Canllawiau

Defnyddwyr tro cyntaf: sut i osod a sefydlu Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 27 Chwefror 2025

Rhagarweiniad

Bydd y canllaw hwn yn mynd â chi trwy’r camau er mwyn gosod Offer TWE Sylfaenol ar eich cyfrifiadur, yn ogystal ag sefydlu cyflogwr a chyflogeion.

Mae Offer TWE Sylfaenol yn feddalwedd gyflogres sy’n rhad ac am ddim gan CThEF ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 cyflogai. Gallwch ddefnyddio’r feddalwedd i gyfrifo didyniadau cyflogres a rhoi gwybod am wybodaeth am y gyflogres ar-lein mewn amser real.

Bydd yr Offer TWE Sylfaenol yn gwneud y canlynol:

  • cofnodi manylion eich cyflogeion
  • cyfrifo a chofnodi cyflog, treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich cyflogeion, ynghyd ag unrhyw ddidyniadau benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig bob diwrnod cyflog
  • cynhyrchu’r data cyflogres sydd angen i chi eu hanfon at CThEF mewn amser real, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogeion sy’n cychwyn ac yn gadael
  • cynhyrchu slipiau cyflog
  • cynhyrchu ‘Cofnod o Daliadau’r Cyflogwrâ€� sy’n cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu i CThEF
  • eich helpu chi gyda chyfrifo taliadau statudol fel Tâl Salwch Statudol a Thâl ar y cyd i rieni gan ddefnyddio’r cyfrifianellau a ddarperir
  • eich helpu chi gyda hawlio Lwfans Cyflogaeth i ostwng eich rhwymedigaeth flynyddol o ran Yswiriant Gwladol

Nid yw’n addas at ddiben asiantau neu fiwrôs cyflogres sy’n gweithredu ar ran sawl cyflogwr.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol cyn defnyddio’r canllaw hwn:

Bydd angen cysylltiad â’r rhyngrwyd fel y gall Offer TWE Sylfaenol wneud y canlynol:

  • anfon eich gwybodaeth am y gyflogres at CThEF bob tro y byddwch yn talu eich cyflogeion
  • diweddaru’r feddalwedd yn awtomatig

Gosod Offer TWE Sylfaenol

Dyma ganllaw i ddefnyddwyr Windows a Mac. Efallai y bydd yn rhaid i bobl sy’n defnyddio Mac newid eu gosodiadau diogelwch a phreifatrwydd er mwyn gallu gosod y feddalwedd.

Gall defnyddwyr Linux gael help gyda gosod Offer TWE Sylfaenol ar systemau gweithredu Linux.

  1. Dewiswch y ffeil sip ddwywaith, hynny yw’r un rydych chi wedi’i lawrlwytho ar eich cyfrifiadur.
  2. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffenestr naid hyd nes y byddwch chi’n cyrraedd tudalen y cytundeb trwyddedu.
  3. Darllenwch y cytundeb trwyddedu.
  4. Dewiswch ‘Rwy’n derbyn y cytundeb� (‘I accept the agreement�) i barhau â’r gwaith gosod ac yna dewis Nesaf. Os na fyddwch yn derbyn y cytundeb, ni allwch osod Offer TWE Sylfaenol.
  5. Dewiswch ‘Gosodiad safonol� (‘Standard installation�). Os ydych yn ddefnyddiwr uwch neu’n weinyddwr system, gallwch ddewis ‘Gosodiad wedi’i deilwra� (‘Custom installation�) i newid gosodiadau’r gwaith gosod.
  6. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf hyd nes y byddwch yn cyrraedd y dudalen ‘Gwirio am ddiweddariadau’n awtomatigâ€� (‘Check for updates automaticallyâ€�).
  7. Dewiswch y blwch dewis i wneud yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw ddiweddariadau i’r offeryn.
  8. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf, darllen yr wybodaeth ar bob tudalen, hyd nes y byddwch yn cyrraedd y dudalen ‘Wrthi’n gosodâ€� (‘Installingâ€�). Gall y gwaith gosod bara hyd at 10 munud. Pan fydd hyn wedi gorffen, byddwch yn gweld tudalen ‘Gosodiad wedi’i gwblhauâ€� (‘Installation completeâ€�).
  9. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýGorffen i gwblhau’r gosodiad.

 Bydd eicon ar gyfer llwybr byr at Offer TWE Sylfaenol yn ymddangos ar fwrdd gwaith eich cyfrifiadur.

Os cewch chi broblemau wrth osod Offer TWE Sylfaenol

Os na fydd Offer TWE Sylfaenol yn cael eu gosod yn iawn, efallai y bydd modd datrys y broblem os gwnewch chi’r canlynol:

  • ailgychwyn eich cyfrifiadur
  • rhedeg y gosodiad eto

Mae rhai rhaglenni gwrthfeirysau’n rhoi meddalwedd wedi’i lawrlwytho mewn cwarantîn ar gam. Cysylltwch â darparwr eich meddalwedd wrthfeirysau am gymorth os na allwch gael y ffeil yn ôl allan o gwarantîn.

Ychwanegu cyflogwr

Er mwyn defnyddio Offer TWE Sylfaenol, bydd angen i chi ychwanegu cyflogwr yn gyntaf.

