Newyddion y Comisiwn Elusennau: Medi 2024
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Canllawiau newydd a gwell ar gyfer ymddiriedolwyr
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon rydym wedi diweddaru sawl darn o ganllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr, gan eu gwneud yn haws i鈥檞 darllen, eu deall a鈥檜 rhoi ar waith. Rydym wedi blaenoriaethu meysydd llywodraethu sy鈥檔 berthnasol i bob digwyddiad a phob menter. Rydyn ni eisiau helpu ymddiriedolwyr i wella eu gwybodaeth, ac yn ei dro lywodraethu eu prosiectau. Rydyn ni yma i gefnogi ymddiriedolwyr i gael pethau鈥檔 iawn.
Darllenwch eich canllawiau a ddiweddarwyd ar wneud penderfyniadau ymddiriedolwyr, gwella cyllid eich elusen a sut i gynnal cyfarfodydd.
Gwiriwch eich gwybodaeth 鈥� cymerwch ein cwis newydd
Yn dilyn llwyddiant cwis ymddiriedolwyr y llynedd, y mis hwn rydym wedi lansio ein cwis newydd a diweddar. Mae鈥檔 cynnwys set newydd o gwestiynau, sy鈥檔 galluogi ymddiriedolwyr i brofi eu gwybodaeth yn erbyn ystod o bynciau llywodraethu pwysig.
Mae gwneud y cwis yn ffordd gyflym a hawdd o鈥檆h helpu chi fel ymddiriedolwr i ddarganfod ble y gallai fod angen i chi wella鈥檆h gwybodaeth. Mae鈥檙 Comisiwn yn rhoi arweiniad ar yr holl bynciau dan sylw, gyda rhai yn cynnwys fersiynau byr 5 munud a fideos.
Gwelwch sut rydych chi鈥檔 sgorio a chymharwch eich sgorau 芒鈥檆h cyd-ymddiriedolwyr!
Cymerwch ran yn Wythnos Ymddiriedolwyr 2024
Ymunwch 芒 ni rhwng 4-8 Tachwedd ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr 2024 i ddathlu鈥檙 gwaith hanfodol y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud.
Cofrestrwch heddiw ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos, a gynlluniwyd i helpu datblygu eich sgiliau. Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a rhannwch yn y dathliad trwy basio鈥檙 neges ymlaen trwy eich cyfathrebiadau eich hun. Gallwch lawrlwytho logos ac asedau creadigol gan ddefnyddio ein pecyn cymorth cefnogwyr.
Edrychwn ymlaen at ddathlu, cefnogi ac ysbrydoli ymddiriedolwyr.
Cyflwyno eich ffurflen flynyddol
Rhaid i gwmn茂au cofrestredig yng Nghymru neu Loegr anfon ffurflen flynyddol i鈥檙 Comisiwn Elusennau neu adrodd ar eu hincwm a gwariant bob blwyddyn.
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen flynyddol o fewn 10 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol.
Er enghraifft, os mai 31 Rhagfyr 2023 oedd diwedd eich blwyddyn ariannol, eich dyddiad cau yw 31 Hydref eleni.