Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Gorffennaf 2019

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Caiff Newyddion y Comisiwn Elusennau ei e-bostio at gysylltiadau elusennau gyda chyfarwyddyd i鈥檞 anfon ymlaen at eu hymddiriedolwyr. Mae鈥檔 cynnwys gwybodaeth hanfodol am reoleiddio y mae angen i elusennau fod yn ymwybodol ohoni.

Chwythwyr chwiban elusennau: sut a pham rydym yn eu gwerthfawrogi

Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb i ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer pob aelod o staff a gweithwyr elusennau eraill. Dylai amddiffyn pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth llywodraethu i bob elusen.

Mae diwylliant effeithiol o gadw pobl yn ddiogel yn nodi, yn atal ac yn mynd i鈥檙 afael 芒 mathau o ymddygiad sy鈥檔 diystyru neu鈥檔 anwybyddu niwed i bobl ac yn gorchuddio neu鈥檔 bychanu methiannau. Dylai methu 芒 diogelu pobl rhag niwed gael ei nodi, ei adrodd i reoleiddwyr a dylid dysgu gwersi ehangach.

Pan fydd pryderon yn cael eu codi o fewn eich elusen mae鈥檔 hollbwysig bod pobl yn gwrando arnynt ac y gweithredir arnynt cyn y gallant achosi niwed.

Mae angen bod yn ddewr i godi pryderon, ac mae鈥檙 rhai sydd yn codi pryderon yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif a鈥檜 trin 芒 pharch a sensitifrwydd. Dyma pam rydym yn ei gwneud hi鈥檔 haws i weithwyr elusennau a gwirfoddolwyr dynnu pryderon difrifol am eu helusen at ein sylw.

Rydym wedi bod yn uwchraddio ein cymorth ar gyfer chwythwyr chwiban posibl dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi:

  • symleiddio鈥檙 broses ac ailysgrifennu ein canllawiau er mwyn iddynt fod yn haws i鈥檞 dilyn
  • agor linell gyngor a weithredir gan yr elusen chwythu鈥檙 chwiban Protect
  • dechrau profi gwasanaeth newydd lle y byddwn yn cysylltu 芒 phob chwythwr chwiban yn uniongyrchol i drafod ei bryderon

Darllenwch ragor yn y blog gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson CBE .

Canllawiau newydd i elusennau sydd 芒 chysylltiad 芒 sefydliad nad yw鈥檔 elusen

Os oes gan eich elusen gysylltiad agos 芒 sefydliad nad yw鈥檔 elusen - megis ei sylfaenydd, is-gwmni masnachu, neu bartner rheolaidd - mae鈥檔 rhaid i chi reoli鈥檙 cysylltiad er lles gorau eich elusen a diogelu ei hannibyniaeth. Mae鈥檔 rhaid i chi gynllunio ar gyfer y risgiau yn ogystal 芒鈥檙 buddion y gall y cysylltiad eu creu.

Bydd ein canllawiau newydd ar gyfer elusennau sydd 芒 chysylltiad 芒 sefydliad nad yw鈥檔 elusen yn eich helpu i wneud hyn. Mae鈥檔 dwyn ynghyd cyfraith ac ymarfer perthnasol, gan amlinellu 6 egwyddor i helpu ymddiriedolwyr i redeg ac adolygu鈥檙 cysylltiadau hynny.

Mae鈥檔 dilyn pryderon bod rhai perthnasoedd rhwng elusennau a sefydliadau nad ydynt yn elusennau wedi niweidio hyder cyhoeddus mewn elusennau. Bydd hefyd yn ein helpu ni, fel y rheoleiddiwr, i ddal elusennau i gyfrif yn well yn erbyn y rheolau sy鈥檔 bodoli.

Seiberdroseddu ac adrodd i鈥檙 Comisiwn Elusennau

Yn ddiweddar cyhoeddwyd rhybudd i鈥檙 sector elusennol ynghylch seiberdroseddu a sut i鈥檞 adrodd i ni.

