Newid manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Defnyddiwch y ffurflen CCL2A i roi gwybod i CThEM am unrhyw newidiadau i fanylion partneriaeth ar gyfer busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Dogfennau
Manylion
I roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am newidiadau i fanylion partneriaeth ar gyfer busnes sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL), gallwch naill ai:
- defnyddio鈥檙 gwasanaeth ffurflen ar-lein
- llenwi鈥檙 ffurflen ar y sgr卯n, ei hargraffu a鈥檌 phostio i CThEM
Er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth.
Bydd angen eich Rhif Cofrestru Masnachwr ar gyfer Gohiriad arnoch i lenwi鈥檙 ffurflen hon. O dan y rhif 13 digid hwn mae masnachwyr, sydd wedi鈥檜 cofrestru, yn rhoi cyfrif am eu holl fusnes gyda CThEM.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol.聽Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd yn rhaid i chi lenwi鈥檙 ffurflen argraffu ac anfon yn ei chyfanrwydd cyn y gallwch ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi鈥檌 llenwi鈥檔 rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau鈥檌 llenwi.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y ffurflen CCL2 i ddatgan manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd a chyfraddau cefnogaeth pris carbon Ardoll Newid yn yr Hinsawdd i鈥檞 chael yn Hysbysiad Ecs茅is CCL1/1.