Newyddion y Comisiwn Elusennau: Chwefror 2023
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau
Llynedd gwnaethom roi gwybod i chi ein bod yn cyflwyno proses mewngofnodi newydd, gwell i elusennau a鈥檜 hymddiriedolwyr gael mynediad i鈥檔 gwasanaethau ar-lein. Bydd y ffordd newydd hon o fewngofnodi trwy Gyfrifon Comisiwn Elusennau unigol.
Rydym wedi dechrau gwahodd elusennau i sefydlu eu cyfrifon cyn eu lansio yn ddiweddarach eleni.
Beth sydd angen i chi wneud nawr i baratoi
- Gwiriwch fod manylion eich elusen yn gyfredol, gan gynnwys pwy yw eich cyswllt elusen fel ein bod yn cyrraedd y person cywir. Gallwch wirio hyn trwy fewngofnodi i鈥檔 gwasanaethau ar-lein
- Os mai chi yw cyswllt yr elusen, sicrhewch bod gennym gyfeiriad e-bost ar eich cyfer chi yn unig
- Sicrhewch fod eich dyddiad geni yn gywir ac yn cyfateb i鈥檙 un sydd gennym ar gofnod ar hyn o bryd. Byddwn yn defnyddio eich dyddiad geni i wirio pwy ydych chi
- Chwiliwch am e-byst y Comisiwn Elusennau (gwiriwch eich ffolderi sothach/sbam, rhag ofn) a gosodwch eich cyfrif pan fyddwch yn derbyn eich dolen
- I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllaw ar Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau
Sefydlu 鈥楩y Nghyfrif Comisiwn Elusennau鈥� 鈥� GOV.鈥婾K
/guidance/setting-up-my-charity-commission-account
Datganiad Blynyddol ar gyfer 2023
Mae鈥檙 Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi set o gwestiynau wedi鈥檜 diweddaru y bydd angen i lawer o elusennau eu cwblhau fel rhan o鈥檜 Datganiad Blynyddol 2023.
Rydym yn gwneud hyn drwy ofyn mwy o gwestiynau i elusennau er mwyn creu darlun manylach o鈥檙 risgiau i elusennau unigol a鈥檙 sector cyffredinol.
Mae nifer o newidiadau a gwelliannau wedi鈥檜 gwneud o ganlyniad i adborth a dderbyniwyd gan elusennau a phart茂on sydd 芒 diddordeb yn ystod ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Medi 2022. Ni fydd hyn yn newid y cwestiynau a ofynnir ar gyfer Datganiad Blynyddol 2022.
Darganfyddwch pa gwestiynau y gellir eu gofyn i chi.
Cefnogaeth i Ymddiriedolwyr
Os ydych yn ymddiriedolwr newydd neu brofiadol, bydd ein cyfres o ganllawiau 5 munud yn eich helpu i fod yn sicr o鈥檆h cyfrifoldebau ac yn hyderus eich bod yn gwneud y peth iawn i鈥檆h elusen. Dyma rai o鈥檙 cwestiynau y gallwn eich helpu i鈥檞 hateb yn hyderus:
- Gallech chi weld gwrthdaro buddiannau a鈥檌 reoli?
- Ydy pob penderfyniad yn helpu eich elusen gyda鈥檌 chenhadaeth?
- Oes mwy y gallwch wneud i atal twyll?
- Gallech chi fod yn crwydro i mewn i weithgareddau nad yw eich elusen wedi鈥檌 sefydlu i鈥檞 wneud?
- Sut mae eich elusen yn cadw pawb yn ddiogel rhag niwed?
- Ydy eich elusen yn rhoi gwybod am y pethau iawn ar yr amser iawn?
Dweud eich dweud ar ein hymgynghoriad ar ddefnydd elusennau o gyfryngau cymdeithasol
Mae鈥檙 Comisiwn Elusennau yn ymgynghori ag elusennau, sefydliadau鈥檙 sector a鈥檙 cyhoedd i ddatblygu canllawiau newydd i elusennau pan fyddant yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau drafft, a fwriedir i:
- Helpu ymddiriedolwyr i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn briodol ac yn hyderus
- Ddeall eu cyfrifoldebau a rheoli鈥檙 risgiau
- Annog nhw i fabwysiadu polisi cyfryngau cymdeithasol
- Helpu ymddiriedolwyr i ddeall beth i鈥檞 wneud os bydd materion yn codi, er enghraifft os yw cynnwys problemus yn cael ei bostio naill ai gan yr elusen neu gan rywun sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 elusen
Dweud eich dweud.
Canllaw drafft: defnydd elusennau o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol - 188体育 (www.gov.uk)
Amddiffyn eich elusen rhag y risg o seiber-droseddu
Mae鈥檙 Ganolfan Seiber-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi rhyddhau adroddiad newydd sy鈥檔 manylu ar risgiau seiber-droseddu i elusennau. Mae mwyafrif helaeth twyll nawr yn cael ei gyflawni ar-lein.
I鈥檆h helpu i ddiogelu eich elusen, mae gan yr NCSC amrywiaeth o offer, gan gynnwys pecyn hyfforddi e-ddysgu: 鈥楥adw鈥檔 Ddiogel Ar-lein: awgrymiadau da i staff鈥�. Mae鈥檔 rhad ac am ddim, yn hawdd i鈥檞 ddefnyddio ac yn cymryd llai na 30 munud i鈥檞 gwblhau.
Mae鈥檙 hyfforddiant yn esbonio pam mae seiber-ddiogelwch yn bwysig a sut mae ymosodiadau鈥檔 digwydd. Yna mae鈥檔 cwmpasu 4 maes allweddol:
- amddiffyn eich hun rhag gwe-rwydo
- defnyddio cyfrineiriau cryf
- diogelu eich dyfeisiau
- adrodd ar ddigwyddiadau
Osgoi treth: peidiwch 芒 chael eich dal allan
Mae HMRC eisiau helpu elusennau sy鈥檔 defnyddio contractwyr i ddeall eu trefniadau cyflog i sicrhau nad yw eu cyflenwyr yn cael unrhyw filiau treth annisgwyl.
Mae ymgyrch 鈥極sgoi treth 鈥� peidiwch 芒 chael eich dal allan鈥� gan HMRC yn helpu contractwyr i wirio faint maent yn cael ei dalu, a allai eu contract gynnwys osgoi treth, a sut i adnabod yr arwyddion rhybudd.
Mae HMRC yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i roi鈥檙 offer iddynt addysgu鈥檙 contractwyr sy鈥檔 gweithio iddynt am y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth.