Canllawiau

Twyll gosod cynigion: cyngor ar gyfer caffaelwyry y sector cyhoeddus

Diweddarwyd 20 Mehefin 2016

Beth yw twyll gosod cynigion?

Twyll gosod cynigion yw pan fydd cyflenwyr yn cytuno i gyfyngu cystadleuaeth yn y broses gaffael, gan wadu pris teg i鈥檙 cwsmer. Gall cytundebau twyll gosod cynigion fod ar sawl ffurf, megis:

  • cylchdroi cynigion 鈥� pan fydd cwmn茂au yn cytuno i gymryd eu tro i gyflwyno鈥檙 cynnig isaf
  • ffrwyno cynigion 鈥� pan fydd un cwmni neu fwy yn cytuno i beidio cynnig, neu i dynnu cynnig yn 么l
  • prisio ffug 鈥� bydd cynigwyr yn trefnu i un neu fwy ohonynt gyflwyno cynnig ffug uchel, gan greu camargraff i鈥檙 caffaelwr o鈥檙 pris cystadleuol

Pam ddylai caffaelwyr ofidio am dwyll gosod cynigion

Gall gostio arian i鈥檙 trethdalwr a gall eithrio cystadleuwyr mwy effeithiol o鈥檙 broses fidio.

Gall hefyd leihau ysgogiad cyflenwyr i wella ansawdd neu arloesi.

Sut i nodi patrymau cynnig amheus

  • cynigion a dderbyniwyd ar yr un pryd neu sy鈥檔 cynnwys geiriad tebyg neu anarferol
  • gwahanol fidiau gyda phrisiau unfath
  • cynigion yn cynnwys llai o fanylion na鈥檙 disgwyl
  • y cynigiwr tebygol yn methu cyflwyno cynnig
  • y cynigiwr isaf yn peidio cymryd y contract
  • cynigion sy鈥檔 gostwng pan fydd cynigiwr newydd neu anghyson yn ymddangos
  • y cynigiwr llwyddiannus yn mynd ymlaen i roi鈥檙 gwaith ar gontract i gyflenwr oedd wedi cyflwyno cynnig uwch
  • gostyngiadau disgwyliedig yn diflannu neu newidiadau munud olaf eraill
  • cynigion sy鈥檔 amheus o uchel heb wahaniaethau cost rhesymegol (er enghraifft, pellteroedd danfon)
  • cynigiwr sy鈥檔 cyfaddef i drafodaethau gydag eraill neu sydd 芒 gwybodaeth am fidiau blaenorol

Beth all caffaelwyr y sector cyhoeddus ei wneud i leihau鈥檙 risgiau o ymddygiad gwrthgystadleuol?

  • chwiliwch am batrymau cynnig amheus, a hysbysu cyflenwyr y byddwch yn chwilio
  • ystyriwch ofyn i gynigwyr lofnodi cymalau atal cydgynllwynio ac/neu dystysgrifau o gynigion annibynnol
  • dylech osgoi rhestrau rheoli tendr sy鈥檔 annog cwmn茂au i roi cynnig hyd yn oed os nad ydynt eisiau鈥檙 gwaith
  • rhannwch eich profiad gyda chaffaelwyr eraill yn y sector cyhoeddus

Gall twyll gosod cynigion gostio arian i鈥檙 trethdalwr. Byddwch yn effro i鈥檙 posibiliad bod eich cyflenwyr yn rigio cynigion ac adrodd am unrhyw ymddygiad amheus i鈥檙 CMA.

Adrodd am gart茅l:

Llinell cart茅ls: 020 3738 6888

E-bost: [email protected]

Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.