Mae nifer o ddiffiniadau ar gyfer seiberdroseddu ond fel arfer bydd yn cynnwys ymosodiadau ar neu drwy systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Yn aml mae鈥檔 cynnwys dwyn data neu amharu ar systemau er mwyn galluogi troseddu pellach.

Yn dibynnu ar natur y troseddau hyn, gall ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr elusennau gael eu heffeithio鈥檔 niweidiol. Gallai cyhoeddusrwydd negyddol hefyd gael effaith ar ffydd a hyder cyhoeddus nid yn unig yn yr elusen a effeithir ond yn y sector cyfan.

Mae鈥檙 rhybudd yn esbonio mwy am y bygythiad cynyddol hwn ac mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau i ganllaw ac offer defnyddiol i鈥檆h helpu i ddiogelu eich elusen.

Dyddiad estynedig ar gyfer newidiadau i enwau a ddangosir yn gyhoeddus ar y gofrestr elusennau

Fel rhan o鈥檙 newidiadau i鈥檔 gwasanaethau ar-lein, os yw ymddiriedolwyr presennol wedi defnyddio enw arddangos cyhoeddus ar y gofrestr elusennau, caiff eu henw cyfreithiol llawn ei ddangos i鈥檙 cyhoedd, oni bai eu bod yn gwneud cais i鈥檞 ddileu. Gelwir hyn yn oddefeb.

Roedd disgwyl i鈥檙 newidiadau hyn ddigwydd eleni (2019) ond rydym wedi estyn hyn i roi mwy o amser i ymddiriedolwyr wneud cais am oddefeb os oes angen. Bydd y newidiadau yn digwydd o 1 Ebrill 2020.

Gallwn roi goddefeb os oes posibilrwydd y gallai ddangos enw cyfreithiol i鈥檙 cyhoedd roi鈥檙 person neu鈥檙 bobl berthnasol mewn perygl personol. Ni chaiff goddefebau eu rhoi鈥檔 awtomatig.

Cewch wybod yma am newidiadau i enwau arddangos a sut i wneud cais am oddefeb.

Os yw ymddiriedolwyr eisoes wedi cael goddefeb er mwyn i鈥檞 henw cyfreithiol beidio 芒 chael eu dangos i鈥檙 cyhoedd ar y gofrestr, caiff hyn ei gadw. Nid oes rhaid gwneud cais arall am oddefeb.

Gwirio a diweddaru manylion eich elusen.

O 12 Tachwedd 2018, y tro cyntaf rydych yn mewngofnodi i鈥檆h cyfrif ar-lein i lenwi eich ffurflen flynyddol neu ddiweddaru manylion eich elusen bydd rhaid i chi wirio a chadarnhau bod manylion eich elusen yn gywir, neu eu diweddaru os oes angen.

Mae newidiadau eraill i ddiweddaru manylion yr elusen yn cynnwys:

  • dileu enwau arddangos cyhoeddus ar gyfer ymddiriedolwyr ar y gofrestr elusennau
  • cysylltu manylion ymddiriedolwyr - os yw鈥檙 unigolyn yn ymddiriedolwr mwy nag un elusen, bydd newidiadau i鈥檞 manylion yn cael eu gwneud i bob un o鈥檜 cofnodion ar y gofrestr elusennau

Cewch wybod yma am newidiadau i ddiweddaru manylion elusennau a pha wybodaeth sydd wedi鈥檌 chwmpasu yn y gwasanaeth.

Os oes angen cymorth arnoch i baratoi ffurflen flynyddol mae ein canllawiau yn esbonio鈥檙 hyn y mae angen i chi ei wneud.

