Codi t芒l am wasanaethau: enghreifftiau o fuddion i'r tlawd
Cyhoeddwyd 16 Medi 2013
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau o sut y gallai elusennau, y mae鈥檙 taliadau am ddefnyddio eu gwasanaethau neu eu cyfleusterau, yn fwy na鈥檙 hyn y gall y tlawd ei fforddio, ddarparu buddion i鈥檙 tlawd.
1. Sefydliadau addysgol elusennol (e.e. ysgolion, colegau, prifysgolion)
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai sefydliadau addysgol elusennol, megis ysgolion annibynnol elusennol, wneud darpariaeth ar gyfer y tlawd i gael budd.
Ym mhob achos bydd yn dibynnu ar y ddarpariaeth ei hun ac amgylchiadau鈥檙 elusen codi ffioedd arbennig a yw darparu buddion i鈥檙 tlawd yn fwy na budd lleiaf neu symbolaidd:
- cynnig bwrsariaethau neu lefydd eraill o leoedd 芒 chymorth
- cydweithredu ag ysgolion gwladol, gan gynnwys gweithio ag academ茂au neu noddi academ茂au
- cael trefniant cyllido rhwng ysgol annibynnol a chorff rhoi grantiau ar wah芒n, a chysylltiedig o bosib
- caniat谩u i ddisgyblion o ysgolion gwladol lleol ddefnyddio ei chyfleusterau addysgol (gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, megis pwll nofio, neuadd chwaraeon, caeau chwarae ac astro, dylunio technoleg neu鈥檙 celfyddydau a chyfleusterau cyngerdd er enghraifft)
- caniat谩u i ddisgyblion o ysgolion gwladol lleol fynychu rhai gwersi neu ddigwyddiadau addysgol eraill mewn ysgolion annibynnol
- ffurfioli ffyrdd o rannu gwybodaeth, sgiliau, arbenigedd a phrofiad gyda darparwyr addysgol eraill, er enghraifft, ysgolion gwladol, colegau neu academ茂au fel math o nawdd anariannol
- secondio鈥檔 ffurfiol staff addysgu i ysgolion neu golegau gwladol eraill, er enghraifft mewn pynciau arbenigol fel y gwyddorau unigol neu ieithoedd modern;
- gweithio gydag ysgolion dramor sy鈥檔 darparu addysg i blant o deuluoedd na allant fforddio talu am addysg y plentyn
- cynorthwyo ysgolion gwladol i鈥檞 helpu i baratoi myfyrwyr Safon Uwch i gael mynediad i brifysgolion
- cynnal digwyddiadau ysgolion ar y cyd gydag ysgolion gwladol ac annibynnol lleol eraill, megis diwrnodau chwaraeon, mathemateg, sillafu, cerddoriaeth, cystadlaethau neu gynyrchiadau dawns a drama
- cydweithio ag ysgol wladol ar brosiect i wella ansawdd addysgu a dysgu i ddisgyblion
- cydweithio ag ysgol wladol i rannu sgiliau a phrofiad
- gweithio mewn partneriaeth ag ysgol dramor nad yw鈥檔 codi ffioedd i rannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd a threfnu ymweliadau cyfnewid diwylliannol i ddisgyblion yn y ddwy ysgol
2. Elusennau eraill sy鈥檔 hyrwyddo addysg ac elusennau sy鈥檔 hyrwyddo鈥檙 celfyddydau (e.e. theatrau, neuaddau cyngerdd, amgueddfeydd, orielau celf)
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai mathau eraill o elusennau sy鈥檔 hyrwyddo addysg (megis elusennau sy鈥檔 hyrwyddo addysg mewn pwnc arbennig, neu amgueddfeydd) ac elusennau sy鈥檔 hyrwyddo鈥檙 celfyddydau (megis theatrau elusennol, neuaddau cyngerdd ac orielau celf) wneud darpariaeth i鈥檙 tlawd gael budd
- cynnig tocynnau rhatach
- cynnig aelodaeth am ddim neu ratach
- systemau yn seiliedig ar loteri neu bleidlais ar gyfer dyrannu lleoedd ar gyfer tocynnau rhatach i gyngherddau neu berfformiadau
- cynnig cyfraddau am ddim neu ratach ar gyfer part茂on ysgol wladol mewn perfformiadau
- cynnig cyfraddau am ddim neu ratach ar gyfer part茂on ysgol wladol mewn arddangosfeydd ac amgueddfeydd
- cynnal perfformiadau ychwanegol am ddim, cost isel neu gyda dirprwyon o ddrama neu gyngerdd neu ddefnyddio cyfryngau eraill megis fideos, ffilmiau, DVD neu CD er mwyn galluogi eraill i fwynhau鈥檙 digwyddiad
