Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y CMA 2022 i 2023
Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Dogfennau
Manylion
Mae鈥檙 adroddiad blynyddol a chyfrifon yn rhoi crynodeb o berfformiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023, gan dynnu sylw at ein prif gyflawniadau. Bydd ein strategaeth newydd, a gyhoeddwyd yn gynharach y flwyddyn hon, yn sail i鈥檔 hadroddiadau blynyddol yn y dyfodol ac mae eisoes wedi bod yn llywio ein gwaith yn ystod camau diwethaf cyfnod adrodd 2022/23.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae鈥檙 canlynol:
- Am bob 拢1 y gwnaethom ei gwario ar ein costau gweithredu, roedd y budd ariannol i gwsmeriaid dros y tair blynedd diwethaf yn 拢26 ar gyfartaledd. Mae hyn yn uwch o lawer na鈥檙 targed o 拢10 a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Dros y cyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2023, amcangyfrifir bod y budd ariannol uniongyrchol i ddefnyddwyr o waith y CMA yn 拢8 biliwn.
- Lansio ein strategaeth newydd ar gyfer y tymor canolig a鈥檔 blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo marchnadoedd cystadleuol a mynd i鈥檙 afael ag ymddygiad annheg.
- Diogelu pobl, busnesau ac economi鈥檙 DU drwy fwrw ymlaen 芒 gwaith mewn ymateb i鈥檙 costau byw cynyddol er enghraifft. Roedd hyn yn cynnwys lansio prosiect i ystyried prisiau bwyd mewn archfarchnadoedd, cynnal astudiaeth o鈥檙 farchnad tanwydd ffordd a lansio astudiaeth o鈥檙 farchnad ar adeiladu tai. Gwnaethom hefyd roi miloedd o bunnoedd o ddirwyon i gwmn茂au adeiladu am dorri cyfraith cystadleuaeth yn ystod y cyfnod hwn.
- Lansio鈥檙 Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau a sefydlu Swyddfa鈥檙 Farchnad Fewnol, sydd bellach yn cefnogi gweithrediad llwyddiannus y farchnad fewnol ac yn cynghori awdurdodau cyhoeddus ar eu hasesiadau o gymorthdaliadau. Rydym hefyd yn parhau i weithredoli鈥檙 Uned Marchnadoedd Digidol a pharatoi i gael pwerau newydd o dan y Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr, a gyflwynwyd i鈥檙 Senedd ym mis Ebrill 2023, sydd 芒鈥檙 nod o roi鈥檙 pwerau sydd eu hangen ar y CMA i weithredu cyfundrefn statudol o blaid cystadleuaeth ar gyfer marchnadoedd digidol.
Mae鈥檙 CMA hefyd wedi cyhoeddi ei asesiad o effaith ar gyfer 2022 i 2023, sy鈥檔 sail i鈥檙 ffigurau ar gyfer buddiannau ariannol i ddefnyddwyr.