Cynlluniau Cyfranddaliadau sy’n rhoi Mantais Dreth i Gyflogeion � Cosbau am beidio â bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth� � CC/FS33
Diweddarwyd 26 Awst 2024
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am gosbau y gallwn eu codi os nad yw’ch cynllun cyfranddaliadau yn bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth�.
Y cynlluniau cyfranddaliadau sy’n rhoi mantais dreth sydd dan sylw yn y daflen wybodaeth hon yw:
- Cynlluniau Cymell Cyfranddaliadau (SIP), Atodlen 2
- Cynlluniau opsiwn Cynilo Wrth Ennill (SAYE), Atodlen 3
- Cynlluniau Opsiwn Prynu Cyfranddaliadau Cwmni (CSOP), Atodlen 4
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheetsâ€�.
Pryd y gallwn godi cosb arnoch am wallau
Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os ydym, ar ôl cynnal gwiriad cydymffurfio, yn gweld nad yw’r cynllun yn bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth�.
Mae swm unrhyw gosb yn dibynnu ar p’un a yw’r gwall yn un ‘difrifol� neu’n ‘llai difrifol�. Wrth benderfynu ar hyn, rydym yn ystyried ffeithiau ac amgylchiadau’r gwall.
Mae gwall ‘difrifol� yn wall sylfaenol neu sylweddol yn rheolau’r cynllun neu yn y modd y caiff y cynllun ei weithredu.
Mae gwall ‘llai difrifol� yn wall y gellir ei unioni drwy ddiwygio neu gywiro rheolau’r cynllun.
Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb
Gwall difrifol
Ar gyfer gwallau difrifol, rydym yn codi cosbau sy’n gysylltiedig â threth fel canran o’r rhyddhad Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a roddir neu sy’n ddyledus ar opsiynau a ganiatawyd i gyflogeion. Yn ôl y gyfraith, gallwn godi hyd at ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ond byddai hyn yn anarferol.
Bydd cosb isaf yn berthnasol. Bydd hyn:
- yn gyfwerth â chyfanswm y Dreth Incwm a’r CYG rydym yn amcangyfrif y byddai wedi bod yn daladwy pe na fyddai’r cynllun wedi’i weithredu mewn modd sy’n rhoi mantais dreth
- ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad pan ddechreuodd y gwall difrifol a dyddiad yr hysbysiad cau, neu’r dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad hwnnw
Wrth bennu swm y gosb, rydym yn ystyried a oedd y datgeliad wedi’i annog neu heb ei annog.
‘Datgeliad heb ei annog� yw pan rydych yn rhoi gwybod i ni am wall cyn bod gennych reswm i gredu ein bod wedi’i ddarganfod, neu ar fin ei ddarganfod. ‘Datgeliad wedi’i annog� yw pan eich bod yn rhoi gwybod i ni am wall ar unrhyw adeg arall.
Unwaith ein bod wedi cychwyn gwiriad, dim ond os yw’r canlynol yn wir yr ystyrir bod datgeliad yn un heb ei annog:
- mae’n ymwneud â gwall amherthnasol
- nid oedd gennych reswm dros gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad
Cyfrifir y gostyngiad yn sgil datgeliad fel a ganlyn:
- datgeliad heb ei annog � caiff uchafswm y gosb ei ostwng i 100% o gyfanswm y dreth a’r CYG a fyddai wedi bod yn daladwy
- datgeliad wedi’i annog � caiff uchafswm y gosb ei ostwng i 150% o gyfanswm y dreth a’r CYG a fyddai wedi bod yn daladwy
- dim datgeliad � bydd y gosb yn parhau i fod ar yr uchafswm
Dyma 2 enghraifft o wallau difrifol ar gyfer datgeliadau ‘heb ei annog� ac ‘wedi’i annog�.
Rydym wedi penderfynu bod y gwall yn ddifrifol a bod y datgeliad heb ei annog
Yn yr enghraifft hon, rydym wedi cyfrifo mai £50,000 yw swm y rhyddhad treth a CYG a roddir.
Mae’r gosb yn seiliedig ar ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG, felly yn yr enghraifft hon, y gosb fyddai £50,000.
Dwywaith swm y rhyddhad treth a CYG | £100,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad heb ei annog o 100% o swm y rhyddhad treth a CYG | £50,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £50,000 |
Rydym wedi penderfynu bod y gwall yn ddifrifol a bod y datgeliad wedi’i annog
Yn yr enghraifft hon, rydym wedi cyfrifo mai £50,000 yw swm y rhyddhad treth a CYG a roddir.
Dwywaith swm y rhyddhad treth a CYG | £100,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad wedi’i annog o 50% o swm y rhyddhad treth a CYG | £25,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £75,000 |
Gwallau llai difrifol
Ar gyfer gwallau llai difrifol rydym yn dechrau gyda’r uchafswm, sef y lleiaf o naill ai £5,000 neu gyfanswm y rhyddhad treth a CYG a roddwyd neu sy’n ddyledus.
Er mwyn cyfrifo’r gosb, rydym yn ystyried a oedd y datgeliad wedi’i annog neu heb ei annog.
Caiff y gosb ei gyfrifo fel a ganlyn:
- datgeliad heb ei annog � caiff y gosb ei ostwng gan 100%
- datgeliad wedi’i annog � caiff y gosb ei ostwng gan 50%
- dim datgeliad � bydd y gosb yn parhau i fod ar yr uchafswm
Enghraifft o wall llai difrifol
Yn yr enghraifft hon, £4,000 yw cyfanswm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus, felly £4,000 yw uchafswm y gosb. Mae’r datgeliad wedi’i annog.
Swm y rhyddhad treth a CYG | £4,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad wedi’i annog o 50% o swm y rhyddhad treth a CYG | £2,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £2,000 |
Pan fyddwn yn ystyried gwall i fod yn wall ‘llai difrifol�, byddwn yn gofyn i chi ‘drwsio� neu gywiro’r gwall. Byddwn yn gofyn i chi wneud hyn cyn pen 90 diwrnod i un o’r canlynol:
- diwedd cyfnod apelio’r penderfyniad
- y dyddiad y caiff unrhyw apêl yn erbyn y penderfyniad ei bennu neu ei dynnu’n ôl
Os na fyddwch yn cywiro’r gwallau hyn, byddwn yn codi cosb bellach arnoch. Bydd hon yn seiliedig ar swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ar ddyfarniadau cyfranddaliadau neu opsiynau a ganiatawyd i gyflogeion. Yn ôl y gyfraith, mae uchafswm y gosb y gallwn ei chodi yn ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ond byddai hyn yn anarferol.
Caiff y gosb bellach hon ei chyfrifo yn yr un modd â ‘cosb ddifrifol�.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i apelio, ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEFâ€�, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Arweiniad eraillâ€� am ‘HMRC1â€�.
Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau penodol. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r hawliau hyn yn berthnasol ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau�.
Ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEFâ€�, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Gwiriadau Cydymffurfioâ€�.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra supportâ€�, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘HMRC Privacy Noticeâ€�, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.Â
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.