Beth i’w wneud wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin
Diweddarwyd 20 Tachwedd 2023
Cyn i chi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin (IBF)
-
Gwiriwch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyfleusterau mewndirol wrth y ffin. Nid yw pob cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn cyflawni’r un swyddogaethau.
-
Gwiriwch pa mor brysur yw cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) cyn dechrau ar eich taith.
-
Cadwch le i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) � bydd cadw lle yn golygu y dylem allu delio â chi’n gynt.
Does dim rhaid i fasnachwyr sy’n defnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Gall Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig ddechrau symudiad cludo nwyddau, a dod ag ef i ben, ar ei safle ei hun.
Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn symud y canlynol:
- nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben
- nwyddau i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael gwybod i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny
Pan fydd angen i chi, o bosibl, ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin
Mae’n rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch a oes angen i chi gael eich nwyddau wedi’u gwirio gan y tollau wrth gyrraedd neu a allwch barhau â’ch taith.
Dylech ddefnyddio’ch cyfeirnod symud nwyddau yn y gwasanaeth ‘� i ddeall a yw’ch nwyddau’n cael eu cadw. Os ydych yn cyrraedd Porthladd Dover neu Eurotunnel neu Gaergybi, bydd angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin er mwyn i’r gwiriadau hyn gael eu cynnal.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd swyddogion Llu’r Ffiniau yn y porthladd hefyd yn eich atal er mwyn cynnal gwiriadau ar eich cerbyd neu’ch llwyth. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi barhau i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin i gwblhau swyddogaethau’r tollau os ydych wedi cael cyfarwyddiadau i wneud hynny.
Mae’n rhaid mynd â’r nwyddau i gyfleuster mewndirol wrth y ffin yn uniongyrchol, a rhaid i’r nwyddau gyrraedd yn yr un cyflwr ag yr oeddent ar adeg eu mewnforio.
Mae’n bosibl y byddwch yn agored i gosb hyd at £2,500 os na fyddwch yn dilyn cyfarwyddiadau CThEF.
Pan nad oes rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin
Does dim rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych gerbyd sy’n wag
- rydych yn teithio i mewn ac allan o’r DU drwy borthladdoedd eraill
- rydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd/Derbynnydd Awdurdodedig
- rydych yn defnyddio gweithdrefnau mewnforio neu allforio eraill (nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn Cludo Cyffredin) i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r DU
Bod yn ‘barod ar gyfer y ffin�
Byddwch yn barod cyn i chi gyrraedd Caint
Mae’n rhaid i chi fod yn ‘barod ar gyfer y ffin� cyn i chi gyrraedd porthladdoedd Caint neu byddwch yn cael eich gwrthod a gallech wynebu dirwy.
Os ydych yn croesi’r Sianel drwy’r Eurotunnel neu Borthladd Dover, mae’n rhaid i chi wirio bod cerbyd nwyddau trwm (HGV) yn barod i groesi’r ffin.
Ar gyfer symudiadau tuag allan sy’n gadael y DU drwy Borthladd Dover neu’r Eurotunnel
Os oes angen i chi ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin a’ch bod yn dod i Gaint o rywle arall, dylech fod yn barod cyn cyrraedd Caint. Peidiwch ag aros tan i chi gyrraedd y porthladd yng Nghaint neu byddwch yn cael eich gwrthod.
Er mwyn paratoi, dylech fynychu’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Sevington.
Caergybi
Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi, defnyddiwch anfonydd neu dderbynnydd awdurdodedig i ddechrau’ch symudiad cludo neu i ddod ag ef i ben.
Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer porthladdoedd Cymru ar .
Dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw
Bydd angen yr holl waith papur perthnasol arnoch mewn perthynas â’ch symudiad.
