Defnyddio Offer TWE Sylfaenol i roi gwybod i CThEF pan fo cyflogai yn gadael
Diweddarwyd 27 Chwefror 2025
Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn defnyddio鈥檙 Offer TWE Sylfaenol i weithredu鈥檙 gyflogres. Mae鈥檔 esbonio鈥檙 camau y mae鈥檔 rhaid i chi eu dilyn pan fydd cyflogai鈥檔 gadael neu鈥檔 marw, a鈥檙 drefn y mae angen iddynt gael eu gwneud.
Nid yw鈥檙 canllaw hwn yn cynnwys yr hyn i鈥檞 wneud os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol o ran y cyflogai:
- mae ei swydd yn cael ei dileu (yn agor tudalen Saesneg)
- mae鈥檔 ymddeol 芒 phensiwn y gweithle
Ychwanegu taliad terfynol y cyflogai
Dilynwch y camau hyn i ychwanegu taliad terfynol y cyflogai cyn gwneud cyflwyniad terfynol ar gyfer y cyflogai sy鈥檔 gadael.
- Bydd angen i chi lansio Offer TWE Sylfaenol a dewis Hafan. Bydd hyn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen hafan.
- Dewiswch y cyflogwr cywir o鈥檙 rhestr 鈥楥yflogwyr鈥� ar yr ochr chwith.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw鈥檙 cyflogai sydd yng nghanol y dudalen 鈥楻heoli cyflogeion鈥� er mwyn mynd at y dudalen ar gyfer 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.
- Dewiswch Taliadau鈥檙 cyflogeion o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch Ychwanegu taliad cyflogai o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Nodwch y dyddiad talu. Dyma鈥檙 dyddiad y bydd y taliad terfynol yn cael ei wneud i鈥檙 cyflogai.
- Nodwch swm y cyflog at ddibenion Treth Incwm. Dyma faint o d芒l 鈥榮afonol鈥� 鈥� er enghraifft cyflog, t芒l gwyliau a thaliadau bonws 鈥� sy鈥檔 ddyledus i鈥檙 cyflogai hwn hyd at ei ddyddiad gadael. Peidiwch 芒 chynnwys taliadau untro megis taliadau diswyddo neu gyfandaliadau ymddeol.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn eich blaen drwy鈥檙 sgriniau hyd nes i chi ddychwelyd i鈥檙 sgrin 鈥楳anylion y cyflogai鈥�. Mae hyn yn creu Datganiad Taliadau Llawn.
Ychwanegu dyddiad gadael y cyflogai
Dilynwch y camau canlynol i ychwanegu dyddiad gadael y cyflogai ar 么l creu鈥檙 Datganiad Taliadau Llawn terfynol.
- O ganol y dudalen 鈥楻heoli cyflogeion鈥�, dewiswch y cyflogai perthnasol.
- Dewiswch Crynodeb o鈥檙 cyflogai sy鈥檔 gadael sydd ar ochr chwith y dudalen ar gyfer 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.
- Dewiswch Ychwanegu dyddiad gadael sydd ar ochr chwith y dudalen 鈥楥rynodeb o鈥檙 cyflogai sy鈥檔 gadael鈥�.
- Gwiriwch eich bod wedi cwblhau pob un o鈥檙 camau sydd wedi鈥檜 nodi yn yr arweiniad ac ar y dudalen 鈥榊chwanegu dyddiad gadael鈥�.
- Nodwch ddyddiad gadael y cyflogai. Dyma ei ddyddiad olaf yn y gwaith. Os yw鈥檙 cyflogai wedi marw, dyma ddyddiad ei farwolaeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i鈥檙 dudalen 鈥楢dolygu manylion cyflogai sy鈥檔 gadael鈥�.
Anfon manylion y cyflogai sy鈥檔 gadael at CThEF
Anfonwch fanylion ynghylch y cyflogai sy鈥檔 gadael a鈥檌 d芒l terfynol i CThEF ar neu cyn y diwrnod y byddwch yn talu鈥檙 cyflogai.
- O鈥檙 鈥楬afan鈥�, dewiswch y cyflogwr o鈥檙 rhestr 鈥楥yflogwyr鈥�.
- Dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno聽o鈥檙 ddewislen ar y chwith i fynd i鈥檙 dudalen 鈥楥yflwyniad heb ei wneud鈥�.
- Dewiswch Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno o鈥檙 ddewislen ar y chwith.
- Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen 鈥楥yflwyno data i Gyllid a Thollau EF鈥�.
- Dewiswch Nesaf i fynd i鈥檙 dudalen, 鈥楧ilysu cyflwyniad鈥�.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i鈥檙 dudalen, 鈥楽tatws y cyflwyniad鈥�, a bydd y dudalen, 鈥楥anlyniadau鈥檙 cyflwyniad鈥�, yn dilyn honno. Bydd hyn yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi ar gyfer eich cyflwyniad.
Argraffu P45 i鈥檆h cyflogai
Ar 么l i chi anfon y manylion ynghylch y cyflogai at CThEF, gallwch fwrw golwg dros y P45 a鈥檌 hargraffu. Mae鈥檙 P45 yn dangos faint o dreth mae鈥檙 cyflogai wedi鈥檌 thalu ar ei gyflog yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Mae鈥檔 rhaid i chi roi鈥檙 P45 i鈥檆h cyflogai pan fydd yn gadael. Bydd angen i鈥檙 cyflogai roi鈥檙 P45 i鈥檞 cyflogwr nesaf.
- O鈥檙 鈥楬afan鈥�, dewiswch y cyflogwr o鈥檙 rhestr 鈥楥yflogwyr鈥�.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw鈥檙 cyflogai sydd yng nghanol y dudalen 鈥楻heoli cyflogeion鈥� er mwyn mynd at y dudalen ar gyfer 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.
- Dewiswch Crynodeb o鈥檙 cyflogai sy鈥檔 gadael o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch y cysylltiad yn y golofn 鈥楥amau鈥� sydd yng nghanol y dudalen ar gyfer bwrw golwg dros y P45.
- Argraffwch y P45 a鈥檌 rhoi i鈥檙 cyflogai. Os oes 鈥榃1鈥� neu 鈥楳1鈥� yng nghod treth y cyflogai, bydd angen i chi nodi symiau 芒 llaw ar 么l argraffu鈥檙 P45.
Bwrw golwg dros fanylion cyflogai sydd wedi gadael
- O鈥檙 鈥楬afan鈥�, dewiswch y cyflogwr o鈥檙 rhestr 鈥楥yflogwyr鈥�.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw鈥檙 cyflogai sydd yng nghanol y dudalen 鈥楻heoli cyflogeion鈥� er mwyn mynd i鈥檙 dudalen 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.
- Dewiswch Taliadau鈥檙 cyflogeion o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch Crynodeb o鈥檙 flwyddyn hyd yn hyn ar gyfer y cyflogai i fwrw golwg dros fanylion terfynol y cyflogai.