysgrifenedig drwy鈥檙 post neu drwy e-bost fod eich cleient yn deall ac yn derbyn y risgiau.
Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:
-
anfon enwau a chyfeiriadau e-bost yr holl bobl yr hoffech i ni gyfathrebu 芒 nhw drwy e-bost 鈥� er enghraifft, chi eich hun, eich staff, eich cynrychiolydd, eich asiant
-
cadarnhau eich bod wedi sicrhau nad yw鈥檆h hidlwyr post sothach wedi鈥檜 gosod i wrthod a/neu ddileu e-byst CThEF yn awtomatig
Sut rydym yn defnyddio鈥檆h cytundeb
Cedwir eich cadarnhad yn ein cofnodion, a bydd yn gymwys i ohebiaeth e-bost yn y dyfodol. Byddwn yn adolygu鈥檙 cytundeb yn rheolaidd i wneud yn si诺r nad oes unrhyw newidiadau.
Optio allan
Gallwch ddewis peidio 芒 defnyddio e-bost ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am bolisi preifatrwydd CThEF ar gael. Ewch i www.gov.uk a chwilio am 鈥楬MRC Privacy Notice鈥�.