Symudiadau’r Confensiwn Cludo Cyffredin
I ddechrau symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin allan o Brydain Fawr (yn Saesneg), bydd yn rhaid i chi:
- cael y canlynol gan eich asiant neu’ch trefnydd anfon nwyddau ar gyfer pob llwyth:
- y Cyfeirnod Lleol (LRN)
- naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio a’u cynnwys mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu Brif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (os oes un) yn ysgrifenedig
- dangos yr LRN a naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio sydd mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu Brif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth yn ysgrifenedig, yn y Swyddfa Ymadael er mwyn cael Dogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD)
I ddod â symudiad i ben mewn Swyddfa Pen y Daith, bydd angen i chi gyflwyno’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo a rhoi’r Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer pob llwyth.
Os ydych yn:
- fasnachwr sy’n defnyddio Swyddfa Pen y Daith mewn Cyfleuster Mewndirol Wrth y Ffin, dylech sicrhau bod y cofnodion mewnforio wedi’u cyflwyno a’u bod wedi cyrraedd mewn pryd i’r nwyddau gyrraedd Swyddfa Pen y Daith
- yrrwr sy’n mynychu Swyddfa Pen y Daith, dylech gael manylion y cofnodion tollau ar gyfer y llwythi sy’n cael eu cario gennych (er enghraifft, rhifau a dyddiadau’r cofnodion)
Bydd angen i nwyddau sy’n cyrraedd heb gofnodion mewnforio gael eu storio dros dro.
Os ydych yn yrrwr sy’n mynychu Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin gyda nwyddau sydd angen cael eu storio dros dro, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cyfleuster arall, ar eich traul eich hun.
Ni ellid defnyddio Cyfleusterau Mewndirol wrth y Ffin at ddibenion storio masnachol.
Symudiadau ATA Carnet
Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau Carnet ATA ar gyfer pob llwyth.
Symudiadau CITES
Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno trwydded CITES ar gyfer pob llwyth.
Lleoliadau cyfleusterau mewndirol wrth y ffin (wedi’u rhestru o’r Gogledd i’r De)
Safle | Lleoliad | Swyddogaethau |
---|---|---|
Caergybi (i mewn ac allan) | Gwasanaeth cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi Parc Cybi, A55 Cyffordd 2, Caergybi, LL65 2YQ |
Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) Stamp Carnets ATA � dim ond os yw Carnet ATA yn cynnwys anifeiliaid byw y mae angen trefnu ymlaen llaw CITES |
Sevington (i mewn ac allan) (yn Saesneg) | Sevington inland border facility, Ashford, TN25 6GE At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 51.132138, 0.914994 |
Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) Stamp Carnets ATA CITES Rheoli traffig |
Stop 24 (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) | Stop 24, Folkestone Services, Junction 11 M20, Hythe, CT21 4BL |
Dechrau symudiad cludo o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben |
Dociau Gorllewinol Dover (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) | Dover Western Docks, Lord Warden Square, Dover, CT17 9DN |
Dechrau symudiad cludo o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben |
Stop 24 a Dociau Gorllewinol Dover
Gall cerbydau, sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington am eu bod yn rhy fawr neu’n cynnwys nwyddau peryglus, gael eu prosesu yn y safleoedd hyn.
Os bydd problem yn codi gyda chyfleusterau mewndirol wrth y ffin CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at Ddociau Gorllewinol Dover neu Stop24.
Mae hyn yn ychwanegol at y gweithrediadau masnachol presennol a ddarperir eisoes yn y safleoedd hyn.
Rhowch wybod i CThEF eich bod yn mynd i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin
Dylech roi gwybod i CThEF ymlaen llaw eich bod yn mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau rydych yn eu symud:
- maent yn mynd i swyddfa ymadael neu swyddfa pen y daith (dechrau symudiad cludo neu’n dod ag ef i ben)
- maent yn dod o dan Garnet ATA
- mae angen trwydded CITES arnynt
Beth bynnag yw’ch rheswm dros fynychu’r safle, os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal� ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.
Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw oedi mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg).
Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin
Bydd arwyddion lleol ar waith i helpu i’ch cyfeirio at y safle ar hyd y prif ffyrdd strategol.
Ar ôl cyrraedd y safle, cewch eich cyfarch gan farsial rheoli traffig.
