Canllawiau

Anfon cofnodion electronig atom 鈥� CC/FS22

Diweddarwyd 22 Hydref 2021

Rydym wedi rhoi鈥檙 daflen wybodaeth hon i chi am ein bod wedi gofyn i chi anfon rhai o鈥檆h cofnodion electronig atom er mwyn i ni allu eu harchwilio fel rhan o鈥檔 gwiriad cydymffurfio.

Rydym hefyd wedi rhoi un o鈥檔 taflenni gwybodaeth cyffredinol i chi. Dylech ddarllen y daflen wybodaeth yn ofalus gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am roi gwybodaeth a dogfennau i ni.

Gallwch ddarllen y taflenni gwybodaeth eraill yn ein cyfres gwiriadau cydymffurfio (yn Saesneg).

Os oes angen help arnoch

Os yw鈥檔 bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu鈥檆h iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio 芒鈥檙 gwiriad hwn, rhowch wybod i鈥檙 swyddog sydd wedi cysylltu 芒 chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, darllenwch聽gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth 鈥� CC/FS2.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio 芒 ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Er hynny, mae鈥檔 bosibl y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad 芒 chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol yngl欧n 芒 rhai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad 芒 chi, caiff y person hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai鈥檔 well gennych.

Ystyr 鈥榗ofnodion electronig鈥�

Mae cofnodion electronig yn cynnwys gwybodaeth neu ddogfennau sy鈥檔 cael eu gwneud neu鈥檜 storio ar ddyfeisiadau neu systemau electronig 鈥� p鈥檜n ai鈥檔 system fasnachol neu鈥檔 system sydd wedi鈥檌 gwneud ar archeb. Mae hyn yn cynnwys cofnodion sydd wedi鈥檜 gwneud neu sydd wedi鈥檜 storio:

  • ar unrhyw fath o gyfrifiadur, gofrestr arian electronig, neu dil arian
  • gan ddefnyddio meddalwedd gyfrifyddu, cronfeydd data electronig, neu daenlenni

Ni fyddwn yn gofyn i chi drosi eich cofnodion papur i fformat electronig er mwyn i chi eu hanfon atom yn electronig.

Manteision anfon eich cofnodion electronig atom

Bydd yn gyflymach ac yn haws i ni edrych ar eich cofnodion electronig yn ein swyddfa ni. Fel arfer, bydd hyn yn golygu y gallwn roi gwybod i chi鈥檔 gynharach os oes angen i chi anfon unrhyw beth arall atom i gynnal ein gwiriad, neu os oes rhywbeth o鈥檌 le. Bydd hefyd yn arbed amser ac arian i chi, gan na fydd yn rhaid i chi argraffu cop茂au o鈥檙 holl gofnodion yr ydym am eu gweld.

Hefyd, os oes angen i ni ymweld 芒鈥檆h safle neu gyfarfod 芒 chi i drafod ein canfyddiadau fel rhan o鈥檔 gwiriad, dylai hyn gymryd llai o amser a bydd yn caniat谩u i chi fwrw ati i redeg eich busnes.

Os nad ydych am roi eich cofnodion i ni

Dim ond y cofnodion hynny sydd eu hangen arnom i gynnal ein gwiriad y byddwn yn gofyn amdanynt. Pan fyddwn yn gofyn am gofnodion, byddwn yn egluro鈥檙 hyn sydd ei angen arnom a pham.

Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi anfon y cofnodion atom yn wirfoddol, a byddwn yn croesawu unrhyw gymorth a roddwch i ni. Os nad ydych yn anfon y cofnodion yn wirfoddol, gallwn anfon hysbysiad gwybodaeth atoch, sef dogfen sy鈥檔 nodi bod yn rhaid i chi, yn 么l y gyfraith, anfon yr hyn sydd ei angen arnom er mwyn i ni allu gwirio eich sefyllfa dreth. Gall hyn gynnwys cofnodion electronig. I gael rhagor o fanylion am hysbysiadau gwybodaeth, darllenwch聽gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth 鈥� CC/FS2.

Arbenigwyr trin data

Fel arfer, bydd eich cofnodion electronig yn cael eu harchwilio gan un o鈥檔 harbenigwyr trin data. Maent wedi鈥檜 hyfforddi鈥檔 arbennig i helpu i archwilio cofnodion electronig yn ystod gwiriad cydymffurfio.

Fel arfer, yr arbenigwr trin data sy鈥檔 cysylltu 芒 chi i drafod eich cofnodion electronig a鈥檆h systemau. Fodd bynnag, y swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檆h gwiriad cydymffurfio sy鈥檔 bennaf gyfrifol am y gwiriad cydymffurfio.

Diogelu data

Bydd eich cofnodion yn ddiogel gyda ni, a ch芒nt eu trin fel dogfennau cyfrinachol ar bob adeg. Dim ond systemau diogel sydd wedi鈥檜 hamgryptio sy鈥檔 cael eu defnyddio gennym i anfon a storio eich data.

Sut i anfon y cofnodion atom

Gallwch anfon eich cofnodion electronig atom mewn sawl ffordd. Bydd yr arbenigwr trin data neu鈥檙 swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檙 gwiriad cydymffurfio yn s么n mwy wrthych am hyn pan fydd yn cysylltu 芒 chi.

Peidiwch ag anfon unrhyw gofnodion electronig atom nes eich bod wedi cytuno 芒 ni sut y byddwch yn eu hanfon.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi鈥檙 safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu鈥檔 cadw gwybodaeth amdanoch.