Papur polisi

Newidiadau i鈥檙 Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen

Diweddarwyd 3 Mawrth 2021

This papur polisi was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

Mae鈥檙 Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws wedi鈥檌 ymestyn tan 30 Medi 2021 a bydd lefel y grant sydd ar gael i gyflogwyr drwy鈥檙 cynllun yn aros yr un fath tan 30 Mehefin 2021.

1. Newidiadau i lefel y grant o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn cael ei gostwng a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, mae鈥檔 rhaid i chi barhau i dalu eich cyflogeion sydd ar ffyrlo 80% o鈥檜 cyflog, hyd at uchafswm o 拢2,500 y mis, am y cyfnod y maent ar ffyrlo.

Mae鈥檙 tabl isod yn dangos lefel cyfraniad y llywodraeth a fydd ar gael yn y misoedd sydd i ddod, cyfraniad gofynnol y cyflogwr a鈥檙 swm y bydd y cyflogai yn ei gael bob mis tra bo鈥檙 cyflogai ar ffyrlo 100% o鈥檙 amser.

Mae uchafswm cyflog yn gymesur 芒鈥檙 oriau na chawsant eu gweithio.

Mai Mehefin Gorffennaf Awst Medi
Cyfraniad y llywodraeth: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio 80% hyd at 拢2,500 80% hyd at 拢2,500 70% hyd at 拢2,187.50 60% hyd at 拢1,875 60% hyd at 拢1,875
Cyfraniad y cyflogwr: CYG a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Cyfraniad y cyflogwr: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio Na Na 10% hyd at 拢312.50 20% hyd at 拢625 20% hyd at 拢625
Am yr oriau na chawsant eu gweithio, mae鈥檙 cyflogai鈥檔 cael 80% hyd at 拢2,500 y mis 80% hyd at 拢2,500 y mis 80% hyd at 拢2,500 y mis 80% hyd at 拢2,500 y mis 80% hyd at 拢2,500 y mis

Gallwch barhau i ddewis ychwanegu at gyflog eich cyflogeion, dros y cyfanswm o 80% a鈥檙 uchafswm o 拢2,500 am yr oriau na chawsant eu gweithio, allan o鈥檆h poced eich hun.