Bydd camerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig wrth bwyntiau mynediad ac ymadael y safle. Bydd y rhain yn monitro pa gerbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac sy’n ei adael, a hynny er mwyn rheoli traffig a diogelwch.
Bydd archwiliad gweledol cyflym o’r cerbyd yn cael ei wneud gan farsialiaid diogelwch yn y pwynt gwirio wrth y fynedfa. Er enghraifft, byddant yn gwirio nad oes unrhyw ollyngiadau ac nad oes angen gwahardd y cerbyd o ganlyniad i’r gwiriadau hyn.
Yn dilyn hyn, cewch eich cyfeirio at le parcio gwag. Unwaith y byddwch wedi parcio’ch cerbyd, bydd y marsial traffig yn gofyn i chi ddiffodd eich injan a’i gadw wedi’i diffodd tra byddwch wedi parcio. Ni ddylid gadael i injans droi.
Os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal� ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.
Yna, byddwch yn mynd â’ch dogfennau i’r swyddfa flaen ac yn cael eich cyfarwyddo i aros yn eich cerbyd tra bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn cael naill ai cymeradwyaeth a derbynneb ymadael i symud oddi ar y safle, neu ddiffyg cymeradwyaeth lle byddwch yn dilyn proses ar wahân.
Yna, byddwch yn gallu gadael y safle ac ail-ymuno â’r brif ffordd strategol.
Hyd y gwiriadau
Amcangyfrifwn y bydd angen rhwng 1 a 2 awr arnoch yn y cyfleuster i fynd drwy broses glirio’r tollau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser wrth gynllunio’ch taith.
Mae’r safleoedd wedi’u staffio ac yn gweithredu 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gwaith papur, gallwch ddychwelyd i’ch cerbyd a dylech adael ar unwaith.
Cyfleusterau sydd ar gael ar y safleoedd
Bydd pob safle yn darparu dŵr, toiledau a chyfleusterau golchi dwylo. Cynigir cyfleusterau ychwanegol fesul safle, fel yr amlinellir yn yr adrannau sy’n benodol i bob safle. Ni chaniateir poptai na thanau ar y safle.
Os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio
Mae’n bosibl y bydd cerbydau’n cyrraedd y safle sydd wedi’u ‘heithrio� rhag y gofyniad i barcio ar y safle. Mae hyn yn seiliedig ar bethau fel cynnwys llwythi, maint cerbydau a phresenoldeb nwyddau peryglus. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich cerbyd yn cael ei symud i’r mannau archwilio er mwyn i uwch-swyddog diogelwch gynnal archwiliad pellach.
Caiff cerbydau eu heithrio os ydynt yn cynnwys:
- llwythi anarferol, sef:
- pwysau o fwy na 44,000kg
- llwyth echel o fwy na 10,000kg ar gyfer un echel nad yw’n gyrru ac 11,500kg ar gyfer un echel yrru
- lled o fwy na 2.9m
- hyd sefydlog o fwy nag 18.65m
- y nwyddau peryglus canlynol:
- sylweddau ac erthyglau dosbarth 1 (ffrwydron) a sylweddau dosbarth 4.1 (sylweddau sy’n polymeru)
- deunydd niwclear categori I neu II
- nwyddau peryglus â chanlyniadau pellgyrhaeddol
- sylweddau dosbarth 6.1 (pryfladdwyr)
- cerbydau sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) (STGO) 2003
Cyfyngiadau Caergybi o ran tanceri
Ni all Caergybi dderbyn tanceri sy’n cynnwys dros 3,000 litr o hylif peryglus na hylif halogedig.
Nid oes falf penstock yng nghyfleuster Caergybi, felly nad oes ffordd weithrediadol i glirio gollyngiadau.
Mae hylif halogedig yn llygru sianeli dŵr gan ei fod yn cynnwys mater organig, megis:
- llaeth
- bwyd
- cnydau
- dŵr budr
- elifion silwair a slyri