Osgoi gwneud camgymeriadau wrth lenwi ffurflen atwrneiaeth arhosol
Mae鈥檙 canllaw hwn wedi cael ei ysgrifennu i helpu鈥檙 rhoddwr osgoi gwneud camgymeriadau wrth lenwi ffurflen atwrneiaeth arhosol (LPA).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i lenwi鈥檙 ffurflenni LPA ac osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.
Yn y canllawiau hyn, mae 鈥榗hi鈥� yn golygu鈥檙 rhoddwr.
Mae鈥檔 bwysig bod y ffurflenni LPA yn cael eu llenwi鈥檔 gywir. Efallai na fydd yr atwrneiod a benodwyd gennych yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os oes camgymeriad yn yr LPA.
Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich LPA, gallai olygu:
-
oedi yn y broses gofrestru
-
nad yw eich LPA yn ddilys dan y gyfraith
-
ni all Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) gofrestru鈥檙 LPA o gwbl
Weithiau gall y broses ymgeisio ymddangos yn gymhleth. Mae鈥檙 canllawiau hyn yn esbonio sut mae osgoi鈥檙 camgymeriadau mwyaf cyffredin.
I鈥檆h helpu i leihau鈥檙 siawns o wneud camgymeriadau, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein 鈥楪wneud atwrneiaeth arhosol鈥� Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn . Mae hefyd yn helpu i鈥檆h tywys drwy鈥檙 broses. Dim ond yn Saesneg y mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael.