Newyddion y Comisiwn Elusennau: Mawrth 2022
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Argyfwng Wcr谩in
Mae鈥檙 sefyllfa yn Wcr谩in yn newid yn gyflym. Rydym yn cydnabod yr her gymhleth mae hyn yn ei rhoi i elusennau sy鈥檔 ymateb i鈥檙 argyfwng gartref neu dramor. Rydym wedi nodi ein canllawiau ar y cwestiynau a ofynnir yn fwyaf aml a byddwn yn adolygu鈥檙 canllawiau hyn yn rheolaidd.
Byddwch yn sicr mewn amserau ansicr
Mae ein hymgyrch ddiweddaraf oedd 芒鈥檙 nod i helpu ymddiriedolwyr i adnewyddu eu gwybodaeth ynghylch eu dyletswyddau hanfodol yn mynd yn fyw yr wythnos hon. Mae鈥檔 arddangos cyfres y Comisiwn o ganllawiau 5-munud a luniwyd i roi gwybodaeth hawdd-ei-deall i ymddiriedolwyr ar yr holl faterion llywodraethu sylfaenol. Ehangwyd y gyfres hon ym mis Tachwedd, gyda chyflwyno canllaw ar Ddiogelu.
Eleni, fel rhan o鈥檔 hymrwymiad parhaus i helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau鈥檔 effeithiol, rydym hefyd yn lansio set o fideos wedi鈥檜 hanimeiddio sy鈥檔 esbonio鈥檙 pwyntiau allweddol o bob un o鈥檔 canllawiau.
Gwyliwch y cyntaf yn y gyfres newydd nawr.
Y bil elusennau: y newyddion diweddaraf am y camau gweithredu
Yn hwyr y mis diwethaf, derbyniodd Deddf Elusennau 2022 Gydsyniad Brenhinol, a鈥檌 gwneud yn gyfraith.
Rydym yn croesawu darpariaethau鈥檙 ddeddfwriaeth, sydd 芒鈥檙 nod o wneud bywyd yn haws i ymddiriedolwyr, gan eu helpu i gynyddu鈥檙 buddion mae eu helusen yn eu rhoi. Dysgwch beth mae鈥檔 ei olygu i鈥檆h elusen a sut mae鈥檔 debygol y bydd y newidiadau鈥檔 cael eu gweithredu.
Bygythiad seiber yn cynyddu
Mae鈥檙 llywodraeth yn rhybuddio sefydliadau, gan gynnwys elusennau, i fod yn wyliadwrus oherwydd ymosodiadau seiber posibl.
Nid yw鈥檙 Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol yn ymwybodol o unrhyw fygythiadau seiber penodol i elusennau鈥檙 DU mewn perthynas 芒 goresgyniad Wcr谩in gan Rwsia.
Fodd bynnag, tra bod y sefyllfa yn Wcr谩in yn aros yn anwadal, anogir elusennau鈥檔 gryf i ddilyn y camau posibl i鈥檞 gweithredu yng nghanllawiau鈥檙 Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol sy鈥檔 lleihau鈥檙 risg o ddioddef ymosodiad.
.
Datganiad Blynyddol 2022
Disgwylir i鈥檙 Datganiad Blynyddol ar gyfer 2022 gael ei lansio ar ddiwedd Ebrill. Argymhellir bod elusennau sy鈥檔 gallu ffeilio鈥檔 gynnar yn gwneud hynny.
Ar 么l adborth gan ymddiriedolwyr, rydym wedi diweddaru ein canllawiau i elusennau sy鈥檔 gweithio y tu allan i Loegr a Chymru.
Mae鈥檙 testun nawr yn egluro ardal gweithredu fel y man lle mae elusen yn darparu ei diben.
Er enghraifft, os bydd elusen 芒鈥檌 chanolfan yn Llundain yn rhedeg cartref plant amddifad yn Romania, dylid cofnodi ei ardal gweithredu fel Romania.
Mae鈥檙 un peth yn gymwys ar gyfer elusennau鈥檔 sy鈥檔 darparu cyllid neu grantiau i sefydliadau eraill y tu allan i Loegr a Chymru.
Felly, os bydd elusen yng Nghaerdydd yn rhoi grant i NGO lleol yn Yemen i adeiladu ysgol, cofnodir ei hardal gweithredu fel Yemen.
Fodd bynnag, nid yw elusen sy鈥檔 rhoi rhodd neu grant cyffredinol i elusen arall sydd wedi鈥檌 chofrestru a all weithredu dramor yn cyfrif fel elusen sy鈥檔 gweithredu dramor.
Elusennau a鈥檙 cyflog isafswm cenedlaethol
Mae CThEM yn atgoffa elusennau sy鈥檔 ymgysylltu 芒 nifer o wahanol fathau o weithwyr i wybod pryd mae hawl gan weithiwr i Gyflog Isafswm Cenedlaethol. Bydd hyn yn dibynnu a ystyrir unigolyn fel gweithiwr, gwirfoddolwr neu weithiwr gwirfoddol.
Dylid rhoi sylw arbennig i unrhyw wirfoddolwyr a delir swm enwol llawer mwy na m芒n dreuliau dilys. Mae unrhyw daliad, naill ai arian parod, buddion mewn nwyddau neu addo taliad yn y dyfodol yn debygol o olygu ei fod yn weithiwr i ddibenion cyflog isafswm ac felly dylid rhoi t芒l am yr holl oriau a weithir.
Diweddaiadu i鈥檙 Siartr Gwybodaeth Bersonol
Mae Ein Siartr Gwybodaeth Bersonol yn dweud wrthych pan fyddwn yn prosesu鈥檆h data personol, pam, a beth sy鈥檔 digwydd 芒 hi. Rydym wedi鈥檌 ddiweddaru鈥檔 ddiweddar 芒 rhagor o fanylion am yr hyn sy鈥檔 digwydd i鈥檆h data personol pan fyddwch yn ffonio ein canolfan gyswllt.