- cynnig teithiau am ddim o theatr neu leoliad tebyg arall
- darparu gweithdai drama i fyfyrwyr
- cynnig darlithoedd am ddim
- darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer awduron neu berfformwyr
- perfformio mewn ysgolion gwladol lleol neu gyfleusterau cymunedol eraill
- defnyddio鈥檙 rhyngrwyd i gyhoeddi neu drosglwyddo digwyddiadau a chyhoeddiadau i gynulleidfa ehangach
- yn ogystal 芒 chynnig consesiynau ar bris tocynnau, gallai theatr leol hefyd gael lle arddangos i bobl leol weld gweithiau celf a chymdeithas actio amatur y gall pobl leol ymuno 芒 hi
- cynnig swyddi ychwanegol neu leoedd gwirfoddoli, er enghraifft mewn arddangosfeydd, amgueddfeydd neu ddigwyddiadau, yn benodol ar gyfer pobl ddi-waith, sy鈥檔 fyfyrwyr neu am resymau eraill sydd ag incwm cyfyngedig a rhoi cyfleoedd iddynt fwynhau鈥檙 arddangosfa, neu鈥檙 digwyddiad, am ddim
- darparu cynlluniau mentora, y gellid eu cynnig mewn person, dros y ff么n neu drwy鈥檙 rhyngrwyd er enghraifft
- darparu cynlluniau rhwydweithio i rannu gwybodaeth addysgol, er enghraifft cynyddu dealltwriaeth o arferion gweithio mwy diogel mewn maes arbennig
3. Elusennau sy鈥檔 hyrwyddo iechyd neu鈥檔 lleddfu salwch (e.e. ysbytai elusennol)
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy鈥檔 hyrwyddo iechyd neu鈥檔 lleddfu salwch, megis ysgolion elusennol, wneud darpariaeth i鈥檙 tlawd gael budd:
- cynnig triniaeth am ddim neu ar gyfradd ratach
- darparu triniaeth a delir gan yswiriant meddygol hygyrch neu gynlluniau budd eraill. (Byddai hynny鈥檔 dibynnu ar gost cynlluniau o鈥檙 fath a pha fathau o wasanaethau y mae hawl gan bobl eu cael oddi danynt)
- cynnig mynediad am ddim i offer meddygol arbenigol sydd heb fod ar gael yn yr ysbyty GIG lleol, neu drwy gynnig nifer o welyau yn yr ysbyty elusennol yn rhad ac am ddim i gleifion GIG
- darparu hyfforddiant meddygol i nyrsys neu feddygon mewn ysbyty GIG sy鈥檔 cynnig budd i gleifion nad ydynt yn talu ffioedd yn yr ysbyty hwnnw
- datblygu technolegau newydd a gwneud gwaith ymchwil meddygol lle mae鈥檙 canlyniadau defnyddiol ar gael i鈥檙 cyhoedd ac yn cael eu rhannu ag ysbytai ac ymarferwyr meddygol nad ydynt yn codi ffioedd
4. Elusennau sy鈥檔 darparu gofal preswyl
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy鈥檔 darparu gofal preswyl wneud darpariaeth i鈥檙 tlawd gael budd:
- cyllid, a gynigir gan awdurdod lleol, i dalu am le mewn cartref gofal
- gwahodd pobl leol sy鈥檔 oedrannus ac mewn angen, ond sy鈥檔 byw yn eu cartrefi eu hunain, i ymuno 芒鈥檙 trigolion am brydau bwyd, neu fynd ar deithiau gyda nhw, neu ymuno 芒 gweithgareddau adloniadol wedi鈥檜 trefnu yn y cartref gofal
- darparu gofal seibiant
5. Elusennau sy鈥檔 hyrwyddo treftadaeth neu ddiogelwch neu welliant amgylcheddol
Mae鈥檙 canlynol yn rhai enghreifftiau penodol o sut y gallai elusennau sy鈥檔 hyrwyddo diogelwch neu welliant amgylcheddol wneud darpariaeth i鈥檙 tlawd gael budd:
- cynnig ffioedd aelodaeth neu ffioedd mynediad am ddim neu ratach
- darparu mynediad cyhoeddus agored am ddim i dir, megis tir comin, cefn gwlad agored, llwybrau cyhoeddus, llwybrau arfordir, porthladdoedd a choetiroedd
- cynnig cyfleoedd dysgu, mentora a hyfforddi i ysgolion a sefydliadau addysgol eraill
- darparu cyhoeddiadau a chylchlythyron am ddim ar brosiectau gwarchod a chadwraeth
- darparu gwybodaeth a chyngor am ddim ar ddiogelu adeiladau, cadwraeth tir, lleihau 么l-troed carbon a materion newid amgylcheddol a newid hinsawdd eraill
- darparu gwybodaeth a 鈥榬hith-deithiau鈥� o adeiladau hanesyddol a deunydd addysgol arall trwy鈥檙 rhyngrwyd
- darparu gwybodaeth a chyngor am ddim ar archaeoleg