Papur polisi

Bargen Ddinesig: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar Fargen Ddinesig gwerth 拢1.2 biliwn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru a 10 awdurdod lleol arall

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg arweinydd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae鈥檔 cynnwys:

  • 拢1.2 biliwn o fuddsoddiad yn seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy Gronfa Fuddsoddi 20 mlynedd.

  • Sefydlu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol i gydlynu鈥檙 cynllunio a鈥檙 buddsoddi mewn trafnidiaeth, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru.

  • Datblygu galluoedd ym maes Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

  • Sefydlu Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

  • Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd gyda鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cynllunio鈥檙 gefnogaeth i gyflogaeth yn y dyfodol, o 2017 ymlaen, ar gyfer pobl sydd 芒 chyflwr iechyd neu anabledd a/neu sy鈥檔 ddi-waith yn y tymor hir.

  • Bydd Sefydliad Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei sefydlu i sicrhau bod un llais yn gweithredu dros fusnes i weithio gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol.

  • Mae Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymrwymo i ddull partneriaeth newydd o adfywio a datblygu tai. Bydd hyn yn sicrhau bod cymunedau cynaliadwy鈥檔 cael eu creu, drwy ddefnyddio ac ailddefnyddio eiddo a safleoedd.

Cafodd y fargen ei llofnodi yng Nghaerdydd ar 15 Mawrth 2016 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands, arweinwyr y cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2016

Argraffu'r dudalen hon