Lansiwch Offer TWE Sylfaenol ar eich cyfrifiadur drwy’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • dewis yr eicon Offer TWE Sylfaenol ar eich bwrdd gwaith ddwywaith
  • chwilio am ‘Basic PAYE Toolsâ€� yn eich dewislen cychwyn

Dewiswch Ychwanegu cyflogwr o’r ddewislen ar y chwith i fynd i’r dudalen ‘Ychwanegu cyflogwr�.

Mae’n rhaid llenwi meysydd sydd â seren ar eu pwys nhw.

Dewiswch symbol y mark cwestiwn gwyrdd os oes angen help arnoch gyda maes.

  1. Ar y dudalen ‘Ychwanegu cyflogwr�, nodwch enw’r cyflogwr.
  2. Nodwch Gyfeirnod TWE y Cyflogwr, sef 3 rhif wedi’u dilyn gan flaenslaes a hyd at 10 o gymeriadau. Gallwch ddod o hyd i hwn ar y llythyr a ddaeth gan CThEF ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr.
  3. Nodwch gyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon � mae’r cyfeirnod hwn, sy’n 13 o gymeriadau, hefyd i’w weld ar eich llythyr gan CThEF.
  4. Nodwch eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth os yw’n berthnasol.
  5. Nodwch eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad os yw’n berthnasol.
  6. Dewiswch y flwyddyn dreth berthnasol ar gyfer eich cyflwyniad gwybodaeth amser real cyntaf gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.
  7. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf.
  8. Nodwch fanylion am gyfeiriad y cyflogwr.
  9. Dewiswch y blwch dewis os ydych wedi’ch esemptio rhag gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr.
  10. Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen gadarnhau.
  11. Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen ac wedyn dewiswch Nesaf.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr�, sy’n cynnwys neges o rybudd (wedi’i nodi gan driongl oren) am Lwfans Cyflogaeth.

  1. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýLwfans Cyflogaeth yn y ddewislen ar y chwith.
  2. Darllenwch y meini prawf cymhwystra ar y dudalen ac yna dewis Nesaf.
  3. Atebwch y cwestiynau ar y dudalen ‘Lwfans Cyflogaeth�.
  4. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf i weld statws eich cymhwystra ar gyfer Lwfans Cyflogaeth.

Nid oes angen i chi ychwanegu cyflogeion os dim ond anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol sydd angen i chi ei wneud.

Ychwanegu cyflogai

  1. Dewiswch Ychwanegu cyflogai o’r ddewislen ar chwith y dudalen ‘Rheoli cyflogeion�.
  2. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNewydd a phresennol ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogeion.
  3. Llenwch eu manylion personol, gan gynnwys eu henw, cyfeiriad, rhywedd, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol (os yw’n hysbys) a rhif eu pasbort (os yw’n hysbys).
  4. Nodwch eu ID ar y gyflogres os ydych wedi trefnu un. Fel arall, gallech greu cofnod dyblyg o gyflogaeth ar gyfer y cyflogai hwn. Bydd CThEF yn ei ddefnyddio ar unrhyw ohebiaeth â chi ynghylch y cyflogai hwnnw. Os byddwch yn ail-gyflogi rhywun yn yr un flwyddyn dreth, peidiwch â defnyddio’i ID gyflogres blaenorol.
  5. Dewiswch nifer yr oriau gwaith arferol yr wythnos.
  6. Os yw’r cyflogai’n gyfarwyddwr cwmni, nodwch ddyddiad y penodiad. Dewiswch ‘Dull cronnus y cyfarwyddwr� ar gyfer cyfrifo’r Yswiriant Gwladol os bydd yn debygol o gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y flwyddyn dreth a ddewiswyd.
  7. Nodwch ddyddiad dechrau’r gyflogaeth.
  8. Dewiswch sail ar gyfer sefydlu’r cyflogai � cyflogai newydd gyda P45 neu heb P45, cyflogai newydd sy’n cael pensiwn galwedigaethol, cyflogai newydd wedi’i secondio i weithio yn y DU, neu gyflogai presennol. Bydd yr opsiwn a ddewiswyd yn codi’r cwestiynau cysylltiedig.
  9. Llenwch y manylion talu, gan gynnwys pa mor aml rydych yn talu eich cyflogai, y cod treth, llythyren gategori Yswiriant Gwladol (ar gyfer cyflogeion presennol fydd hon i’w gweld ar eich cofnodion cyflogres), p’un a oes angen didynnu benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig (gweler y llythyr perthnasol gan CThEF ar gyfer y math o gynllun).
  10. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf i orffen ychwanegu cyflogai.

Dim ond os bydd CThEF yn gofyn i chi newid cod treth y dylech chi wneud hyn.

Ar ôl y gwaith gosod a sefydlu

Gallwch nawr ddechrau rhedeg cyflogres gydag Offer TWE Sylfaenol.

Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF pan fydd cyflogai’n gadael, anfon Diweddariad Blwyddyn Gynharach, canfod a gwirio rhif Yswiriant Gwladol cyflogai, ac anfon Crynodeb o Daliadau Cyflogwr gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.