Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth � CC/FS2
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Rydym wedi anfon y daflen wybodaeth hon atoch gan ein bod wedi anfon hysbysiad gwybodaeth atoch.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘HMRC Compliance checks factsheetsâ€�.
Beth yw hysbysiad gwybodaeth
Mae hysbysiad gwybodaeth yn ddogfen sy’n ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berson roi gwybodaeth a/neu ddogfennau penodol i ni. Gallwn anfon hysbysiad atoch er mwyn gwirio’ch sefyllfa dreth neu ein helpu i gasglu dyled treth.
Pa bryd y byddwn yn defnyddio hysbysiad gwybodaeth
Os ydym yn gwirio’ch sefyllfa dreth, byddwn fel arfer yn gofyn i chi helpu drwy roi i ni’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnom. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn anfon hysbysiad gwybodaeth atoch.
O dan rai amgylchiadau, gallwn ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth gymeradwyo bod hysbysiad gwybodaeth yn gallu cael ei anfon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r hysbysiad a anfonwn atoch wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i ni anfon hysbysiad gwybodaeth heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Yr hyn y bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn ei gynnwys
Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:
- pa ddogfennau a/neu wybodaeth y bydd angen i chi eu rhoi i ni
- sut a phryd i roi’r hyn sydd ei angen arnom
- unrhyw hawl sydd gennych i apelio
Yr hyn y gallwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Gallwn ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau os credwn eu bod yn berthnasol i’n gwiriad a’i fod yn rhesymol i ofyn amdanynt.
Yr hyn na allwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Ni allwn ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth i ofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni os yw’r canlynol yn wir:
- nad ydynt yn eich meddiant ac nad oes modd i chi gael y dogfennau, na chopïau ohonynt, gan bwy bynnag sy’n eu dal
- maent yn perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn i ni anfon yr hysbysiad
- maent wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
- maent yn ymwneud yn gyfan gwbl â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol rhywun
- maent yn ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid at ddibenion cael cyngor cyfreithiol neu roi cyngor cyfreithiol
- rydych yn archwiliwr, yn ymgynghorydd treth neu’n newyddiadurwr a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu at ddibenion eich proffesiwn
- rydych yn destun deunydd newyddiadurol a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr at ddibenion ei broffesiwn
Gall y rheolau ynghylch pa wybodaeth a dogfennau sy’n syrthio i’r categorïau hyn, yn enwedig gohebiaeth freintiedig neu bersonol, fod yn gymhleth. Os ydych yn credu y gallai unrhyw beth yr ydym wedi gofyn amdano syrthio i’r categorïau hyn, dylech drafod hynny â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth
Rhowch wybod i’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch os ydych o’r farn bod y cais yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad. Bydd y swyddog yn ystyried yn ofalus yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Os yw’n dal i gredu bod angen yr wybodaeth a/neu’r ddogfen arno, bydd yn rhoi rheswm i chi dros hynny. Os ydych yn dal i feddwl bod y cais yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad, gallwch apelio ar y tribiwnlys annibynnol sy’n delio ag apeliadau treth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth sydd naill ai wedi’i gymeradwyo gan dribiwnlys annibynnol neu sy’n gais am gofnodion statudol. Ni allwch apelio yn erbyn y rhain os maent yn berthnasol i’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
- mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes
Cofnodion statudol yw’r cofnodion y mae’n rhaid i berson eu cadw yn ôl cyfreithiau treth. Os oes angen mwy o amser arnoch i roi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, dylech gysylltu â’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch.
Gofyn i berson arall am wybodaeth amdanoch chi
Os na allwch neu na os fyddwch yn rhoi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, efallai y bydd angen i ni ei gael gan berson arall. Os mai dyma’r achos, byddwn fel arfer yn gofyn am eich caniatâd cyn ein bod yn cysylltu â’r person arall.
Os byddwn yn gofyn i berson arall am wybodaeth, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth arall amdanoch heblaw’r hyn sy’n angenrheidiol i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Os byddwn yn gofyn am eich caniatâd ac nad ydych am ei roi, nid oes rhaid i chi wneud hynny. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi egluro pam. Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, a bod angen i ni gael yr wybodaeth o hyd, byddwn yn gofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo bod hysbysiad gwybodaeth yn gallu cael ei anfon.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i ni anfon hysbysiad gwybodaeth i berson arall heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Nid oes angen eich cymeradwyaeth chi na chymeradwyaeth y tribiwnlys arnom os oes angen i ni ofyn i berson arall am gofnodion statudol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
- mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes
Yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth drwy roi popeth i ni mae’r hysbysiad gwybodaeth yn gofyn amdano, gallwn godi cosb o £300 arnoch.
Os ydych yn dal i fod heb gydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni anfon y gosb o £300, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol arnoch. Gall y cosbau hyn fod hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio. Mae’n bosibl y byddwn wedyn yn codi cosb arnoch sy’n seiliedig ar swm y dreth sydd arnoch i ni. Mae’n rhaid i’r math hwn o gosb gael ei awdurdodi gan y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth.
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os ydym yn cytuno bod gennych esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth. Fodd bynnag, byddwn yn dal i ofyn i chi roi’r wybodaeth, dogfennau (neu’r dogfennau cyfnewid) o fewn amserlen y cytunwyd arni.
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.
Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Mae hyn yn golygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:
- rydych wedi bod yn ddifrifol wael
- mae rhywun agos atoch wedi marw
- rydych wedi colli’r dogfennau mewn tân neu lifogydd
Cosbau am gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau anghywir
Os ydych yn rhoi gwybodaeth wallus i ni, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys gwallau, a hynny’n fwriadol neu’n ddiofal, gallwn godi cosb arnoch. Gall y gosb hon fod hyd at £3,000 ar gyfer pob anghywirdeb. Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gwall ar yr adeg pan fyddwch yn rhoi’r wybodaeth neu’n cyflwyno’r ddogfen i ni. Os ydych yn dod ar draws gwall yn nes ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.
Cuddio, dinistrio neu fel arall waredu dogfennau
Mae’n bosibl y codwn gosb arnoch os byddwch chi, neu berson arall sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cuddio, yn dinistrio neu’n gwaredu unrhyw ddogfen yr ydym:
- wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
- wedi nodi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
Mae’n drosedd i guddio, dinistrio neu waredu dogfen yr ydym:
- wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
- wedi rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych chi, neu berson arall sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cyflawni’r drosedd hon.
Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn, os byddwch yn:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- cam-gyfleu mewn ffordd anonest eich rhwymedigaeth treth, neu wneud cais am daliadau nad oes gennych hawl iddynt
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol
Gallwch hefyd ofyn i berson arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff y person hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘HMRC Privacy Noticeâ€�, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.