Elusennau sy鈥檔 gweithio鈥檔 rhyngwladol: sut i asesu risg

Gall elusennau sy鈥檔 gweithio鈥檔 rhyngwladol wynebu rhai risgiau oherwydd eu hamgylchedd gweithredu gan gynnwys:

  • defnyddio sancsiynau ariannol
  • lefelau uwch o lygredd neu weithgarwch troseddol
  • presenoldeb terfysgwyr, grwpiau gwaharddedig neu endidau dynodedig

Fel rheoleiddiwr a arweinir gan risg, canolbwyntiwn ar feysydd risg uwch a disgwyliwn yr un fath gan ymddiriedolwyr. Yn ddiweddar cyhoeddodd ein T卯m Ymgysylltu ag Elusennau Rhyngwladol flog i鈥檆h helpu i asesu risg yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau ag offer rheoli risg a all eich helpu i ddiogelu eich elusen rhag niwed.

.

Troseddau HMRC ar gyfer methu 芒 hwyluso efadu trethi - beth ydynt a beth i鈥檞 wneud

Mae HMRC yn atgoffa cwmn茂au a phartneriaethau (gan gynnwys elusennau) y gallant fod yn atebol yn droseddol os ydynt yn methu ag atal eu staff neu鈥檙 rhai sy鈥檔 eu cynrychioli rhag hwyluso efadu trethi anghyfreithiol.

Nid yw鈥檙 drosedd, a ddaeth i rym ym Medi 2017, yn newid yn sylweddol yr hyn a olygir wrth efadu trethi anghyfreithiol, ond mae鈥檔 canolbwyntio ar bwy sy鈥檔 atebol am ei alluogi neu ei ganiat谩u.

Yn hytrach na cheisio priodoli efadu treth anghyfreithiol i sefydliad, mae鈥檔 canolbwyntio ar fethiant y sefydliad hwnnw i atal y rhai sy鈥檔 gweithio ar gyfer, yn gweithredu ar gyfer neu ar ei ran rhag cyflawni troseddu efadu trethi troseddol.

Mae HMRC wedi cyhoeddi gwybodaeth am hyn, gan gynnwys yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i adeiladu eu gweithdrefnau mewnol yn sgil y troseddau. Gellir gweld y 鈥榯roseddau corfforaethol鈥� yn .

Mae HMRC hefyd wedi lansio llwybr hunan-adrodd penodedig newydd ar gyfer sefydliadau sydd heb atal hwyluso efadu trethi. Cewch wybod sut i hunan-adrodd, a pham y gall fod er budd sefydliad ar dudalen we Dweud wrth HMRC bod eich sefydliad heb atal hwyluso efadu trethi ar 188体育.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch atal hwyluso efadu trethi cysylltwch 芒 HMRC.

Oriau agor estynedig y ganolfan gyswllt

Estynnwyd oriau agor ein canolfan gyswllt yn ddiweddar gan ddwy awr bob dydd i helpu i wella鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae鈥檔 cael ei dreialu am gyfnod o dri mis (o 1 Mai 2019) a bydd yn asesu a yw鈥檙 oriau agor newydd yn bodloni eich anghenion yn well.

Ein horiau agor newydd yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i hanner dydd ac 1pm i 4pm. Y rhif ff么n yw 0300 066 9197.

Cyfeiriadau e-bost newydd y Comisiwn Elusennau

Mae ein cyfeiriadau e-bost wedi newid, nid ydynt yn cynnwys .gsi yn y cyfeiriad mwyach. Bydd rhaid i chi ddiweddaru unrhyw gofnodion sy鈥檔 cynnwys cyfeiriadau e-bost y Comisiwn Elusennau.

Er enghraifft, newidiwch:

i:

Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion e-bost a dilynwch ni

Cofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost 188体育 yw鈥檙 ffordd symlaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael rhybudd.

Mae鈥檔 ddefnyddiol i鈥檔 dilyn ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd a . Rhannwn wybodaeth, canllawiau a diweddariadau pwysig ar gyfer y sector elusennol.