Beth mae ar gymdeithasau masnach angen gwybod am gyfraith cystadleuaeth?
Cyhoeddwyd 25 Medi 2014
Gwybodaeth y mae ar gymdeithasau masnach angen gwybod am gyfraith cystadleuaeth.
Mae cymdeithasau masnach yn chwarae rhan bwysig o ran hyrwyddo buddiannau eu haelodau. Fodd bynnag, os defnyddir cymdeithas fasnach fel ffordd i greu neu annog trosedd ar gyfraith cystadleuaeth, yna gallai鈥檙 gymdeithas a鈥檌 haelodau wynebu golygiadau difrifol.
Pethau y dylech eu gwneud
- cofio y gall y gymdeithas ei hun fod yn atebol o ran toriadau cyfraith cystadleuaeth, ac y gall hyn arwain at oblygiadau ariannol ac enw da i鈥檙 gymdeithas
- sefydlu polisi cydymffurfiad cystadleuaeth i鈥檙 gymdeithas, a sicrhau bod aelodau yn gyfarwydd 芒 hyn
- gofyn i aelodau adael, ac i adrodd i鈥檙 gymdeithas neu鈥檙 CMA am unrhyw gyfarfodydd gyda chystadleuwyr ble trafodir gwybodaeth sy鈥檔 gystadleuol sensitif
- sicrhau bod unrhyw amodau a thelerau contract safonol a ddatblygir gan y gymdeithas yn glir, hawdd i鈥檞 deall, mewn iaith blaen ac yn deg i ddefnyddwyr
- sicrhau bod rheolau a meini prawf mynediad i鈥檙 gymdeithas yn dryloyw, cymesur, anwahaniaethol ac yn seiliedig ar safonau gwrthrychol
- sicrhau bod y gofynion ar gyfer unrhyw gynlluniau ardystio ansawdd mae鈥檙 gymdeithas yn eu gweithredu yn deg, rhesymol ac ar gael i bob busnes sy鈥檔 eu bodloni
Pethau na ddylech eu gwneud
- cael rheolau sy鈥檔 atal yr aelodau rhag gwneud penderfyniadau masnachol annibynnol
- gadael i鈥檙 gymdeithas fod yn sianel ar gyfer, neu hwyluso mewn unrhyw ffordd, rhannu gwybodaeth gystadleuol sensitif rhwng aelodau am brisio, cwsmeriaid neu gynlluniau allbwn
- caniat谩u i aelodau drafod gwybodaeth gystadleuol sensitif yn neu o amgylch digwyddiadau鈥檙 gymdeithas, yn cynnwys mewn 鈥榗yfarfodydd answyddogol鈥� neu mewn digwyddiadau cymdeithasol
- cyhoeddi argymhellion prisio neu allbwn ffurfiol nac anffurfiol i aelodau
- datblygu rheolau neu arferion y gymdeithas sy鈥檔 cyfyngu aelodau rhag hysbysu eu prisiau neu ostyngiadau, ceisio sicrhau busnes neu gystadlu fel arall gydag aelodau eraill
- gofyn i aelodau ddarparu鈥檙 gymdeithas 芒 gwybodaeth gystadleuol sensitif, fel gwybodaeth am brisio ac/neu fwriadau allbwn
- cyhoeddi negeseuon yn awgrymu bod prisiau is yn golygu ansawdd is
- sefydlu rheolau amherthnasol neu fympwyol ar gyfer derbyn aelodau newydd
- mabwysiadu rheolau sy鈥檔 cyfyngu arferion busnes hysbysebu a hyrwyddo aelodau, tu hwnt i sicrhau fod yr arferion yn gyfreithlon, gwir ac nad ydynt yn camarwain
- atal aelodau rhag defnyddio gwahanol amodau cytundebol i unrhyw amodau safonol a ddatblygwyd gan y gymdeithas, os dymunant wneud hynny
Beth yw gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol?
Mae gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol yn cwmpasu unrhyw wybodaeth strategol nad yw鈥檔 gyhoeddus am bolisi masnachol busnes. Mae鈥檔 cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, gynlluniau prisio ac allbwn yn y dyfodol. Mae gwybodaeth fasnachol hanesyddol yn llawer llai tebygol o fod yn gystadleuol sensitif, yn arbennig os na ellir adnabod gweithgareddau masnachol busnesau unigol.
Am ragor o wybodaeth ar gydymffurfio a thrugaredd: /cartels-price-fixing/report-anticompetitive-activity
Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.