Gwiriadau cydymffurfio: gohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau
Mae鈥檙 daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy鈥檔 digwydd pan fyddwn yn ystyried a ddylid gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau. Mae鈥檔 un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld rhestr, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio o dan y pennawd 鈥楪wiriadau cydymffurfio鈥�.
Os oes angen help arnoch
Os yw鈥檔 bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu鈥檆h iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio 芒 ni, rhowch wybod i鈥檙 swyddog sydd wedi cysylltu 芒 chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio 芒 ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad 芒 chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad 芒 chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai鈥檔 well gennych.
Pryd y gallwn ohirio cosb
Gallwn ohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau dim ond os gallwn osod o leiaf un amod gohirio a fydd yn eich helpu i osgoi cosbau am wallau tebyg yn y dyfodol. Mae鈥檔 rhaid i bob amod fod yn 鈥楽MART鈥�. Mae SMART yn golygu:
- penodol (specific) 鈥� mae鈥檔 rhaid iddo fod yn uniongyrchol gysylltiedig 芒鈥檙 hyn a achosodd y gwall
- mesuradwy (measurable) 鈥� bydd angen i chi ddangos i ni a ydych wedi bodloni鈥檙 amod
- cyraeddadwy (achievable) 鈥� bydd angen i chi ddangos i ni eich bod yn gallu bodloni鈥檙 amod
- realistig (realistic) 鈥� gallwn ddisgwyl yn realistig y byddwch yn bodloni鈥檙 amod
- bod terfyn amser ar waith (time-bound) 鈥� bydd yn rhaid i chi fodloni鈥檙 amod cyn pen y cyfnod gohirio
Gosodir yr amodau SMART hyn ar ben yr amod bod yn rhaid i chi gyflwyno鈥檆h holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.
Os byddwn yn gohirio cosb, ni fydd yn rhaid i chi ei thalu os gallwch ein sicrhau eich bod wedi bodloni鈥檙 holl amodau ar ddiwedd y cyfnod gohirio, ac nad ydych wedi cael cosb arall yn ystod y cyfnod gohirio.
Pryd na allwn ohirio cosb, neu pryd byddwn yn gwrthod ei gohirio
Ni allwn ohirio cosbau am wallau bwriadol, neu wallau bwriadol a chudd.
Ni fyddwn yn gohirio cosbau am wallau esgeulus os na allwn osod unrhyw amodau SMART, neu os ydym o鈥檙 farn ei bod yn annhebygol y byddwch yn cydymffurfio 芒鈥檙 amodau gohirio.
Os ydych yn agored i gosb am wall esgeulus a gododd oherwydd gwnaethoch geisio defnyddio cynllun arbed treth, mae鈥檔 annhebygol y byddwn yn gallu gohirio鈥檙 gosb.
Os ydym yn penderfynu peidio 芒 gohirio cosb, gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i鈥檞 chael yn yr adran 鈥極s ydych yn anghytuno鈥�.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud cyn i ni ohirio cosb
Cyn i ni ohirio cosb, bydd angen i chi gytuno ar amodau gyda ni. Mae鈥檔 bwysig:
- eich bod yn deall yr amodau
- eich bod yn gallu bodloni鈥檙 amodau
- bod yr amodau鈥檔 gymesur 芒 maint y gwall
- bod yr amodau鈥檔 rhoi ystyriaeth i鈥檆h amgylchiadau
- y bydd yn glir i chi, yn ogystal 芒 ni, pan fyddwch wedi bodloni鈥檙 amodau
Yn ogystal 芒 chytuno i amodau SMART penodol i鈥檆h helpu i osgoi gwallau tebyg yn y dyfodol, bydd yn rhaid i chi hefyd gytuno i gyflwyno鈥檆h holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.
Ystyriwch yn ofalus a allwch fodloni鈥檙 amodau cyn i chi gytuno iddynt. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn si诺r am rywbeth. Os oes gennych ymgynghorydd, gallwch ofyn iddo am gymorth. Ar 么l i chi gytuno i鈥檙 amodau a osodwyd gennym, byddwn yn anfon hysbysiad gohirio atoch. Bydd hwn yn dangos yr amodau a鈥檙 cyfnod gohirio.
Sut yr ydym yn pennu hyd y cyfnod gohirio
Bydd hyd y cyfnod gohirio yn dibynnu ar ba mor hir y bydd yn cymryd i chi fodloni鈥檙 amodau gohirio penodol. Y cyfnod gohirio hiraf y mae鈥檙 gyfraith yn ei ganiat谩u yw 2 flynedd, ond fel arfer bydd yn fyrrach na hynny.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn ystod y cyfnod gohirio
Yn ystod y cyfnod gohirio, mae鈥檔 rhaid i chi fodloni鈥檙 amodau yr ydych wedi cytuno iddynt. Yn ogystal, mae鈥檔 rhaid i chi wneud yn si诺r nad ydych yn anfon Ffurflenni Treth eraill sy鈥檔 wallus yn ystod y cyfnod. Gall hyn eich gwneud yn agored i gosb arall am wallau. Os bydd cosb arall am wallau鈥檔 cael ei chodi arnoch yn ystod y cyfnod gohirio, bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 gosb a ohiriwyd yn flaenorol.
Yr hyn fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod gohirio
Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, byddwn yn gofyn i chi a ydych wedi bodloni鈥檙 amodau. Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i ni wirio鈥檆h cofnodion a gofyn am dystiolaeth arall er mwyn gwneud yn si诺r eich bod wedi鈥檜 bodloni. Os ydym yn cytuno eich bod wedi bodloni鈥檙 amodau, byddwn yn dileu鈥檙 gosb. Os ydym yn penderfynu nad ydych wedi bodloni鈥檙 amodau, bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 gosb.
Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am arolwg barnwrol o鈥檔 penderfyniad. Gall hwn fod yn ddrud, felly dylech geisio cyngor cyfreithiol yn gyntaf.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檙 gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi鈥檌 adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 mater cyn hyn
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich ap锚l ac yn penderfynu ynghylch y mater
Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw鈥檙 enw a rown ar hyn.
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy鈥檔 ymwneud 芒 meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檙 gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:
- HMRC1, 鈥楶enderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i鈥檞 wneud os anghytunwch鈥�
- CC/FS21, 鈥楧ull Amgen o Ddatrys Anghydfod鈥�
Ewch i www.gov.uk a chwilio am 鈥楬MRC1鈥� neu 鈥楥C/FS21鈥�.
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi鈥檙 safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu鈥檔 cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am 鈥楬MRC Privacy Notice鈥�.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i鈥檙 person neu鈥檙 swyddfa rydych wedi bod yn delio 芒 nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.